Barn fi, O DDUW, a dadlau fy nadl yn erbyn y genhedlaeth anhrugarog: gwared fi rhag y dyn twyllodrus ac anghyfiawn. Canys ti yw DUW fy nerth: paham y’m bwri ymaith? paham yr af yn alarus trwy orthrymder y gelyn? Anfon dy oleuni a’th wirionedd: tywysant hwy fi; ac arweiniant fi i fynydd dy sancteiddrwydd, ac i’th bebyll. Yna yr af at allor DUW, at DDUW hyfrydwch fy ngorfoledd; a mi a’th foliannaf ar y delyn, O DDUW, fy NUW. Paham y’th ddarostyngir, fy enaid? a phaham y terfysgi ynof? gobeithia yn NUW; canys eto y moliannaf ef, sef iachawdwriaeth fy wyneb, a’m DUW.
Darllen Y Salmau 43
Gwranda ar Y Salmau 43
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 43:1-5
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos