Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 88:1-18

Salm 88:1-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

O ARGLWYDD, Duw fy iachawdwriaeth, liw dydd galwaf arnat, gyda'r nos deuaf atat. Doed fy ngweddi hyd atat, tro dy glust at fy llef. Yr wyf yn llawn helbulon, ac y mae fy mywyd yn ymyl Sheol. Ystyriwyd fi gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll, ac euthum fel un heb nerth, fel un wedi ei adael gyda'r meirw, fel y lladdedigion sy'n gorffwys mewn bedd— rhai nad wyt yn eu cofio bellach am eu bod wedi eu torri ymaith o'th afael. Gosodaist fi yn y pwll isod, yn y mannau tywyll a'r dyfnderau. Daeth dy ddigofaint yn drwm arnaf, a llethaist fi â'th holl donnau. Sela Gwnaethost i'm cydnabod bellhau oddi wrthyf, a'm gwneud yn ffiaidd iddynt. Yr wyf wedi fy nghaethiwo ac ni allaf ddianc; y mae fy llygaid yn pylu gan gystudd. Galwaf arnat ti bob dydd, O ARGLWYDD, ac y mae fy nwylo'n ymestyn atat. A wnei di ryfeddodau i'r meirw? A yw'r cysgodion yn codi i'th foliannu? Sela A fynegir dy gariad yn y bedd, a'th wirionedd yn nhir Abadon? A yw dy ryfeddodau'n wybyddus yn y tywyllwch, a'th fuddugoliaethau yn nhir angof? Ond yr wyf fi yn llefain arnat ti am gymorth, O ARGLWYDD, ac yn y bore daw fy ngweddi atat. O ARGLWYDD, pam yr wyt yn fy ngwrthod, ac yn cuddio dy wyneb oddi wrthyf? Anghenus wyf, ac ar drengi o'm hieuenctid; dioddefais dy ddychrynfeydd, ac yr wyf mewn dryswch. Aeth dy ddigofaint drosof, ac y mae dy ymosodiadau yn fy nifetha. Y maent yn f'amgylchu fel llif trwy'r dydd, ac yn cau'n gyfan gwbl amdanaf. Gwnaethost i gâr a chyfaill bellhau oddi wrthyf, a thywyllwch yw fy nghydnabod.

Salm 88:1-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

O ARGLWYDD, y Duw sy’n fy achub, dw i’n gweiddi am dy help bob dydd ac yn gweddïo arnat ti bob nos. Plîs, cymer sylw o’m gweddi, a gwranda arna i’n galw arnat ti. Dw i mewn helynt dychrynllyd; yn wir, dw i bron marw. Mae pobl yn fy ngweld i fel un sydd ar ei ffordd i’r bedd, dyn cryf wedi colli ei nerth i gyd ac wedi’i adael i farw a’i daflu i fedd cyffredin gyda’r milwyr eraill sydd wedi’u lladd – y rhai wyt ti ddim yn eu cofio bellach, ac sydd ddim angen dy ofal bellach. Ti wedi fy ngosod i ar waelod y Pwll, mewn tywyllwch dudew yn y dyfnder. Mae dy lid yn pwyso’n drwm arna i; dw i’n boddi dan dy donnau di. Saib Ti wedi gwneud i’m ffrindiau agos gadw draw; dw i’n ffiaidd yn eu golwg nhw. Dw i wedi fy nal ac yn methu dianc. Mae fy llygaid yn wan gan flinder; O ARGLWYDD, dw i wedi galw arnat ti bob dydd; dw i’n estyn fy nwylo mewn gweddi atat ti. Wyt ti’n gwneud gwyrthiau i’r rhai sydd wedi marw? Ydy’r meirw yn codi i dy foli di? Saib Ydy’r rhai sydd yn y bedd yn sôn am dy gariad ffyddlon? Oes sôn am dy ffyddlondeb di yn Abadon? Ydy’r rhai sydd yn y lle tywyll yn gwybod am dy wyrthiau? Oes sôn am dy gyfiawnder ym myd angof? Ond dw i wedi bod yn galw arnat ti am help, ARGLWYDD. Dw i’n gweddïo arnat ti bob bore. Felly pam, O ARGLWYDD, wyt ti’n fy ngwrthod i? Pam wyt ti wedi troi dy gefn arna i? Dw i wedi diodde a bron marw lawer gwaith ers yn ifanc; dw i wedi gorfod wynebu pethau ofnadwy, nes fy mod wedi fy mharlysu. Mae dy lid wedi llifo drosto i; mae dy ddychryn wedi fy ninistrio. Mae’r cwbl yn troelli o’m cwmpas fel llifogydd; maen nhw’n cau amdana i o bob cyfeiriad. Ti wedi gwneud i ffrindiau a chymdogion gadw draw oddi wrtho i – Yr unig gwmni sydd gen i bellach ydy’r tywyllwch!