Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 55

55
SALM 55
I’r Pencerdd ar Neginoth, Maschil, Salm Dafydd.
1Gwrando fy ngweddi, O Dduw; ac nac ymguddia rhag fy neisyfiad.
2Gwrando arnaf, ac erglyw fi: cwynfan yr ydwyf yn fy ngweddi, a thuchan,
3Gan lais y gelyn, gan orthrymder yr annuwiol: oherwydd y maent yn bwrw anwiredd arnaf, ac yn fy nghasáu yn llidiog.
4Fy nghalon a ofidia o’m mewn: ac ofn angau a syrthiodd arnaf.
5Ofn ac arswyd a ddaeth arnaf, a dychryn a’m gorchuddiodd.
6A dywedais, O na bai i mi adenydd fel colomen! yna yr ehedwn ymaith, ac y gorffwyswn.
7Wele, crwydrwn ymhell, ac arhoswn yn yr anialwch. Sela.
8Brysiwn i ddianc, rhag y gwynt ystormus a’r dymestl.
9Dinistria, O Arglwydd, a gwahan eu tafodau: canys gwelais drawster a chynnen yn y ddinas.
10Dydd a nos yr amgylchant hi ar ei muriau: ac y mae anwiredd a blinder yn ei chanol hi.
11Anwireddau sydd yn ei chanol hi; ac ni chilia twyll a dichell o’i heolydd hi.
12Canys nid gelyn a’m difenwodd; yna y dioddefaswn: nid fy nghasddyn a ymfawrygodd i’m herbyn; yna mi a ymguddiaswn rhagddo ef:
13Eithr tydi, ddyn, fy nghydradd, fy fforddwr, a’m cydnabod,
14Y rhai oedd felys gennym gydgyfrinachu, ac a rodiasom i dŷ Dduw ynghyd.
15Rhuthred marwolaeth arnynt, a disgynnant i uffern yn fyw: canys drygioni sydd yn eu cartref, ac yn eu mysg.
16Myfi a waeddaf ar Dduw; a’r Arglwydd a’m hachub i.
17Hwyr a bore, a hanner dydd, y gweddïaf, a byddaf daer: ac efe a glyw fy lleferydd.
18Efe a waredodd fy enaid mewn heddwch oddi wrth y rhyfel oedd i’m herbyn: canys yr oedd llawer gyda mi.
19 Duw a glyw, ac a’u darostwng hwynt, yr hwn sydd yn aros erioed: Sela: am nad oes gyfnewidiau iddynt, am hynny nid ofnant Dduw.
20Efe a estynnodd ei law yn erbyn y rhai oedd heddychlon ag ef: efe a dorrodd ei gyfamod.
21Llyfnach oedd ei enau nag ymenyn, a rhyfel yn ei galon: tynerach oedd ei eiriau nag olew, a hwynt yn gleddyfau noethion.
22Bwrw dy faich ar yr Arglwydd, ac efe a’th gynnal di: ni ad i’r cyfiawn ysgogi byth.
23Tithau, Dduw, a’u disgynni hwynt i bydew dinistr: gwŷr gwaedlyd a thwyllodrus ni byddant byw hanner eu dyddiau; ond myfi a obeithiaf ynot ti.

Dewis Presennol:

Y Salmau 55: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda