Gwrandewch fy nysgeidiaeth, fy mhobl,
gogwyddwch eich clust at eiriau fy ngenau.
Agoraf fy ngenau mewn dihareb,
a llefaraf ddamhegion o'r dyddiau gynt,
pethau a glywsom ac a wyddom,
ac a adroddodd ein hynafiaid wrthym.
Ni chuddiwn hwy oddi wrth eu disgynyddion,
ond adroddwn wrth y genhedlaeth sy'n dod
weithredoedd gogoneddus yr ARGLWYDD, a'i rym,
a'r pethau rhyfeddol a wnaeth.
Fe roes ddyletswydd ar Jacob,
a gosod cyfraith yn Israel,
a rhoi gorchymyn i'n hynafiaid,
i'w dysgu i'w plant;
er mwyn i'r to sy'n codi wybod,
ac i'r plant sydd heb eu geni eto
ddod ac adrodd wrth eu plant;
er mwyn iddynt roi eu ffydd yn Nuw,
a pheidio ag anghofio gweithredoedd Duw,
ond cadw ei orchmynion;
rhag iddynt fod fel eu tadau
yn genhedlaeth gyndyn a gwrthryfelgar,
yn genhedlaeth â'i chalon heb fod yn gadarn
a'i hysbryd heb fod yn ffyddlon i Dduw.
Bu i feibion Effraim, gwŷr arfog a saethwyr bwa,
droi yn eu holau yn nydd brwydr,
am iddynt beidio â chadw cyfamod Duw,
a gwrthod rhodio yn ei gyfraith;
am iddynt anghofio ei weithredoedd
a'r rhyfeddodau a ddangosodd iddynt.
Gwnaeth bethau rhyfeddol yng ngŵydd eu hynafiaid
yng ngwlad yr Aifft, yn nhir Soan;
rhannodd y môr a'u dwyn trwyddo,
a gwneud i'r dŵr sefyll fel argae.
Arweiniodd hwy â chwmwl y dydd,
a thrwy'r nos â thân disglair.
Holltodd greigiau yn yr anialwch,
a gwneud iddynt yfed o'r dyfroedd di-baid;
dygodd ffrydiau allan o graig,
a pheri i ddŵr lifo fel afonydd.
Ond yr oeddent yn dal i bechu yn ei erbyn,
ac i herio'r Goruchaf yn yr anialwch,
a rhoi prawf ar Dduw yn eu calonnau
trwy ofyn bwyd yn ôl eu blys.
Bu iddynt lefaru yn erbyn Duw a dweud,
“A all Duw arlwyo bwrdd yn yr anialwch?
Y mae'n wir iddo daro'r graig ac i ddŵr bistyllio,
ac i afonydd lifo,
ond a yw'n medru rhoi bara hefyd,
ac yn medru paratoi cig i'w bobl?”
Felly, pan glywodd yr ARGLWYDD hyn, digiodd;
cyneuwyd tân yn erbyn Jacob,
a chododd llid yn erbyn Israel,
am nad oeddent yn credu yn Nuw,
nac yn ymddiried yn ei waredigaeth.
Yna, rhoes orchymyn i'r ffurfafen uchod,
ac agorodd ddrysau'r nefoedd;
glawiodd arnynt fanna i'w fwyta,
a rhoi iddynt ŷd y nefoedd;
yr oedd pobl yn bwyta bara angylion,
a rhoes iddynt fwyd mewn llawnder.
Gwnaeth i ddwyreinwynt chwythu yn y nefoedd,
ac â'i nerth dygodd allan ddeheuwynt;
glawiodd arnynt gig fel llwch,
ac adar hedegog fel tywod ar lan y môr;
parodd iddynt ddisgyn yng nghanol eu gwersyll,
o gwmpas eu pebyll ym mhobman.
Bwytasant hwythau a chawsant ddigon,
oherwydd rhoes iddynt eu dymuniad.
Ond cyn iddynt ddiwallu eu chwant,
a'r bwyd yn dal yn eu genau,
cododd dig Duw yn eu herbyn,
a lladdodd y rhai mwyaf graenus ohonynt,
a darostwng rhai dewisol Israel.
Er hyn, yr oeddent yn dal i bechu,
ac nid oeddent yn credu yn ei ryfeddodau.
Felly gwnaeth i'w hoes ddarfod ar amrantiad,
a'u blynyddoedd mewn dychryn.
Pan oedd yn eu taro, yr oeddent yn ei geisio;
yr oeddent yn edifarhau ac yn chwilio am Dduw.
Yr oeddent yn cofio mai Duw oedd eu craig,
ac mai'r Duw Goruchaf oedd eu gwaredydd.
Ond yr oeddent yn rhagrithio â'u genau,
ac yn dweud celwydd â'u tafodau;
nid oedd eu calon yn glynu wrtho,
ac nid oeddent yn ffyddlon i'w gyfamod.
Eto, bu ef yn drugarog, maddeuodd eu trosedd,
ac ni ddistrywiodd hwy;
dro ar ôl tro ataliodd ei ddig,
a chadw ei lid rhag codi.
Cofiodd mai cnawd oeddent,
gwynt sy'n mynd heibio heb ddychwelyd.
Mor aml y bu iddynt wrthryfela yn ei erbyn yn yr anialwch,
a pheri gofid iddo yn y diffeithwch!
Dro ar ôl tro rhoesant brawf ar Dduw,
a blino Sanct Israel.
Nid oeddent yn cofio ei rym
y dydd y gwaredodd hwy rhag y gelyn,
pan roes ei arwyddion yn yr Aifft
a'i ryfeddodau ym meysydd Soan.
Fe drodd eu hafonydd yn waed,
ac ni allent yfed o'u ffrydiau.
Anfonodd bryfetach arnynt a'r rheini'n eu hysu,
a llyffaint a oedd yn eu difa.
Rhoes eu cnwd i'r lindys,
a ffrwyth eu llafur i'r locust.
Dinistriodd eu gwinwydd â chenllysg,
a'u sycamorwydd â glawogydd.
Rhoes eu gwartheg i'r haint,
a'u diadell i'r plâu.
Anfonodd ei lid mawr arnynt,
a hefyd ddicter, cynddaredd a gofid—
cwmni o negeswyr gwae—
a rhoes ryddid i'w lidiowgrwydd.
Nid arbedodd hwy rhag marwolaeth
ond rhoi eu bywyd i'r haint.
Trawodd holl rai cyntafanedig yr Aifft,
blaenffrwyth eu nerth ym mhebyll Ham.
Yna dygodd allan ei bobl fel defaid,
a'u harwain fel praidd trwy'r anialwch;
arweiniodd hwy'n ddiogel heb fod arnynt ofn,
ond gorchuddiodd y môr eu gelynion.
Dygodd hwy i'w dir sanctaidd,
i'r mynydd a goncrodd â'i ddeheulaw.
Gyrrodd allan genhedloedd o'u blaenau;
rhannodd eu tir yn etifeddiaeth,
a gwneud i lwythau Israel fyw yn eu pebyll.
Eto, profasant y Duw Goruchaf a gwrthryfela yn ei erbyn,
ac nid oeddent yn cadw ei ofynion.
Troesant a mynd yn fradwrus fel eu hynafiaid;
yr oeddent mor dwyllodrus â bwa llac.
Digiasant ef â'u huchelfeydd,
a'i wneud yn eiddigeddus â'u heilunod.
Pan glywodd Duw, fe ddigiodd,
a gwrthod Israel yn llwyr;
gadawodd ei drigfan yn Seilo,
y babell lle'r oedd yn byw ymysg pobl;
gadawodd i'w gadernid fynd i gaethglud,
a'i ogoniant i ddwylo gelynion;
rhoes ei bobl i'r cleddyf,
a thywallt ei lid ar ei etifeddiaeth.
Ysodd tân eu gwŷr ifainc,
ac nid oedd gân briodas i'w morynion;
syrthiodd eu hoffeiriaid trwy'r cleddyf,
ac ni allai eu gweddwon alaru.
Yna, cododd yr Arglwydd, fel o gwsg,
fel rhyfelwr yn cael ei symbylu gan win.
Trawodd ei elynion yn eu holau,
a dwyn arnynt warth tragwyddol.
Gwrthododd babell Joseff,
ac ni ddewisodd lwyth Effraim;
ond dewisodd lwyth Jwda,
a Mynydd Seion y mae'n ei garu.
Cododd ei gysegr cyn uched â'r nefoedd,
a'i sylfeini, fel y ddaear, am byth.
Dewisodd Ddafydd yn was iddo,
a'i gymryd o'r corlannau defaid;
o fod yn gofalu am y mamogiaid
daeth ag ef i fugeilio'i bobl Jacob,
ac Israel ei etifeddiaeth.
Bugeiliodd hwy â chalon gywir,
a'u harwain â llaw ddeheuig.