Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 69:16-36

Salm 69:16-36 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Ateb fi, ARGLWYDD; rwyt ti mor ffyddlon. Tro ata i, gan dy fod ti mor drugarog; Paid troi dy gefn ar dy was – dw i mewn trafferthion, felly brysia! Ateb fi! Tyrd yma! Gollwng fi’n rhydd! Gad i mi ddianc o afael y gelynion. Ti’n gwybod fel dw i wedi cael fy sarhau, a’m bychanu a’m cywilyddio. Ti’n gweld y gelynion i gyd. Mae’r sarhau wedi torri fy nghalon i. Dw i’n anobeithio. Dw i’n edrych am gydymdeimlad, ond yn cael dim; am rai i’m cysuro, ond does neb. Yn lle hynny maen nhw’n rhoi gwenwyn yn fy mwyd, ac yn gwneud i mi yfed finegr i dorri fy syched. Gad i’w bwrdd bwyd droi’n fagl iddyn nhw, ac yn drap i’w ffrindiau nhw. Gad iddyn nhw golli eu golwg a mynd yn ddall. Gwna iddyn nhw grynu mewn ofn drwy’r adeg. Tywallt dy ddicter arnyn nhw. Gwylltia’n gynddeiriog gyda nhw. Gwna eu gwersylloedd nhw’n anial, heb neb yn byw yn eu pebyll! Maen nhw’n blino y rhai rwyt ti wedi’u taro, ac yn siarad am boen y rhai rwyt ti wedi’u hanafu. Ychwanega hyn at y pethau maen nhw’n euog o’u gwneud. Paid gadael iddyn nhw fynd yn rhydd! Rhwbia’u henwau oddi ar sgrôl y rhai sy’n fyw, Paid rhestru nhw gyda’r bobl sy’n iawn gyda ti. Ond fi – yr un sy’n dioddef ac mewn poen – O Dduw, achub fi a chadw fi’n saff. Dw i’n mynd i ganu cân o fawl i Dduw, a’i ganmol a diolch iddo. Bydd hynny’n plesio’r ARGLWYDD fwy nag ych, neu darw gyda chyrn a charnau. Bydd pobl gyffredin yn gweld hyn ac yn dathlu. Felly codwch eich calonnau, chi sy’n ceisio dilyn Duw! Mae’r ARGLWYDD yn gwrando ar y rhai sydd mewn angen, a dydy e ddim yn diystyru ei bobl sy’n gaeth. Boed i’r nefoedd a’r ddaear ei foli, a’r môr hefyd, a phopeth sydd ynddo! Oherwydd bydd Duw yn achub Seion ac yn adeiladu trefi Jwda eto. Bydd y bobl sy’n ei wasanaethu yn byw yno ac yn meddiannu’r wlad. Bydd eu disgynyddion yn ei hetifeddu, a bydd y rhai sy’n caru ei enw yn cael byw yno.

Salm 69:16-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Ateb fi, ARGLWYDD, oherwydd da yw dy gariad; yn dy drugaredd mawr, tro ataf. Paid â chuddio dy wyneb oddi wrth dy was; y mae'n gyfyng arnaf, brysia i'm hateb. Tyrd yn nes ataf i'm gwaredu; rhyddha fi o achos fy ngelynion. Fe wyddost ti fy ngwaradwydd, fy ngwarth a'm cywilydd; yr wyt yn gyfarwydd â'm holl elynion. Y mae gwarth wedi torri fy nghalon, ac yr wyf mewn anobaith; disgwyliais am dosturi, ond heb ei gael, ac am rai i'm cysuro, ond nis cefais. Rhoesant wenwyn yn fy mwyd, a gwneud imi yfed finegr at fy syched. Bydded eu bwrdd eu hunain yn rhwyd iddynt, yn fagl i'w cyfeillion. Tywyller eu llygaid rhag iddynt weld, a gwna i'w cluniau grynu'n barhaus. Tywallt dy ddicter arnynt, a doed dy lid mawr ar eu gwarthaf. Bydded eu gwersyll yn anghyfannedd, heb neb yn byw yn eu pebyll, oherwydd erlidiant yr un a drewaist ti, a lluosogant friwiau'r rhai a archollaist. Rho iddynt gosb ar ben cosb; na chyfiawnhaer hwy gennyt ti. Dileer hwy o lyfr y rhai byw, ac na restrer hwy gyda'r cyfiawn. Yr wyf fi mewn gofid a phoen; trwy dy waredigaeth, O Dduw, cod fi i fyny. Moliannaf enw Duw ar gân, mawrygaf ef â diolchgarwch. Bydd hyn yn well gan yr ARGLWYDD nag ych, neu fustach ifanc â chyrn a charnau. Bydded i'r darostyngedig weld hyn a llawenhau; chwi sy'n ceisio Duw, bydded i'ch calonnau adfywio; oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn gwrando'r anghenus, ac nid yw'n diystyru ei eiddo sy'n gaethion. Bydded i'r nefoedd a'r ddaear ei foliannu, y môr hefyd a phopeth byw sydd ynddo. Oherwydd bydd Duw yn gwaredu Seion, ac yn ailadeiladu dinasoedd Jwda; byddant yn byw yno ac yn ei meddiannu, bydd plant ei weision yn ei hetifeddu, a'r rhai sy'n caru ei enw'n byw yno.

Salm 69:16-36 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Clyw fi, ARGLWYDD; canys da yw dy drugaredd: yn ôl lliaws dy dosturiaethau edrych arnaf. Ac na chuddia dy wyneb oddi wrth dy was; canys y mae cyfyngder arnaf: brysia, gwrando fi. Nesâ at fy enaid, a gwared ef: achub fi oherwydd fy ngelynion. Ti a adwaenost fy ngwarthrudd, a’m cywilydd, a’m gwaradwydd: fy holl elynion ydynt ger dy fron di. Gwarthrudd a dorrodd fy nghalon; yr ydwyf mewn gofid: a disgwyliais am rai i dosturio wrthyf, ac nid oedd neb; ac am gysurwyr, ac ni chefais neb. Rhoddasant hefyd fustl yn fy mwyd, ac a’m diodasant yn fy syched â finegr. Bydded eu bwrdd yn fagl ger eu bron, a’u llwyddiant yn dramgwydd. Tywyller eu llygaid, fel na welont; a gwna i’w llwynau grynu bob amser. Tywallt dy ddig arnynt; a chyrhaedded llidiowgrwydd dy ddigofaint hwynt. Bydded eu preswylfod yn anghyfannedd; ac na fydded a drigo yn eu pebyll. Canys erlidiasant yr hwn a drawsit ti; ac am ofid y rhai a archollaist ti, y chwedleuant. Dod ti anwiredd at eu hanwiredd hwynt; ac na ddelont i’th gyfiawnder di. Dileer hwynt o lyfr y rhai byw; ac na ysgrifenner hwynt gyda’r rhai cyfiawn. Minnau, truan a gofidus ydwyf: dy iachawdwriaeth di, O DDUW, a’m dyrchafo. Moliannaf enw DUW ar gân, a mawrygaf ef mewn mawl. A hyn fydd well gan yr ARGLWYDD nag ych neu fustach corniog, carnol. Y trueiniaid a lawenychant pan welant hyn: eich calon chwithau, y rhai a geisiwch DDUW, a fydd byw. Canys gwrendy yr ARGLWYDD ar dlodion, ac ni ddiystyra efe ei garcharorion. Nefoedd a daear, y môr a’r hyn oll a ymlusgo ynddo, molant ef. Canys DUW a achub Seion, ac a adeilada ddinasoedd Jwda; fel y trigont yno, ac y meddiannont hi. A hiliogaeth ei weision a’i meddiannant hi: a’r rhai a hoffant ei enw ef, a breswyliant ynddi.