Salm 69:13-18
Salm 69:13-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
O ARGLWYDD, dw i’n gweddïo arnat ti ac yn gofyn i ti ddangos ffafr ata i. O Dduw, am dy fod ti mor ffyddlon, ateb fi ac achub fi. Tynna fi allan o’r mwd yma. Paid gadael i mi suddo! Achub fi rhag y bobl sy’n fy nghasáu i – achub fi o’r dŵr dwfn. Paid gadael i’r llifogydd fy ysgubo i ffwrdd! Paid gadael i’r dyfnder fy llyncu. Paid gadael i geg y pwll gau arna i. Ateb fi, ARGLWYDD; rwyt ti mor ffyddlon. Tro ata i, gan dy fod ti mor drugarog; Paid troi dy gefn ar dy was – dw i mewn trafferthion, felly brysia! Ateb fi! Tyrd yma! Gollwng fi’n rhydd! Gad i mi ddianc o afael y gelynion.
Salm 69:13-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond daw fy ngweddi i atat, O ARGLWYDD. Ar yr amser priodol, O Dduw, ateb fi yn dy gariad mawr gyda'th waredigaeth sicr. Gwared fi o'r llaid rhag imi suddo, achuber fi o'r mwd ac o'r dyfroedd dyfnion. Na fydded i'r llifogydd fy sgubo ymaith, na'r dyfnder fy llyncu, na'r pwll gau ei safn amdanaf. Ateb fi, ARGLWYDD, oherwydd da yw dy gariad; yn dy drugaredd mawr, tro ataf. Paid â chuddio dy wyneb oddi wrth dy was; y mae'n gyfyng arnaf, brysia i'm hateb. Tyrd yn nes ataf i'm gwaredu; rhyddha fi o achos fy ngelynion.
Salm 69:13-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond myfi, fy ngweddi sydd atat ti, O ARGLWYDD, mewn amser cymeradwy: O DDUW, yn lluosowgrwydd dy drugaredd gwrando fi, yng ngwirionedd dy iachawdwriaeth. Gwared fi o’r dom, ac na soddwyf: gwareder fi oddi wrth fy nghaseion, ac o’r dyfroedd dyfnion. Na lifed y ffrwd ddwfr drosof, ac na lynced y dyfnder fi; na chaeed y pydew chwaith ei safn arnaf. Clyw fi, ARGLWYDD; canys da yw dy drugaredd: yn ôl lliaws dy dosturiaethau edrych arnaf. Ac na chuddia dy wyneb oddi wrth dy was; canys y mae cyfyngder arnaf: brysia, gwrando fi. Nesâ at fy enaid, a gwared ef: achub fi oherwydd fy ngelynion.