Salm 55:11-23
Salm 55:11-23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
pobl yn bygwth ei gilydd ym mhobman – dydy gormes a thwyll byth yn gadael ei strydoedd! Nid y gelyn sy’n fy ngwawdio i – gallwn oddef hynny; nid y gelyn sy’n fy sarhau i – gallwn guddio oddi wrth hwnnw; ond ti, sy’n ddyn fel fi, yn gyfaill agos, fy ffrind i! Roedd dy gwmni di mor felys wrth i ni gerdded gyda’n gilydd yn nhŷ Dduw. Gad i’r gelynion yn sydyn gael eu taro’n farw! Gad i’r bedd eu llyncu nhw’n fyw! Does dim ond drygioni lle bynnag maen nhw. Ond dw i’n mynd i alw ar Dduw, a bydd yr ARGLWYDD yn fy achub i. Dw i’n dal ati i gwyno a phledio, fore, nos a chanol dydd. Dw i’n gwybod y bydd e’n gwrando! Bydd e’n dod â fi allan yn saff o ganol yr ymladd, er bod cymaint yn fy erbyn i. Bydd Duw, sy’n teyrnasu o’r dechrau cyntaf, yn gwrando arna i ac yn eu trechu nhw. Saib Maen nhw’n gwrthod newid eu ffyrdd, a dangos parch tuag at Dduw. Ond am fy ffrind wnaeth droi yn fy erbyn i, torri ei air wnaeth e. Roedd yn seboni gyda’i eiriau, ond ymosod oedd ei fwriad. Roedd ei eiriau’n dyner fel olew, ond cleddyfau noeth oedden nhw go iawn. Rho dy feichiau trwm i’r ARGLWYDD; bydd e’n edrych ar dy ôl di. Wnaiff e ddim gadael i’r cyfiawn syrthio. O Dduw, byddi di’n taflu’r rhai drwg i bwll dinistr – Bydd y rhai sy’n lladd ac yn twyllo yn marw’n ifanc. Ond dw i’n dy drystio di.
Salm 55:11-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
dinistr yn ei chanol; ac nid yw twyll a gorthrwm yn ymadael o'i marchnadfa. “Ond nid gelyn a'm gwawdiodd— gallwn oddef hynny; nid un o'm caseion a'm bychanodd— gallwn guddio rhag hwnnw; ond ti, fy nghydradd, fy nghydymaith, fy nghydnabod— buom mewn cyfeillach felys â'n gilydd wrth gerdded gyda'r dyrfa yn nhŷ Dduw. “Doed marwolaeth arnynt; bydded iddynt fynd yn fyw i Sheol, am fod drygioni'n cartrefu yn eu mysg. Ond gwaeddaf fi ar Dduw, a bydd yr ARGLWYDD yn fy achub. Hwyr a bore a chanol dydd fe gwynaf a griddfan, a chlyw ef fy llais. Gwareda fy mywyd yn ddiogel o'r rhyfel yr wyf ynddo, oherwydd y mae llawer i'm herbyn. Gwrendy Duw a'u darostwng— y mae ef wedi ei orseddu erioed— Sela “am na fynnant newid nac ofni Duw. “Estynnodd fy nghydymaith ei law yn erbyn ei gyfeillion, torrodd ei gyfamod. Yr oedd ei leferydd yn esmwythach na menyn, ond yr oedd rhyfel yn ei galon; yr oedd ei eiriau'n llyfnach nag olew, ond yr oeddent yn gleddyfau noeth. “Bwrw dy faich ar yr ARGLWYDD, ac fe'th gynnal di; ni ad i'r cyfiawn gael ei ysgwyd byth. Ti, O Dduw, a'u bwria i'r pwll isaf— rhai gwaedlyd a thwyllodrus— ni chânt fyw hanner eu dyddiau. Ond ymddiriedaf fi ynot ti.”
Salm 55:11-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Anwireddau sydd yn ei chanol hi; ac ni chilia twyll a dichell o’i heolydd hi. Canys nid gelyn a’m difenwodd; yna y dioddefaswn: nid fy nghasddyn a ymfawrygodd i’m herbyn; yna mi a ymguddiaswn rhagddo ef: Eithr tydi, ddyn, fy nghydradd, fy fforddwr, a’m cydnabod, Y rhai oedd felys gennym gydgyfrinachu, ac a rodiasom i dŷ DDUW ynghyd. Rhuthred marwolaeth arnynt, a disgynnant i uffern yn fyw: canys drygioni sydd yn eu cartref, ac yn eu mysg. Myfi a waeddaf ar DDUW; a’r ARGLWYDD a’m hachub i. Hwyr a bore, a hanner dydd, y gweddïaf, a byddaf daer: ac efe a glyw fy lleferydd. Efe a waredodd fy enaid mewn heddwch oddi wrth y rhyfel oedd i’m herbyn: canys yr oedd llawer gyda mi. DUW a glyw, ac a’u darostwng hwynt, yr hwn sydd yn aros erioed: Sela: am nad oes gyfnewidiau iddynt, am hynny nid ofnant DDUW. Efe a estynnodd ei law yn erbyn y rhai oedd heddychlon ag ef: efe a dorrodd ei gyfamod. Llyfnach oedd ei enau nag ymenyn, a rhyfel yn ei galon: tynerach oedd ei eiriau nag olew, a hwynt yn gleddyfau noethion. Bwrw dy faich ar yr ARGLWYDD, ac efe a’th gynnal di: ni ad i’r cyfiawn ysgogi byth. Tithau, DDUW, a’u disgynni hwynt i bydew dinistr: gwŷr gwaedlyd a thwyllodrus ni byddant byw hanner eu dyddiau; ond myfi a obeithiaf ynot ti.