Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 78:1-72

Salm 78:1-72 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Gwrandwch arna i’n eich dysgu, fy mhobl! Trowch i wrando ar beth dw i’n ddweud. Dw i’n mynd i adrodd straeon, a dweud am bethau o’r gorffennol sy’n ddirgelwch: pethau glywson ni, a’u dysgu am fod ein hynafiaid wedi adrodd y stori. A byddwn ni’n eu rhannu gyda’n plant, ac yn dweud wrth y genhedlaeth nesaf. Dweud fod yr ARGLWYDD yn haeddu ei foli! Sôn am ei nerth a’r pethau rhyfeddol a wnaeth. Rhoddodd ei reolau i bobl Jacob, a sefydlu ei gyfraith yn Israel. Gorchmynnodd i’n hynafiaid eu dysgu i’w plant, er mwyn i’r genhedlaeth nesaf wybod sef y plant sydd heb eu geni eto – iddyn nhw, yn eu tro, ddysgu eu plant. Iddyn nhw ddysgu trystio Duw a pheidio anghofio’r pethau mawr mae’n eu gwneud. Iddyn nhw fod yn ufudd i’w orchmynion, yn lle bod fel eu hynafiaid yn tynnu’n groes ac yn ystyfnig; cenhedlaeth oedd yn anghyson, ac yn anffyddlon i Dduw. Fel dynion Effraim, bwasaethwyr gwych, yn troi cefn yng nghanol y frwydr. Wnaethon nhw ddim cadw eu hymrwymiad i Dduw, na gwrando ar ei ddysgeidiaeth. Roedden nhw wedi anghofio’r cwbl wnaeth e, a’r pethau rhyfeddol oedd wedi eu dangos iddyn nhw. Gwnaeth bethau rhyfeddol o flaen eu hynafiaid yn yr Aifft, ar wastatir Soan. Holltodd y môr a’u harwain nhw drwyddo, a gwneud i’r dŵr sefyll i fyny fel wal. Eu harwain gyda chwmwl yn ystod y dydd, ac yna tân disglair drwy’r nos. Holltodd greigiau yn yr anialwch, a rhoi digonedd o ddŵr iddyn nhw i’w yfed. Nentydd yn arllwys o’r graig; dŵr yn llifo fel afonydd! Ond roedden nhw’n dal i bechu yn ei erbyn, a herio’r Duw Goruchaf yn yr anialwch. Roedden nhw’n fwriadol yn rhoi Duw ar brawf drwy hawlio’r bwyd roedden nhw’n crefu amdano. Roedden nhw’n sarhau Duw drwy ofyn, “Ydy’r gallu gan Dduw i wneud hyn? All e baratoi gwledd i ni yn yr anialwch? Mae’n wir ei fod wedi taro’r graig, a bod dŵr wedi pistyllio allan a llifo fel afonydd. Ond ydy e’n gallu rhoi bwyd i ni hefyd? Ydy e’n gallu rhoi cig i’w bobl?” Roedd yr ARGLWYDD yn gynddeiriog pan glywodd hyn. Roedd fel tân yn llosgi yn erbyn pobl Jacob. Roedd wedi gwylltio’n lân gydag Israel, am eu bod nhw heb drystio Duw, a chredu ei fod yn gallu achub. Ond rhoddodd orchymyn i’r awyr uwch eu pennau, ac agorodd ddrysau’r nefoedd. Glawiodd fanna iddyn nhw i’w fwyta; rhoddodd ŷd o’r nefoedd iddyn nhw! Cafodd y bobl fwyta bara’r angylion! Roedd digonedd o fwyd i bawb. Yna gwnaeth i wynt y dwyrain chwythu yn yr awyr, ac arweiniodd wynt y de drwy ei nerth. Roedd hi’n glawio cig fel llwch, adar yn hedfan – cymaint â’r tywod ar lan y môr! Gwnaeth iddyn nhw ddisgyn yng nghanol y gwersyll, o gwmpas y babell lle roedd e’i hun yn aros. Felly cawson nhw fwy na digon i’w fwyta; rhoddodd iddyn nhw’r bwyd roedden nhw’n crefu amdano. Ond cyn iddyn nhw orffen bwyta, pan oedd y bwyd yn dal yn eu cegau, dyma Duw yn dangos mor ddig oedd e! Lladdodd y rhai cryfaf ohonyn nhw, a tharo i lawr rai ifanc Israel. Ond hyd yn oed wedyn roedden nhw’n dal i bechu! Doedden nhw ddim yn credu yn ei allu rhyfeddol. Yn sydyn roedd Duw wedi dod â’u dyddiau i ben; daeth y diwedd mewn trychineb annisgwyl. Pan oedd Duw yn eu taro, dyma nhw’n ei geisio; roedden nhw’n troi’n ôl ato ac yn hiraethu amdano. Dyma nhw’n cofio mai Duw oedd eu Craig ac mai’r Duw Goruchaf oedd wedi’u rhyddhau nhw. Ond doedd eu geiriau’n ddim byd ond rhagrith; roedden nhw’n dweud celwydd. Doedden nhw ddim wir o ddifrif, nac yn ffyddlon i’w hymrwymiad. Ac eto, mae Duw mor drugarog! Roedd yn maddau iddyn nhw am fod mor wamal; wnaeth e ddim eu dinistrio nhw. Roedd yn ffrwyno’i deimladau dro ar ôl tro, yn lle arllwys ei ddicter ffyrnig arnyn nhw. Roedd yn cofio mai pobl feidrol oedden nhw – chwa o wynt yn pasio heibio heb ddod yn ôl. Roedden nhw wedi gwrthryfela mor aml yn yr anialwch, a pheri gofid iddo yn y tir diffaith. Rhoi Duw ar brawf dro ar ôl tro, a digio Un Sanctaidd Israel. Anghofio beth wnaeth e pan ollyngodd nhw’n rhydd o afael y gelyn. Roedd wedi dangos iddyn nhw yn yr Aifft, a gwneud pethau rhyfeddol ar wastatir Soan: Trodd yr afonydd yn waed, fel eu bod nhw’n methu yfed y dŵr. Anfonodd haid o bryfed i’w pigo a llyffantod i ddifetha’r wlad. Rhoddodd eu cnydau i bla o lindys, ffrwyth y tir i bla o locustiaid. Dinistriodd y gwinwydd â chenllysg, a’r coed sycamorwydd â rhew. Trawodd y cenllysg eu gwartheg, a’r mellt eu preiddiau. Dangosodd ei fod yn ddig gyda nhw, yn wyllt gynddeiriog! Tarodd nhw â thrybini, ac anfon criw o angylion dinistriol i agor llwybr i’w lid. Wnaeth e ddim arbed eu bywydau, ond anfon haint i’w dinistrio nhw. Trawodd y mab hynaf ym mhob teulu yn yr Aifft, ffrwyth cyntaf eu cyfathrach ym mhebyll Cham. Yna aeth â’i bobl allan fel defaid, a’u harwain fel praidd yn yr anialwch. Arweiniodd nhw’n saff a heb ofn, ond cafodd y gelynion eu llyncu yn y môr. Yna daeth â nhw i’w dir cysegredig, i’r mynydd oedd wedi’i gymryd drwy rym. Gyrrodd allan genhedloedd o’u blaenau, a rhannu’r tir rhyngddyn nhw; gwnaeth i lwythau Israel setlo yn eu lle. Ond dyma nhw’n rhoi’r Duw Goruchaf ar brawf eto! Gwrthryfela yn ei erbyn, a pheidio gwneud beth oedd yn ei ofyn. Dyma nhw’n troi eu cefnau arno, a bod yn anffyddlon fel eu hynafiaid; roedden nhw fel bwa llac – yn dda i ddim! Roedd eu hallorau paganaidd yn ei ddigio; a’u delwau metel yn ei wneud yn eiddigeddus. Clywodd Duw nhw wrthi, ac roedd yn gynddeiriog; a gwrthododd Israel yn llwyr. Trodd ei gefn ar ei dabernacl yn Seilo, sef y babell lle roedd yn byw gyda’i bobl. Gadawodd i’w Arch gael ei dal; rhoddodd ei ysblander yn nwylo’r gelyn! Gadawodd i’w bobl gael eu lladd â’r cleddyf; roedd wedi gwylltio gyda’i etifeddiaeth. Daeth tân i ddinistrio’r dynion ifanc, ac roedd merched ifanc yn marw cyn priodi. Tarodd y cleddyf eu hoffeiriaid i lawr, a doedd dim amser i’r gweddwon alaru. Ond yna dyma’r Meistr yn deffro! Roedd fel milwr gwallgo wedi cael gormod o win. Gyrrodd ei elynion yn eu holau a chodi cywilydd arnyn nhw am byth. Ond yna gadawodd dir Joseff, a pheidio dewis llwyth Effraim. Dewisodd lwyth Jwda, a Mynydd Seion mae mor hoff ohono. Cododd ei deml yn uchel fel y nefoedd, ac yn ddiogel fel y ddaear, sydd wedi’i sefydlu am byth. Dewisodd Dafydd, ei was, a’i gymryd oddi wrth y corlannau; o fod yn gofalu am y defaid i ofalu am ei bobl Jacob, sef Israel, ei etifeddiaeth. Gofalodd amdanyn nhw gydag ymroddiad llwyr; a’u harwain mor fedrus.

Salm 78:1-72 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Gwrandewch fy nysgeidiaeth, fy mhobl, gogwyddwch eich clust at eiriau fy ngenau. Agoraf fy ngenau mewn dihareb, a llefaraf ddamhegion o'r dyddiau gynt, pethau a glywsom ac a wyddom, ac a adroddodd ein hynafiaid wrthym. Ni chuddiwn hwy oddi wrth eu disgynyddion, ond adroddwn wrth y genhedlaeth sy'n dod weithredoedd gogoneddus yr ARGLWYDD, a'i rym, a'r pethau rhyfeddol a wnaeth. Fe roes ddyletswydd ar Jacob, a gosod cyfraith yn Israel, a rhoi gorchymyn i'n hynafiaid, i'w dysgu i'w plant; er mwyn i'r to sy'n codi wybod, ac i'r plant sydd heb eu geni eto ddod ac adrodd wrth eu plant; er mwyn iddynt roi eu ffydd yn Nuw, a pheidio ag anghofio gweithredoedd Duw, ond cadw ei orchmynion; rhag iddynt fod fel eu tadau yn genhedlaeth gyndyn a gwrthryfelgar, yn genhedlaeth â'i chalon heb fod yn gadarn a'i hysbryd heb fod yn ffyddlon i Dduw. Bu i feibion Effraim, gwŷr arfog a saethwyr bwa, droi yn eu holau yn nydd brwydr, am iddynt beidio â chadw cyfamod Duw, a gwrthod rhodio yn ei gyfraith; am iddynt anghofio ei weithredoedd a'r rhyfeddodau a ddangosodd iddynt. Gwnaeth bethau rhyfeddol yng ngŵydd eu hynafiaid yng ngwlad yr Aifft, yn nhir Soan; rhannodd y môr a'u dwyn trwyddo, a gwneud i'r dŵr sefyll fel argae. Arweiniodd hwy â chwmwl y dydd, a thrwy'r nos â thân disglair. Holltodd greigiau yn yr anialwch, a gwneud iddynt yfed o'r dyfroedd di-baid; dygodd ffrydiau allan o graig, a pheri i ddŵr lifo fel afonydd. Ond yr oeddent yn dal i bechu yn ei erbyn, ac i herio'r Goruchaf yn yr anialwch, a rhoi prawf ar Dduw yn eu calonnau trwy ofyn bwyd yn ôl eu blys. Bu iddynt lefaru yn erbyn Duw a dweud, “A all Duw arlwyo bwrdd yn yr anialwch? Y mae'n wir iddo daro'r graig ac i ddŵr bistyllio, ac i afonydd lifo, ond a yw'n medru rhoi bara hefyd, ac yn medru paratoi cig i'w bobl?” Felly, pan glywodd yr ARGLWYDD hyn, digiodd; cyneuwyd tân yn erbyn Jacob, a chododd llid yn erbyn Israel, am nad oeddent yn credu yn Nuw, nac yn ymddiried yn ei waredigaeth. Yna, rhoes orchymyn i'r ffurfafen uchod, ac agorodd ddrysau'r nefoedd; glawiodd arnynt fanna i'w fwyta, a rhoi iddynt ŷd y nefoedd; yr oedd pobl yn bwyta bara angylion, a rhoes iddynt fwyd mewn llawnder. Gwnaeth i ddwyreinwynt chwythu yn y nefoedd, ac â'i nerth dygodd allan ddeheuwynt; glawiodd arnynt gig fel llwch, ac adar hedegog fel tywod ar lan y môr; parodd iddynt ddisgyn yng nghanol eu gwersyll, o gwmpas eu pebyll ym mhobman. Bwytasant hwythau a chawsant ddigon, oherwydd rhoes iddynt eu dymuniad. Ond cyn iddynt ddiwallu eu chwant, a'r bwyd yn dal yn eu genau, cododd dig Duw yn eu herbyn, a lladdodd y rhai mwyaf graenus ohonynt, a darostwng rhai dewisol Israel. Er hyn, yr oeddent yn dal i bechu, ac nid oeddent yn credu yn ei ryfeddodau. Felly gwnaeth i'w hoes ddarfod ar amrantiad, a'u blynyddoedd mewn dychryn. Pan oedd yn eu taro, yr oeddent yn ei geisio; yr oeddent yn edifarhau ac yn chwilio am Dduw. Yr oeddent yn cofio mai Duw oedd eu craig, ac mai'r Duw Goruchaf oedd eu gwaredydd. Ond yr oeddent yn rhagrithio â'u genau, ac yn dweud celwydd â'u tafodau; nid oedd eu calon yn glynu wrtho, ac nid oeddent yn ffyddlon i'w gyfamod. Eto, bu ef yn drugarog, maddeuodd eu trosedd, ac ni ddistrywiodd hwy; dro ar ôl tro ataliodd ei ddig, a chadw ei lid rhag codi. Cofiodd mai cnawd oeddent, gwynt sy'n mynd heibio heb ddychwelyd. Mor aml y bu iddynt wrthryfela yn ei erbyn yn yr anialwch, a pheri gofid iddo yn y diffeithwch! Dro ar ôl tro rhoesant brawf ar Dduw, a blino Sanct Israel. Nid oeddent yn cofio ei rym y dydd y gwaredodd hwy rhag y gelyn, pan roes ei arwyddion yn yr Aifft a'i ryfeddodau ym meysydd Soan. Fe drodd eu hafonydd yn waed, ac ni allent yfed o'u ffrydiau. Anfonodd bryfetach arnynt a'r rheini'n eu hysu, a llyffaint a oedd yn eu difa. Rhoes eu cnwd i'r lindys, a ffrwyth eu llafur i'r locust. Dinistriodd eu gwinwydd â chenllysg, a'u sycamorwydd â glawogydd. Rhoes eu gwartheg i'r haint, a'u diadell i'r plâu. Anfonodd ei lid mawr arnynt, a hefyd ddicter, cynddaredd a gofid— cwmni o negeswyr gwae— a rhoes ryddid i'w