Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 42:1-11

Salm 42:1-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Fel hydd yn brefu am ddiod o ddŵr, dw i’n hiraethu go iawn amdanat ti, O Dduw. Mae gen i syched am Dduw, y Duw byw; O, pryd ga i fynd eto i sefyll o’i flaen yn ei deml? Dw i’n methu bwyta, ac yn crio nos a dydd, wrth iddyn nhw wawdio’n ddiddiwedd, “Ble mae dy Dduw di, felly?” Wrth gofio hyn i gyd dw i’n teimlo mor drist. Cofio mynd gyda’r dyrfa i dŷ Dduw; gweiddi a moli’n llawen gyda phawb arall wrth ddathlu’r Ŵyl! F’enaid, pam wyt ti’n teimlo mor isel? Pam wyt ti mor anniddig? Rho dy obaith yn Nuw! Bydda i’n moli Duw eto am iddo ymyrryd i’m hachub i. O fy Nuw, dw i’n teimlo mor isel. Felly dw i am feddwl amdanat ti tra dw i’n ffoadur yma. Yma mae’r Iorddonen yn tarddu o fryniau Hermon a Mynydd Misar, lle mae sŵn dwfn y rhaeadrau yn galw ar ei gilydd. Mae fel petai tonnau mawr dy fôr yn llifo drosto i! Ond dw i’n profi gofal ffyddlon yr ARGLWYDD drwy’r dydd; ac yn y nos dw i’n canu cân o fawl iddo ac yn gweddïo ar y Duw byw. Dw i’n gofyn i Dduw, fy nghraig uchel, “Pam wyt ti’n cymryd dim sylw ohono i? Pam mae’n rhaid i mi gerdded o gwmpas yn drist, am fod y gelynion yn fy ngham-drin i?” Mae’r rhai sy’n fy nghasáu i yn gwawdio; ac mae’n brathu i’r byw wrth iddyn nhw wawdio’n ddiddiwedd, “Ble mae dy Dduw di, felly?” F’enaid, pam wyt ti’n teimlo mor isel? Pam wyt ti mor anniddig? Rho dy obaith yn Nuw! Bydda i’n moli Duw eto am iddo ymyrryd i’m hachub i.