Salm 18:46-49
Salm 18:46-49 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Byw yw'r ARGLWYDD, bendigedig yw fy nghraig; dyrchafedig fyddo'r Duw sy'n fy ngwaredu, y Duw sy'n rhoi imi ddialedd, ac yn darostwng pobloedd odanaf, sy'n fy ngwaredu rhag fy ngelynion, yn fy nyrchafu uwchlaw fy ngwrthwynebwyr, ac yn fy arbed rhag y gorthrymwyr. Oherwydd hyn, clodforaf di, O ARGLWYDD, ymysg y cenhedloedd, a chanaf fawl i'th enw.
Salm 18:46-49 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ydy, mae’r ARGLWYDD yn fyw! Bendith ar y graig sy’n fy amddiffyn i! Boed i Dduw, wnaeth fy achub i, gael ei anrhydeddu! Fe ydy’r Duw sydd wedi dial ar fy rhan i, a gwneud i bobloedd blygu o’m blaen. Fe ydy’r Duw sydd wedi fy achub i rhag fy ngelynion, a’m cipio o afael y rhai sy’n fy nghasáu. Mae wedi fy achub o ddwylo dynion treisgar. Felly, O ARGLWYDD, bydda i’n dy foli di o flaen y cenhedloedd ac yn canu mawl i dy enw
Salm 18:46-49 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Byw yw'r ARGLWYDD, bendigedig yw fy nghraig; dyrchafedig fyddo'r Duw sy'n fy ngwaredu, y Duw sy'n rhoi imi ddialedd, ac yn darostwng pobloedd odanaf, sy'n fy ngwaredu rhag fy ngelynion, yn fy nyrchafu uwchlaw fy ngwrthwynebwyr, ac yn fy arbed rhag y gorthrymwyr. Oherwydd hyn, clodforaf di, O ARGLWYDD, ymysg y cenhedloedd, a chanaf fawl i'th enw.
Salm 18:46-49 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Byw yw yr ARGLWYDD, a bendithier fy nghraig: a dyrchafer DUW fy iachawdwriaeth. DUW sydd yn rhoddi i mi allu ymddial, ac a ddarostwng y bobloedd danaf. Efe sydd yn fy ngwared oddi wrth fy ngelynion: ie, ti a’m dyrchefi uwchlaw y rhai a gyfodant i’m herbyn: achubaist fi rhag y gŵr traws. Am hynny y moliannaf di, O ARGLWYDD, ymhlith y cenhedloedd, ac y canaf i’th enw.