Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 88

88
SALM 88
Salm neu Gân meibion Cora, i’r Pencerdd ar Mahalath Leannoth, Maschil Heman yr Esrahiad.
1O Arglwydd Dduw fy iachawdwriaeth, gwaeddais o’th flaen ddydd a nos.
2Deued fy ngweddi ger dy fron: gostwng dy glust at fy llefain.
3Canys fy enaid a lanwyd o flinderau; a’m heinioes a nesâ i’r beddrod.
4Cyfrifwyd fi gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll: ydwyf fel gŵr heb nerth.
5Yn rhydd ymysg y meirw, fel rhai wedi eu lladd, yn gorwedd mewn bedd, y rhai ni chofi mwy; a hwy a dorrwyd oddi wrth dy law.
6Gosodaist fi yn y pwll isaf, mewn tywyllwch, yn y dyfnderau.
7Y mae dy ddigofaint yn pwyso arnaf: ac â’th holl donnau y’m cystuddiaist. Sela.
8Pellheaist fy nghydnabod oddi wrthyf; gwnaethost fi yn ffieidd-dra iddynt: gwarchaewyd fi, fel nad awn allan.
9Fy llygad a ofidiodd gan fy nghystudd: llefais arnat Arglwydd, beunydd; estynnais fy nwylo atat.
10Ai i’r meirw y gwnei ryfeddod? a gyfyd y meirw a’th foliannu di? Sela.
11A draethir dy drugaredd mewn bedd? a’th wirionedd yn nistryw?
12A adwaenir dy ryfeddod yn y tywyllwch? a’th gyfiawnder yn nhir angof?
13Ond myfi a lefais arnat, Arglwydd; yn fore yr achub fy ngweddi dy flaen.
14Paham, Arglwydd, y gwrthodi fy enaid? y cuddi dy wyneb oddi wrthyf?
15Truan ydwyf fi, ac ar drancedigaeth o’m hieuenctid: dygais dy ofn, ac yr ydwyf yn petruso.
16Dy soriant a aeth drosof; dy ddychrynedigaethau a’m torrodd ymaith.
17Fel dwfr y’m cylchynasant beunydd, ac y’m cydamgylchasant.
18Câr a chyfaill a yrraist ymhell oddi wrthyf, a’m cydnabod i dywyllwch.

Dewis Presennol:

Y Salmau 88: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda