Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 78

78
SALM 78
Maschil i Asaff.
1Gwrando fy nghyfraith, fy mhobl: gostyngwch eich clust at eiriau fy ngenau.
2Agoraf fy ngenau mewn dihareb: traethaf ddamhegion o’r cynfyd:
3Y rhai a glywsom, ac a wybuom, ac a fynegodd ein tadau i ni.
4Ni chelwn rhag eu meibion, gan fynegi i’r oes a ddêl foliant yr Arglwydd, a’i nerth, a’i ryfeddodau y rhai a wnaeth efe.
5Canys efe a sicrhaodd dystiolaeth yn Jacob, ac a osododd gyfraith yn Israel, y rhai a orchmynnodd efe i’n tadau eu dysgu i’w plant:
6Fel y gwybyddai yr oes a ddêl, sef y plant a enid; a phan gyfodent, y mynegent hwy i’w plant hwythau:
7Fel y gosodent eu gobaith ar Dduw, heb anghofio gweithredoedd Duw, eithr cadw ei orchmynion ef:
8Ac na byddent fel eu tadau, yn genhedlaeth gyndyn a gwrthryfelgar; yn genhedlaeth ni osododd ei chalon yn uniawn, ac nid yw ei hysbryd ffyddlon gyda Duw.
9Meibion Effraim, yn arfog ac yn saethu â bwa, a droesant eu cefnau yn nydd y frwydr.
10Ni chadwasant gyfamod Duw, eithr gwrthodasant rodio yn ei gyfraith ef;
11Ac anghofiasant ei weithredoedd a’i ryfeddodau, y rhai a ddangosasai efe iddynt.
12Efe a wnaethai wyrthiau o flaen eu tadau hwynt yn nhir yr Aifft, ym maes Soan.
13Efe a barthodd y môr, ac a aeth â hwynt drwodd; gwnaeth hefyd i’r dwfr sefyll fel pentwr.
14Y dydd hefyd y tywysodd efe hwynt â chwmwl, ac ar hyd y nos â goleuni tân.
15Efe a holltodd y creigiau yn yr anialwch; a rhoddes ddiod oddi yno megis o ddyfnderau dirfawr.
16Canys efe a ddug ffrydiau allan o’r graig, ac a dynnodd i lawr megis afonydd o ddyfroedd.
17Er hynny chwanegasant eto bechu yn ei erbyn ef, gan ddigio y Goruchaf yn y diffeithwch.
18A themtiasant Dduw yn eu calon, gan ofyn bwyd wrth eu blys.
19Llefarasant hefyd yn erbyn Duw; dywedasant, A ddichon Duw arlwyo bwrdd yn yr anialwch?
20Wele, efe a drawodd y graig, fel y pistyllodd dwfr, ac y llifodd afonydd; a ddichon efe roddi bara hefyd? a ddarpara efe gig i’w bobl?
21Am hynny y clybu yr Arglwydd, ac y digiodd: a thân a enynnodd yn erbyn Jacob, a digofaint hefyd a gyneuodd yn erbyn Israel;
22Am na chredent yn Nuw, ac na obeithient yn ei iachawdwriaeth ef:
23Er iddo ef orchymyn i’r wybrennau oddi uchod, ac agoryd drysau y nefoedd,
24A glawio manna arnynt i’w fwyta, a rhoddi iddynt ŷd y nefoedd.
25Dyn a fwytaodd fara angylion: anfonodd iddynt fwyd yn ddigonol.
26Gyrrodd y dwyreinwynt yn y nefoedd; ac yn ei nerth y dug efe ddeheuwynt.
27Glawiodd hefyd gig arnynt fel llwch, ac adar asgellog fel tywod y môr.
28Ac a wnaeth iddynt gwympo o fewn eu gwersyll, o amgylch eu preswylfeydd.
29Felly y bwytasant, ac y llwyr ddiwallwyd hwynt; ac efe a barodd eu dymuniad iddynt;
30Ni omeddwyd hwynt o’r hyn a flysiasant: er hynny, tra yr ydoedd eu bwyd yn eu safnau,
31Dicllonedd Duw a gyneuodd yn eu herbyn hwynt, ac a laddodd y rhai brasaf ohonynt, ac a gwympodd etholedigion Israel.
32Er hyn oll pechasant eto, ac ni chredasant i’w ryfeddodau ef.
33Am hynny y treuliodd efe eu dyddiau hwynt mewn oferedd, a’u blynyddoedd mewn dychryn.
34Pan laddai efe hwynt, hwy a’i ceisient ef, ac a ddychwelent, ac a geisient Dduw yn fore.
35Cofient hefyd mai Duw oedd eu Craig, ac mai y Goruchaf Dduw oedd eu Gwaredydd.