lidiowgrwydd. Nid arbedodd hwy rhag marwolaeth ond rhoi eu bywyd i'r haint. Trawodd holl rai cyntafanedig yr Aifft, blaenffrwyth eu nerth ym mhebyll Ham. Yna dygodd allan ei bobl fel defaid, a'u harwain fel praidd trwy'r anialwch; arweiniodd hwy'n ddiogel heb fod arnynt ofn, ond gorchuddiodd y môr eu gelynion. Dygodd hwy i'w dir sanctaidd, i'r mynydd a goncrodd â'i ddeheulaw. Gyrrodd allan genhedloedd o'u blaenau; rhannodd eu tir yn etifeddiaeth, a gwneud i lwythau Israel fyw yn eu pebyll. Eto, profasant y Duw Goruchaf a gwrthryfela yn ei erbyn, ac nid oeddent yn cadw ei ofynion. Troesant a mynd yn fradwrus fel eu hynafiaid; yr oeddent mor dwyllodrus â bwa llac. Digiasant ef â'u huchelfeydd, a'i wneud yn eiddigeddus â'u heilunod. Pan glywodd Duw, fe ddigiodd, a gwrthod Israel yn llwyr; gadawodd ei drigfan yn Seilo, y babell lle'r oedd yn byw ymysg pobl; gadawodd i'w gadernid fynd i gaethglud, a'i ogoniant i ddwylo gelynion; rhoes ei bobl i'r cleddyf, a thywallt ei lid ar ei etifeddiaeth. Ysodd tân eu gwŷr ifainc, ac nid oedd gân briodas i'w morynion; syrthiodd eu hoffeiriaid trwy'r cleddyf, ac ni allai eu gweddwon alaru. Yna, cododd yr Arglwydd, fel o gwsg, fel rhyfelwr yn cael ei symbylu gan win. Trawodd ei elynion yn eu holau, a dwyn arnynt warth tragwyddol. Gwrthododd babell Joseff, ac ni ddewisodd lwyth Effraim; ond dewisodd lwyth Jwda, a Mynydd Seion y mae'n ei garu. Cododd ei gysegr cyn uched â'r nefoedd, a'i sylfeini, fel y ddaear, am byth. Dewisodd Ddafydd yn was iddo, a'i gymryd o'r corlannau defaid; o fod yn gofalu am y mamogiaid daeth ag ef i fugeilio'i bobl Jacob, ac Israel ei etifeddiaeth. Bugeiliodd hwy â chalon gywir, a'u harwain â llaw ddeheuig.

Salm 78:1-72 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Gwrando fy nghyfraith, fy mhobl: gostyngwch eich clust at eiriau fy ngenau. Agoraf fy ngenau mewn dihareb: traethaf ddamhegion o’r cynfyd: Y rhai a glywsom, ac a wybuom, ac a fynegodd ein tadau i ni. Ni chelwn rhag eu meibion, gan fynegi i’r oes a ddêl foliant yr ARGLWYDD, a’i nerth, a’i ryfeddodau y rhai a wnaeth efe. Canys efe a sicrhaodd dystiolaeth yn Jacob, ac a osododd gyfraith yn Israel, y rhai a orchmynnodd efe i’n tadau eu dysgu i’w plant: Fel y gwybyddai yr oes a ddêl, sef y plant a enid; a phan gyfodent, y mynegent hwy i’w plant hwythau: Fel y gosodent eu gobaith ar DDUW, heb anghofio gweithredoedd DUW, eithr cadw ei orchmynion ef: Ac na byddent fel eu tadau, yn genhedlaeth gyndyn a gwrthryfelgar; yn genhedlaeth ni osododd ei chalon yn uniawn, ac nid yw ei hysbryd ffyddlon gyda DUW. Meibion Effraim, yn arfog ac yn saethu â bwa, a droesant eu cefnau yn nydd y frwydr. Ni chadwasant gyfamod DUW, eithr gwrthodasant rodio yn ei gyfraith ef; Ac anghofiasant ei weithredoedd a’i ryfeddodau, y rhai a ddangosasai efe iddynt. Efe a wnaethai wyrthiau o flaen eu tadau hwynt yn nhir yr Aifft, ym maes Soan. Efe a barthodd y môr, ac a aeth â hwynt drwodd; gwnaeth hefyd i’r dwfr sefyll fel pentwr. Y dydd hefyd y tywysodd efe hwynt â chwmwl, ac ar hyd y nos â goleuni tân. Efe a holltodd y creigiau yn yr anialwch; a rhoddes ddiod oddi yno megis o ddyfnderau dirfawr. Canys efe a ddug ffrydiau allan o’r graig, ac a dynnodd i lawr megis afonydd o ddyfroedd. Er hynny chwanegasant eto bechu yn ei erbyn ef, gan ddigio y Goruchaf yn y diffeithwch. A themtiasant DDUW yn eu calon, gan ofyn bwyd wrth eu blys. Llefarasant hefyd yn erbyn DUW; dywedasant, A ddichon DUW arlwyo bwrdd yn yr anialwch? Wele, efe a drawodd y graig, fel y pistyllodd dwfr, ac y llifodd afonydd; a ddichon efe roddi bara hefyd? a ddarpara efe gig i’w bobl? Am hynny y clybu yr ARGLWYDD, ac y digiodd: a thân a enynnodd yn erbyn Jacob, a digofaint hefyd a gyneuodd yn erbyn Israel; Am na chredent yn NUW, ac na obeithient yn ei iachawdwriaeth ef: Er iddo ef orchymyn i’r wybrennau oddi uchod, ac agoryd drysau y nefoedd, A glawio manna arnynt i’w fwyta, a rhoddi iddynt ŷd y nefoedd. Dyn a fwytaodd fara angylion: anfonodd iddynt fwyd yn ddigonol. Gyrrodd y dwyreinwynt yn y nefoedd; ac yn ei nerth y dug efe ddeheuwynt. Glawiodd hefyd gig arnynt fel llwch, ac adar asgellog fel tywod y môr. Ac a wnaeth iddynt gwympo o fewn eu gwersyll, o amgylch eu preswylfeydd. Felly y bwytasant, ac y llwyr ddiwallwyd hwynt; ac efe a barodd eu dymuniad iddynt; Ni omeddwyd hwynt o’r hyn a flysiasant: er hynny, tra yr ydoedd eu bwyd yn eu safnau, Dicllonedd DUW a gyneuodd yn eu herbyn hwynt, ac a laddodd y rhai brasaf ohonynt, ac a gwympodd etholedigion Israel. Er hyn oll pechasant eto, ac ni chredasant i’w ryfeddodau ef. Am hynny y treuliodd efe eu dyddiau hwynt mewn oferedd, a’u blynyddoedd mewn dychryn. Pan laddai efe hwynt, hwy a’i ceisient ef, ac a ddychwelent, ac a geisient DDUW yn fore. Cofient hefyd mai DUW oedd eu Craig, ac mai y Goruchaf DDUW oedd eu Gwaredydd. Er hynny, rhagrithio yr oeddynt iddo ef â’u genau, a dywedyd celwydd wrtho â’u tafod: A’u calon heb fod yn uniawn gydag ef, na’u bod yn ffyddlon yn ei gyfamod ef. Er hynny efe yn drugarog a faddeuodd eu hanwiredd, ac ni ddifethodd hwynt: ie, trodd ymaith ei ddigofaint yn fynych, ac ni chyffrôdd ei holl lid. Canys efe a gofiai mai cnawd oeddynt, a gwynt yn myned, ac heb ddychwelyd. Pa sawl gwaith y digiasant ef yn yr anialwch, ac y gofidiasant ef yn y diffeithwch? Ie, troesant a phrofasant DDUW, ac a osodasant derfyn i Sanct yr Israel. Ni chofiasant ei law ef, na’r dydd y gwaredodd efe hwynt oddi wrth y gelyn. Fel y gosodasai efe ei arwyddion yn yr Aifft, a’i ryfeddodau ym maes Soan: Ac y troesai eu hafonydd yn waed; a’u ffrydiau, fel na allent yfed. Anfonodd gymysgbla yn eu plith, yr hon a’u difaodd hwynt; a llyffaint i’w difetha. Ac efe a roddodd eu cnwd hwynt i’r lindys, a’u llafur i’r locust. Distrywiodd eu gwinwydd â chenllysg, a’u sycamorwydd â rhew. Rhoddodd hefyd eu hanifeiliaid i’r cenllysg, a’u golud i’r mellt. Anfonodd arnynt gynddaredd ei lid, llidiowgrwydd, a dicter, a chyfyngder, trwy anfon angylion drwg. Cymhwysodd ffordd i’w ddigofaint: nid ataliodd eu henaid oddi wrth angau; ond eu bywyd a roddodd efe i’r haint. Trawodd hefyd bob cyntaf-anedig yn yr Aifft; sef blaenion eu nerth hwynt ym mhebyll Ham: Ond efe a yrrodd ei bobl ei hun fel defaid, ac a’u harweiniodd hwynt fel praidd yn yr anialwch. Tywysodd hwynt hefyd yn ddiogel, fel nad ofnasant: a’r môr a orchuddiodd eu gelynion hwynt. Hwythau a ddug efe i oror ei sancteiddrwydd; i’r mynydd hwn, a enillodd ei ddeheulaw ef. Ac efe a yrrodd allan y cenhedloedd o’u blaen hwynt, ac a rannodd iddynt etifeddiaeth wrth linyn, ac a wnaeth i lwythau Israel drigo yn eu pebyll hwynt. Er hynny temtiasant a digiasant DDUW Goruchaf, ac ni chadwasant ei dystiolaethau: Eithr ciliasant a buant anffyddlon fel eu tadau: troesant fel bwa twyllodrus. Digiasant ef hefyd â’u huchelfannau; a gyrasant eiddigedd arno â’u cerfiedig ddelwau. Clybu DUW hyn, ac a ddigiodd, ac a ffieiddiodd Israel yn ddirfawr: Fel y gadawodd efe dabernacl Seilo, y babell a osodasai efe ymysg dynion; Ac y rhoddodd ei nerth mewn caethiwed, a’i brydferthwch yn llaw y gelyn. Rhoddes hefyd ei bobl i’r cleddyf; a digiodd wrth ei etifeddiaeth. Tân a ysodd eu gwŷr ieuainc; a’u morynion ni phriodwyd. Eu hoffeiriaid a laddwyd â’r cleddyf; a’u gwragedd gweddwon nid wylasant. Yna y deffrôdd yr Arglwydd fel un o gysgu, fel cadarn yn bloeddio gwedi gwin. Ac efe a drawodd ei elynion o’r tu ôl: rhoddes iddynt warth tragwyddol. Gwrthododd hefyd babell Joseff, ac ni etholodd lwyth Effraim: Ond efe a etholodd lwyth Jwda, mynydd Seion, yr hwn a hoffodd. Ac a adeiladodd ei gysegr fel llys uchel, fel y ddaear yr hon a seiliodd efe yn dragywydd. Etholodd hefyd Dafydd ei was, ac a’i cymerth o gorlannau y defaid: Oddi ar ôl y defaid cyfebron y daeth ag ef i borthi Jacob ei bobl, ac Israel ei etifeddiaeth. Yntau a’u porthodd hwynt yn ôl perffeithrwydd ei galon; ac a’u trinodd wrth gyfarwyddyd ei ddwylo.