Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 77:1-20

Salm 77:1-20 beibl.net 2015, 2023 (BNET)

Dw i’n gweiddi’n uchel ar Dduw, yn gweiddi’n uchel ar iddo wrando arna i. Dw i mewn helbul, ac yn troi at yr ARGLWYDD; dw i wedi bod yn estyn fy nwylo ato mewn gweddi drwy’r nos, ond ches i ddim cysur. Dw i wedi bod yn ochneidio wrth feddwl am Dduw, dw i wedi bod yn myfyrio arno – ond yn anobeithio. Saib Ti sydd wedi fy nghadw i’n effro; dw i mor boenus, wn i ddim beth i’w ddweud. Dw i wedi bod yn meddwl am yr hen ddyddiau, flynyddoedd lawer yn ôl. Cofio’r gân roeddwn i’n arfer ei chanu. Meddwl drwy’r nos am y peth, a chwilio am ateb. “Ydy’r ARGLWYDD wedi troi cefn arnon ni am byth? Ydy e’n mynd i ddangos ei ffafr aton ni eto? Ydy ei ffyddlondeb e wedi dod i ben yn llwyr? Ydy’r addewidion wnaeth e byth yn mynd i gael eu cyflawni? Ydy Duw wedi anghofio sut i ddangos trugaredd? Ydy ei ddig yn gryfach na’i dosturi?” Saib “Mae meddwl y fath beth yn codi cyfog arna i: fod y Goruchaf wedi newid ei ffyrdd.” Dw i’n mynd i atgoffa fy hun beth wnaeth yr ARGLWYDD – ydw, dw i’n cofio’r pethau rhyfeddol wnest ti ers talwm! Dw i’n mynd i gofio am bopeth wnest ti, a myfyrio ar y cwbl. O Dduw, mae dy ffyrdd di’n gwbl unigryw! Oes yna dduw tebyg i’n Duw ni? Na! Ti ydy’r Duw sy’n gwneud pethau anhygoel! Ti wedi dangos dy nerth i’r bobloedd i gyd. Ti wnaeth ollwng dy bobl yn rhydd gyda dy fraich gref, sef disgynyddion Jacob a Joseff. Saib Dyma’r dyfroedd yn dy weld di, O Dduw, dyma’r dyfroedd yn dy weld di ac yn cynhyrfu. Roedd y môr dwfn yn crynu mewn ofn! Roedd y cymylau’n tywallt y glaw, yr awyr yn taranu, a dy saethau yn fflachio ym mhobman. Roedd dy lais i’w glywed yn taranu yn y storm; dy fellt yn goleuo’r byd, a’r ddaear yn crynu drwyddi. Agoraist ffordd drwy’r môr; cerddaist drwy’r dyfroedd cryfion, er bod neb yn gweld olion dy draed. Dyma ti’n arwain dy bobl fel praidd dan ofal Moses ac Aaron.

Salm 77:1-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Gwaeddais yn uchel ar Dduw, yn uchel ar Dduw, a chlywodd fi. Yn nydd fy nghyfyngder ceisiais yr Arglwydd, ac yn y nos estyn fy nwylo'n ddiflino; nid oedd cysuro ar fy enaid. Pan feddyliaf am Dduw, yr wyf yn cwyno; pan fyfyriaf, fe balla f'ysbryd. Sela Cedwaist fy llygaid rhag cau; fe'm syfrdanwyd, ac ni allaf siarad. Af yn ôl i'r dyddiau gynt a chofio am y blynyddoedd a fu; meddyliaf ynof fy hun yn y nos, myfyriaf, a'm holi fy hunan, “A wrthyd yr Arglwydd am byth, a pheidio â gwneud ffafr mwyach? A yw ei ffyddlondeb wedi darfod yn llwyr, a'i addewid wedi ei hatal am genedlaethau? A yw Duw wedi anghofio trugarhau? A yw yn ei lid wedi cloi ei dosturi?” Sela Yna dywedais, “Hyn yw fy ngofid: A yw deheulaw'r Goruchaf wedi pallu?” “Galwaf i gof weithredoedd yr ARGLWYDD, a chofio am dy ryfeddodau gynt. Meddyliaf am dy holl waith, a myfyriaf am dy weithredoedd. O Dduw, sanctaidd yw dy ffordd; pa dduw sydd fawr fel ein Duw ni? Ti yw'r Duw sy'n gwneud pethau rhyfeddol; dangosaist dy rym ymhlith y bobloedd. Â'th fraich gwaredaist dy bobl, disgynyddion Jacob a Joseff. Sela “Gwelodd y dyfroedd di, O Dduw, gwelodd y dyfroedd di ac arswydo; yn wir, yr oedd y dyfnder yn crynu. Tywalltodd y cymylau ddŵr, ac yr oedd y ffurfafen yn taranu; fflachiodd dy saethau ar bob llaw. Yr oedd sŵn dy daranau yn y corwynt, goleuodd dy fellt y byd; ysgydwodd y ddaear a chrynu. Aeth dy ffordd drwy'r môr, a'th lwybr trwy ddyfroedd nerthol; ond ni welwyd ôl dy gamau. Arweiniaist dy bobl fel praidd, trwy law Moses ac Aaron.”

Salm 77:1-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A’m llef y gwaeddais ar DDUW, â’m llef ar DDUW; ac efe a’m gwrandawodd. Yn nydd fy nhrallod y ceisiais yr Arglwydd: fy archoll a redodd liw nos, ac ni pheidiodd: fy enaid a wrthododd ei ddiddanu. Cofiais DDUW, ac a’m cythryblwyd: cwynais, a therfysgwyd fy ysbryd. Sela. Deliaist fy llygaid yn neffro: synnodd arnaf, fel na allaf lefaru. Ystyriais y dyddiau gynt, blynyddoedd yr hen oesoedd. Cofio yr ydwyf fy nghân y nos: yr ydwyf yn ymddiddan â’m calon; fy ysbryd sydd yn chwilio yn ddyfal. Ai yn dragywydd y bwrw yr ARGLWYDD heibio? ac oni bydd efe bodlon mwy? A ddarfu ei drugaredd ef dros byth? a balla ei addewid ef yn oes oesoedd? A anghofiodd DUW drugarhau? a gaeodd efe ei drugareddau mewn soriant? Sela. A dywedais, Dyma fy ngwendid: eto cofiaf flynyddoedd deheulaw y Goruchaf. Cofiaf weithredoedd yr ARGLWYDD; ie, cofiaf dy wyrthiau gynt. Myfyriaf hefyd ar dy holl waith, ac am dy weithredoedd y chwedleuaf. Dy ffordd, O DDUW, sydd yn y cysegr: pa dduw mor fawr â’n DUW ni? Ti yw y DUW sydd yn gwneuthur rhyfeddodau: dangosaist dy nerth ymysg y bobloedd. Gwaredaist â’th fraich dy bobl, meibion Jacob a Joseff. Sela. Y dyfroedd a’th welsant, O DDUW, y dyfroedd a’th welsant: hwy a ofnasant; y dyfnderau hefyd a gynhyrfwyd. Y cymylau a dywalltasant ddwfr: yr wybrennau a roddasant dwrf: dy saethau hefyd a gerddasant. Twrf dy daran a glywyd o amgylch: mellt a oleuasant y byd; cyffrôdd a chrynodd y ddaear. Dy ffordd sydd yn y môr, a’th lwybrau yn y dyfroedd mawrion; ac nid adwaenir dy ôl. Tywysaist dy bobl fel defaid, trwy law Moses ac Aaron.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd