Salm 43:1-5
Salm 43:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Cymer fy mhlaid, O Dduw, ac amddiffyn fy achos rhag pobl annheyrngar; gwared fi rhag dynion twyllodrus ac anghyfiawn, oherwydd ti, O Dduw, yw fy amddiffyn. Pam y gwrthodaist fi? Pam y rhodiaf mewn galar, wedi fy ngorthrymu gan y gelyn? Anfon dy oleuni a'th wirionedd, bydded iddynt fy arwain, bydded iddynt fy nwyn i'th fynydd sanctaidd ac i'th drigfan. Yna dof at allor Duw, at Dduw fy llawenydd; llawenychaf a'th foliannu â'r delyn, O Dduw, fy Nuw. Mor ddarostyngedig wyt, fy enaid, ac mor gythryblus o'm mewn! Disgwyliaf wrth Dduw; oherwydd eto moliannaf ef, fy Ngwaredydd a'm Duw.
Salm 43:1-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Achub fy ngham, O Dduw! Dadlau fy achos yn erbyn pobl anffyddlon. Achub fi rhag y twyllwyr drwg! Ti ydy fy Nuw i – fy nghaer ddiogel i; felly pam wyt ti wedi fy ngwrthod? Pam mae’n rhaid i mi gerdded o gwmpas yn drist, am fod fy ngelynion yn fy ngham-drin i? Rho dy olau i mi, gyda dy wirionedd, i’m harwain. Byddan nhw’n dod â fi yn ôl at y mynydd sanctaidd lle rwyt ti’n byw. Bydda i’n cael mynd at allor Duw, y Duw sy’n fy ngwneud i mor hapus. Bydda i’n dy foli di gyda’r delyn, O Dduw, fy Nuw. F’enaid, pam wyt ti’n teimlo mor isel? Pam wyt ti mor anniddig? Rho dy obaith yn Nuw! Bydda i’n moli Duw eto am iddo ymyrryd i’m hachub i.
Salm 43:1-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Barn fi, O DDUW, a dadlau fy nadl yn erbyn y genhedlaeth anhrugarog: gwared fi rhag y dyn twyllodrus ac anghyfiawn. Canys ti yw DUW fy nerth: paham y’m bwri ymaith? paham yr af yn alarus trwy orthrymder y gelyn? Anfon dy oleuni a’th wirionedd: tywysant hwy fi; ac arweiniant fi i fynydd dy sancteiddrwydd, ac i’th bebyll. Yna yr af at allor DUW, at DDUW hyfrydwch fy ngorfoledd; a mi a’th foliannaf ar y delyn, O DDUW, fy NUW. Paham y’th ddarostyngir, fy enaid? a phaham y terfysgi ynof? gobeithia yn NUW; canys eto y moliannaf ef, sef iachawdwriaeth fy wyneb, a’m DUW.