Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 88:1-18

Y Salmau 88:1-18 BWM

O ARGLWYDD DDUW fy iachawdwriaeth, gwaeddais o’th flaen ddydd a nos. Deued fy ngweddi ger dy fron: gostwng dy glust at fy llefain. Canys fy enaid a lanwyd o flinderau; a’m heinioes a nesâ i’r beddrod. Cyfrifwyd fi gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll: ydwyf fel gŵr heb nerth. Yn rhydd ymysg y meirw, fel rhai wedi eu lladd, yn gorwedd mewn bedd, y rhai ni chofi mwy; a hwy a dorrwyd oddi wrth dy law. Gosodaist fi yn y pwll isaf, mewn tywyllwch, yn y dyfnderau. Y mae dy ddigofaint yn pwyso arnaf: ac â’th holl donnau y’m cystuddiaist. Sela. Pellheaist fy nghydnabod oddi wrthyf; gwnaethost fi yn ffieidd-dra iddynt: gwarchaewyd fi, fel nad awn allan. Fy llygad a ofidiodd gan fy nghystudd: llefais arnat ARGLWYDD, beunydd; estynnais fy nwylo atat. Ai i’r meirw y gwnei ryfeddod? a gyfyd y meirw a’th foliannu di? Sela. A draethir dy drugaredd mewn bedd? a’th wirionedd yn nistryw? A adwaenir dy ryfeddod yn y tywyllwch? a’th gyfiawnder yn nhir angof? Ond myfi a lefais arnat, ARGLWYDD; yn fore yr achub fy ngweddi dy flaen. Paham, ARGLWYDD, y gwrthodi fy enaid? y cuddi dy wyneb oddi wrthyf? Truan ydwyf fi, ac ar drancedigaeth o’m hieuenctid: dygais dy ofn, ac yr ydwyf yn petruso. Dy soriant a aeth drosof; dy ddychrynedigaethau a’m torrodd ymaith. Fel dwfr y’m cylchynasant beunydd, ac y’m cydamgylchasant. Câr a chyfaill a yrraist ymhell oddi wrthyf, a’m cydnabod i dywyllwch.

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Y Salmau 88:1-18