Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 78:1-20

Salm 78:1-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Gwrandwch arna i’n eich dysgu, fy mhobl! Trowch i wrando ar beth dw i’n ddweud. Dw i’n mynd i adrodd straeon, a dweud am bethau o’r gorffennol sy’n ddirgelwch: pethau glywson ni, a’u dysgu am fod ein hynafiaid wedi adrodd y stori. A byddwn ni’n eu rhannu gyda’n plant, ac yn dweud wrth y genhedlaeth nesaf. Dweud fod yr ARGLWYDD yn haeddu ei foli! Sôn am ei nerth a’r pethau rhyfeddol a wnaeth. Rhoddodd ei reolau i bobl Jacob, a sefydlu ei gyfraith yn Israel. Gorchmynnodd i’n hynafiaid eu dysgu i’w plant, er mwyn i’r genhedlaeth nesaf wybod sef y plant sydd heb eu geni eto – iddyn nhw, yn eu tro, ddysgu eu plant. Iddyn nhw ddysgu trystio Duw a pheidio anghofio’r pethau mawr mae’n eu gwneud. Iddyn nhw fod yn ufudd i’w orchmynion, yn lle bod fel eu hynafiaid yn tynnu’n groes ac yn ystyfnig; cenhedlaeth oedd yn anghyson, ac yn anffyddlon i Dduw. Fel dynion Effraim, bwasaethwyr gwych, yn troi cefn yng nghanol y frwydr. Wnaethon nhw ddim cadw eu hymrwymiad i Dduw, na gwrando ar ei ddysgeidiaeth. Roedden nhw wedi anghofio’r cwbl wnaeth e, a’r pethau rhyfeddol oedd wedi eu dangos iddyn nhw. Gwnaeth bethau rhyfeddol o flaen eu hynafiaid yn yr Aifft, ar wastatir Soan. Holltodd y môr a’u harwain nhw drwyddo, a gwneud i’r dŵr sefyll i fyny fel wal. Eu harwain gyda chwmwl yn ystod y dydd, ac yna tân disglair drwy’r nos. Holltodd greigiau yn yr anialwch, a rhoi digonedd o ddŵr iddyn nhw i’w yfed. Nentydd yn arllwys o’r graig; dŵr yn llifo fel afonydd! Ond roedden nhw’n dal i bechu yn ei erbyn, a herio’r Duw Goruchaf yn yr anialwch. Roedden nhw’n fwriadol yn rhoi Duw ar brawf drwy hawlio’r bwyd roedden nhw’n crefu amdano. Roedden nhw’n sarhau Duw drwy ofyn, “Ydy’r gallu gan Dduw i wneud hyn? All e baratoi gwledd i ni yn yr anialwch? Mae’n wir ei fod wedi taro’r graig, a bod dŵr wedi pistyllio allan a llifo fel afonydd. Ond ydy e’n gallu rhoi bwyd i ni hefyd? Ydy e’n gallu rhoi cig i’w bobl?”

Salm 78:1-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Gwrandewch fy nysgeidiaeth, fy mhobl, gogwyddwch eich clust at eiriau fy ngenau. Agoraf fy ngenau mewn dihareb, a llefaraf ddamhegion o'r dyddiau gynt, pethau a glywsom ac a wyddom, ac a adroddodd ein hynafiaid wrthym. Ni chuddiwn hwy oddi wrth eu disgynyddion, ond adroddwn wrth y genhedlaeth sy'n dod weithredoedd gogoneddus yr ARGLWYDD, a'i rym, a'r pethau rhyfeddol a wnaeth. Fe roes ddyletswydd ar Jacob, a gosod cyfraith yn Israel, a rhoi gorchymyn i'n hynafiaid, i'w dysgu i'w plant; er mwyn i'r to sy'n codi wybod, ac i'r plant sydd heb eu geni eto ddod ac adrodd wrth eu plant; er mwyn iddynt roi eu ffydd yn Nuw, a pheidio ag anghofio gweithredoedd Duw, ond cadw ei orchmynion; rhag iddynt fod fel eu tadau yn genhedlaeth gyndyn a gwrthryfelgar, yn genhedlaeth â'i chalon heb fod yn gadarn a'i hysbryd heb fod yn ffyddlon i Dduw. Bu i feibion Effraim, gwŷr arfog a saethwyr bwa, droi yn eu holau yn nydd brwydr, am iddynt beidio â chadw cyfamod Duw, a gwrthod rhodio yn ei gyfraith; am iddynt anghofio ei weithredoedd a'r rhyfeddodau a ddangosodd iddynt. Gwnaeth bethau rhyfeddol yng ngŵydd eu hynafiaid yng ngwlad yr Aifft, yn nhir Soan; rhannodd y môr a'u dwyn trwyddo, a gwneud i'r dŵr sefyll fel argae. Arweiniodd hwy â chwmwl y dydd, a thrwy'r nos â thân disglair. Holltodd greigiau yn yr anialwch, a gwneud iddynt yfed o'r dyfroedd di-baid; dygodd ffrydiau allan o graig, a pheri i ddŵr lifo fel afonydd. Ond yr oeddent yn dal i bechu yn ei erbyn, ac i herio'r Goruchaf yn yr anialwch, a rhoi prawf ar Dduw yn eu calonnau trwy ofyn bwyd yn ôl eu blys. Bu iddynt lefaru yn erbyn Duw a dweud, “A all Duw arlwyo bwrdd yn yr anialwch? Y mae'n wir iddo daro'r graig ac i ddŵr bistyllio, ac i afonydd lifo, ond a yw'n medru rhoi bara hefyd, ac yn medru paratoi cig i'w bobl?”

Salm 78:1-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Gwrando fy nghyfraith, fy mhobl: gostyngwch eich clust at eiriau fy ngenau. Agoraf fy ngenau mewn dihareb: traethaf ddamhegion o’r cynfyd: Y rhai a glywsom, ac a wybuom, ac a fynegodd ein tadau i ni. Ni chelwn rhag eu meibion, gan fynegi i’r oes a ddêl foliant yr ARGLWYDD, a’i nerth, a’i ryfeddodau y rhai a wnaeth efe. Canys efe a sicrhaodd dystiolaeth yn Jacob, ac a osododd gyfraith yn Israel, y rhai a orchmynnodd efe i’n tadau eu dysgu i’w plant: Fel y gwybyddai yr oes a ddêl, sef y plant a enid; a phan gyfodent, y mynegent hwy i’w plant hwythau: Fel y gosodent eu gobaith ar DDUW, heb anghofio gweithredoedd DUW, eithr cadw ei orchmynion ef: Ac na byddent fel eu tadau, yn genhedlaeth gyndyn a gwrthryfelgar; yn genhedlaeth ni osododd ei chalon yn uniawn, ac nid yw ei hysbryd ffyddlon gyda DUW. Meibion Effraim, yn arfog ac yn saethu â bwa, a droesant eu cefnau yn nydd y frwydr. Ni chadwasant gyfamod DUW, eithr gwrthodasant rodio yn ei gyfraith ef; Ac anghofiasant ei weithredoedd a’i ryfeddodau, y rhai a ddangosasai efe iddynt. Efe a wnaethai wyrthiau o flaen eu tadau hwynt yn nhir yr Aifft, ym maes Soan. Efe a barthodd y môr, ac a aeth â hwynt drwodd; gwnaeth hefyd i’r dwfr sefyll fel pentwr. Y dydd hefyd y tywysodd efe hwynt â chwmwl, ac ar hyd y nos â goleuni tân. Efe a holltodd y creigiau yn yr anialwch; a rhoddes ddiod oddi yno megis o ddyfnderau dirfawr. Canys efe a ddug ffrydiau allan o’r graig, ac a dynnodd i lawr megis afonydd o ddyfroedd. Er hynny chwanegasant eto bechu yn ei erbyn ef, gan ddigio y Goruchaf yn y diffeithwch. A themtiasant DDUW yn eu calon, gan ofyn bwyd wrth eu blys. Llefarasant hefyd yn erbyn DUW; dywedasant, A ddichon DUW arlwyo bwrdd yn yr anialwch? Wele, efe a drawodd y graig, fel y pistyllodd dwfr, ac y llifodd afonydd; a ddichon efe roddi bara hefyd? a ddarpara efe gig i’w bobl?