Gwrandewch fy nysgeidiaeth, fy mhobl,
gogwyddwch eich clust at eiriau fy ngenau.
Agoraf fy ngenau mewn dihareb,
a llefaraf ddamhegion o'r dyddiau gynt,
pethau a glywsom ac a wyddom,
ac a adroddodd ein hynafiaid wrthym.
Ni chuddiwn hwy oddi wrth eu disgynyddion,
ond adroddwn wrth y genhedlaeth sy'n dod
weithredoedd gogoneddus yr ARGLWYDD, a'i rym,
a'r pethau rhyfeddol a wnaeth.
Fe roes ddyletswydd ar Jacob,
a gosod cyfraith yn Israel,
a rhoi gorchymyn i'n hynafiaid,
i'w dysgu i'w plant;
er mwyn i'r to sy'n codi wybod,
ac i'r plant sydd heb eu geni eto
ddod ac adrodd wrth eu plant;
er mwyn iddynt roi eu ffydd yn Nuw,
a pheidio ag anghofio gweithredoedd Duw,
ond cadw ei orchmynion;
rhag iddynt fod fel eu tadau
yn genhedlaeth gyndyn a gwrthryfelgar,
yn genhedlaeth â'i chalon heb fod yn gadarn
a'i hysbryd heb fod yn ffyddlon i Dduw.
Bu i feibion Effraim, gwŷr arfog a saethwyr bwa,
droi yn eu holau yn nydd brwydr,
am iddynt beidio â chadw cyfamod Duw,
a gwrthod rhodio yn ei gyfraith;
am iddynt anghofio ei weithredoedd
a'r rhyfeddodau a ddangosodd iddynt.
Gwnaeth bethau rhyfeddol yng ngŵydd eu hynafiaid
yng ngwlad yr Aifft, yn nhir Soan;
rhannodd y môr a'u dwyn trwyddo,
a gwneud i'r dŵr sefyll fel argae.
Arweiniodd hwy â chwmwl y dydd,
a thrwy'r nos â thân disglair.
Holltodd greigiau yn yr anialwch,
a gwneud iddynt yfed o'r dyfroedd di-baid;
dygodd ffrydiau allan o graig,
a pheri i ddŵr lifo fel afonydd.
Ond yr oeddent yn dal i bechu yn ei erbyn,
ac i herio'r Goruchaf yn yr anialwch,
a rhoi prawf ar Dduw yn eu calonnau
trwy ofyn bwyd yn ôl eu blys.
Bu iddynt lefaru yn erbyn Duw a dweud,
“A all Duw arlwyo bwrdd yn yr anialwch?
Y mae'n wir iddo daro'r graig ac i ddŵr bistyllio,
ac i afonydd lifo,
ond a yw'n medru rhoi bara hefyd,
ac yn medru paratoi cig i'w bobl?”