36Er hynny, rhagrithio yr oeddynt iddo ef â’u genau, a dywedyd celwydd wrtho â’u tafod:
37A’u calon heb fod yn uniawn gydag ef, na’u bod yn ffyddlon yn ei gyfamod ef.
38Er hynny efe yn drugarog a faddeuodd eu hanwiredd, ac ni ddifethodd hwynt: ie, trodd ymaith ei ddigofaint yn fynych, ac ni chyffrôdd ei holl lid.
39Canys efe a gofiai mai cnawd oeddynt, a gwynt yn myned, ac heb ddychwelyd.
40Pa sawl gwaith y digiasant ef yn yr anialwch, ac y gofidiasant ef yn y diffeithwch?
41Ie, troesant a phrofasant Dduw, ac a osodasant derfyn i Sanct yr Israel.
42Ni chofiasant ei law ef, na’r dydd y gwaredodd efe hwynt oddi wrth y gelyn.
43Fel y gosodasai efe ei arwyddion yn yr Aifft, a’i ryfeddodau ym maes Soan:
44Ac y troesai eu hafonydd yn waed; a’u ffrydiau, fel na allent yfed.
45Anfonodd gymysgbla yn eu plith, yr hon a’u difaodd hwynt; a llyffaint i’w difetha.
46Ac efe a roddodd eu cnwd hwynt i’r lindys, a’u llafur i’r locust.
47Distrywiodd eu gwinwydd â chenllysg, a’u sycamorwydd â rhew.
48Rhoddodd hefyd eu hanifeiliaid i’r cenllysg, a’u golud i’r mellt.
49Anfonodd arnynt gynddaredd ei lid, llidiowgrwydd, a dicter, a chyfyngder, trwy anfon angylion drwg.
50Cymhwysodd ffordd i’w ddigofaint: nid ataliodd eu henaid oddi wrth angau; ond eu bywyd a roddodd efe i’r haint.
51Trawodd hefyd bob cyntaf-anedig yn yr Aifft; sef blaenion eu nerth hwynt ym mhebyll Ham:
52Ond efe a yrrodd ei bobl ei hun fel defaid, ac a’u harweiniodd hwynt fel praidd yn yr anialwch.
53Tywysodd hwynt hefyd yn ddiogel, fel nad ofnasant: a’r môr a orchuddiodd eu gelynion hwynt.
54Hwythau a ddug efe i oror ei sancteiddrwydd; i’r mynydd hwn, a enillodd ei ddeheulaw ef.
55Ac efe a yrrodd allan y cenhedloedd o’u blaen hwynt, ac a rannodd iddynt etifeddiaeth wrth linyn, ac a wnaeth i lwythau Israel drigo yn eu pebyll hwynt.
56Er hynny temtiasant a digiasant Dduw Goruchaf, ac ni chadwasant ei dystiolaethau:
57Eithr ciliasant a buant anffyddlon fel eu tadau: troesant fel bwa twyllodrus.
58Digiasant ef hefyd â’u huchelfannau; a gyrasant eiddigedd arno â’u cerfiedig ddelwau.
59Clybu Duw hyn, ac a ddigiodd, ac a ffieiddiodd Israel yn ddirfawr:
60Fel y gadawodd efe dabernacl Seilo, y babell a osodasai efe ymysg dynion;
61Ac y rhoddodd ei nerth mewn caethiwed, a’i brydferthwch yn llaw y gelyn.
62Rhoddes hefyd ei bobl i’r cleddyf; a digiodd wrth ei etifeddiaeth.
63Tân a ysodd eu gwŷr ieuainc; a’u morynion ni phriodwyd.
64Eu hoffeiriaid a laddwyd â’r cleddyf; a’u gwragedd gweddwon nid wylasant.
65Yna y deffrôdd yr Arglwydd fel un o gysgu, fel cadarn yn bloeddio gwedi gwin.
66Ac efe a drawodd ei elynion o’r tu ôl: rhoddes iddynt warth tragwyddol.
67Gwrthododd hefyd babell Joseff, ac ni etholodd lwyth Effraim:
68Ond efe a etholodd lwyth Jwda, mynydd Seion, yr hwn a hoffodd.
69Ac a adeiladodd ei gysegr fel llys uchel, fel y ddaear yr hon a seiliodd efe yn dragywydd.
70Etholodd hefyd Dafydd ei was, ac a’i cymerth o gorlannau y defaid:
71Oddi ar ôl y defaid cyfebron y daeth ag ef i borthi Jacob ei bobl, ac Israel ei etifeddiaeth.
72Yntau a’u porthodd hwynt yn ôl perffeithrwydd ei galon; ac a’u trinodd wrth gyfarwyddyd ei ddwylo.

Dewis Presennol:

Y Salmau 78: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda