Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 55

55
I'r Cyfarwyddwr: gydag offerynnau llinynnol. Mascîl. I Ddafydd.
1Gwrando, O Dduw, ar fy ngweddi;
paid ag ymguddio rhag fy neisyfiad.
2Gwrando arnaf ac ateb fi;
yr wyf wedi fy llethu gan fy nghwyn.
3Yr wyf bron â drysu#55:3 Hebraeg, Yr wyf bron â drysu yn yr adn. flaenorol. gan sŵn y gelyn,
gan grochlefain y drygionus;
oherwydd pentyrrant ddrygioni arnaf,
ac ymosod arnaf yn eu llid.
4Y mae fy nghalon mewn gwewyr,
a daeth ofn angau ar fy ngwarthaf.
5Daeth arnaf ofn ac arswyd,
ac fe'm meddiannwyd gan ddychryn.
6A dywedais, “O na fyddai gennyf adenydd colomen,
imi gael ehedeg ymaith a gorffwyso!
7Yna byddwn yn crwydro ymhell
ac yn aros yn yr anialwch;
Sela
8“brysiwn i gael cysgod
rhag y gwynt stormus a'r dymestl.”
9O Dduw, cymysga a rhanna'u hiaith,
oherwydd gwelais drais a chynnen yn y ddinas;
10ddydd a nos y maent yn ei hamgylchu ar y muriau,
ac y mae drygioni a thrybini o'i mewn,
11dinistr yn ei chanol;
ac nid yw twyll a gorthrwm
yn ymadael o'i marchnadfa.
12“Ond nid gelyn a'm gwawdiodd—
gallwn oddef hynny;
nid un o'm caseion a'm bychanodd—
gallwn guddio rhag hwnnw;
13ond ti, fy nghydradd,
fy nghydymaith, fy nghydnabod—
14buom mewn cyfeillach felys â'n gilydd
wrth gerdded gyda'r dyrfa yn nhŷ Dduw.
15“Doed marwolaeth arnynt;
bydded iddynt fynd yn fyw i Sheol,
am fod drygioni'n cartrefu yn eu mysg.
16Ond gwaeddaf fi ar Dduw,
a bydd yr ARGLWYDD yn fy achub.
17Hwyr a bore a chanol dydd
fe gwynaf a griddfan,
a chlyw ef fy llais.
18Gwareda fy mywyd yn ddiogel
o'r rhyfel yr wyf ynddo,
oherwydd y mae llawer i'm herbyn.
19Gwrendy Duw a'u darostwng—
y mae ef wedi ei orseddu erioed—
Sela
“am na fynnant newid nac ofni Duw.
20“Estynnodd fy nghydymaith ei law yn erbyn ei gyfeillion,
torrodd ei gyfamod.
21Yr oedd ei leferydd yn esmwythach na menyn,
ond yr oedd rhyfel yn ei galon;
yr oedd ei eiriau'n llyfnach nag olew,
ond yr oeddent yn gleddyfau noeth.
22“Bwrw dy faich ar yr ARGLWYDD,
ac fe'th gynnal di;
ni ad i'r cyfiawn gael ei ysgwyd byth.
23Ti, O Dduw, a'u bwria i'r pwll isaf—
rhai gwaedlyd a thwyllodrus—
ni chânt fyw hanner eu dyddiau.
Ond ymddiriedaf fi ynot ti.”

Dewis Presennol:

Y Salmau 55: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd