Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 54

54
SALM 54
I’r Pencerdd ar Neginoth, Maschil, Salm Dafydd, pan ddaeth y Siffiaid a dywedyd wrth Saul, Onid ydyw Dafydd yn ymguddio gyda ni?
1Achub fi, O Dduw, yn dy enw; a barn fi yn dy gadernid.
2 Duw, clyw fy ngweddi; gwrando ymadrodd fy ngenau.
3Canys dieithriaid a gyfodasant i’m herbyn, a’r trawsion a geisiant fy enaid: ni osodasant Dduw o’u blaen. Sela.
4Wele, Duw sydd yn fy nghynorthwyo: yr Arglwydd sydd ymysg y rhai a gynhaliant fy enaid.
5Efe a dâl ddrwg i’m gelynion: tor hwynt ymaith yn dy wirionedd.
6Aberthaf i ti yn ewyllysgar: clodforaf dy enw, O Arglwydd; canys da yw.
7Canys efe a’m gwaredodd o bob trallod; a’m llygad a welodd ei ewyllys ar fy ngelynion.

Dewis Presennol:

Y Salmau 54: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda