Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 18

18
SALM 18
I’r Pencerdd, Salm Dafydd, gwas yr Arglwydd, yr hwn a lefarodd wrth yr Arglwydd eiriau y gân hon, yn y dydd y gwaredodd yr Arglwydd ef o law ei holl elynion, ac o law Saul: ac efe a ddywedodd,
1Caraf di, Arglwydd fy nghadernid.
2Yr Arglwydd yw fy nghraig, a’m hamddiffynfa, a’m gwaredydd; fy Nuw, fy nghadernid, yn yr hwn yr ymddiriedaf; fy nharian, a chorn fy iachawdwriaeth, a’m huchel dŵr.
3Galwaf ar yr Arglwydd canmoladwy: felly y’m cedwir rhag fy ngelynion.
4Gofidion angau a’m cylchynasant, ac afonydd y fall a’m dychrynasant i.
5Gofidiau uffern a’m cylchynasant: maglau angau a achubasant fy mlaen.
6Yn fy nghyfyngder y gelwais ar yr Arglwydd, ac y gwaeddais ar fy Nuw: efe a glybu fy llef o’i deml, a’m gwaedd ger ei fron a ddaeth i’w glustiau ef.
7Yna y siglodd ac y crynodd y ddaear; a seiliau y mynyddoedd a gynhyrfodd ac a ymsiglodd, am iddo ef ddigio.
8Dyrchafodd mwg o’i ffroenau, a thân a ysodd o’i enau: glo a enynasant ganddo.
9Efe hefyd a ostyngodd y nefoedd, ac a ddisgynnodd: a thywyllwch oedd dan ei draed ef.
10Marchogodd hefyd ar y ceriwb, ac a ehedodd: ie, efe a ehedodd ar adenydd y gwynt.
11Efe a wnaeth dywyllwch yn ddirgelfa iddo; a’i babell o’i amgylch oedd dywyllwch dyfroedd, a thew gymylau yr awyr.
12Gan y disgleirdeb oedd ger ei fron, ei gymylau a aethant heibio; cenllysg a marwor tanllyd.
13Yr Arglwydd hefyd a daranodd yn y nefoedd, a’r Goruchaf a roddes ei lef; cenllysg a marwor tanllyd.
14Ie, efe a anfonodd ei saethau, ac a’u gwasgarodd hwynt; ac a saethodd ei fellt, ac a’u gorchfygodd hwynt.
15Gwaelodion y dyfroedd a welwyd, a seiliau y byd a ddinoethwyd gan dy gerydd di, O Arglwydd, a chan chwythad anadl dy ffroenau.
16Anfonodd oddi uchod, cymerodd fi, tynnodd fi allan o ddyfroedd lawer.
17Efe a’m gwaredodd oddi wrth fy ngelyn cadarn, a rhag fy nghaseion: canys yr oeddynt yn drech na mi.
18Achubasant fy mlaen yn nydd fy ngofid: ond yr Arglwydd oedd gynhaliad i mi.
19Dug fi hefyd i ehangder: gwaredodd fi; canys ymhoffodd ynof.
20Yr Arglwydd a’m gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder; yn ôl glendid fy nwylo y talodd efe i mi.
21Canys cedwais ffyrdd yr Arglwydd, ac ni chiliais yn annuwiol oddi wrth fy Nuw.
22Oherwydd ei holl farnedigaethau ef oedd ger fy mron i, a’i ddeddfau ni fwriais oddi wrthyf.
23Bûm hefyd yn berffaith gydag ef, ac ymgedwais rhag fy anwiredd.
24A’r Arglwydd a’m gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder, yn ôl purdeb fy nwylo o flaen ei lygaid ef.
25A’r trugarog y gwnei drugaredd; â’r gŵr perffaith y gwnei berffeithrwydd.
26A’r glân y gwnei lendid; ac â’r cyndyn yr ymgyndynni.
27Canys ti a waredi y bobl gystuddiedig: ond ti a ostyngi olygon uchel.
28Oherwydd ti a oleui fy nghannwyll: yr Arglwydd fy Nuw a lewyrcha fy nhywyllwch.
29Oblegid ynot ti y rhedais trwy fyddin; ac yn fy Nuw y llemais dros fur.
30 Duw sydd berffaith ei ffordd: gair yr Arglwydd sydd wedi ei buro: tarian yw efe i bawb a ymddiriedant ynddo.
31Canys pwy sydd Dduw heblaw yr Arglwydd? a phwy sydd graig ond ein Duw ni?
32 Duw sydd yn fy ngwregysu â nerth, ac yn gwneuthur fy ffordd yn berffaith.
33Gosod y mae efe fy nhraed fel traed ewigod; ac ar fy uchelfannau y’m sefydla.
34Efe sydd yn dysgu fy nwylo i ryfel; fel y dryllier bwa dur yn fy mreichiau.
35Rhoddaist hefyd i mi darian dy iachawdwriaeth; a’th ddeheulaw a’m cynhaliodd, a’th fwynder a’m lluosogodd.
36Ehengaist fy ngherddediad danaf; fel na lithrodd fy nhraed.
37Erlidiais fy ngelynion, ac a’u goddiweddais: ac ni ddychwelais nes eu difa hwynt.
38Archollais hwynt, fel na allent godi: syrthiasant dan fy nhraed.
39Canys gwregysaist fi â nerth i ryfel: darostyngaist danaf y rhai a ymgododd i’m herbyn.
40Rhoddaist hefyd i mi warrau fy ngelynion; fel y difethwn fy nghaseion.
41Gwaeddasant, ond nid oedd achubydd: sef ar yr Arglwydd, ond nid atebodd efe hwynt.
42Maluriais hwynt hefyd fel llwch o flaen y gwynt: teflais hwynt allan megis tom yr heolydd.
43Gwaredaist fi rhag cynhennau y bobl; gosodaist fi yn ben cenhedloedd: pobl nid adnabûm a’m gwasanaethant.
44Pan glywant amdanaf, ufuddhânt i mi: meibion dieithr a gymerant arnynt ymddarostwng i mi.
45Meibion dieithr a ballant, ac a ddychrynant allan o’u dirgel fannau.
46Byw yw yr Arglwydd, a bendithier fy nghraig: a dyrchafer Duw fy iachawdwriaeth.
47 Duw sydd yn rhoddi i mi allu ymddial, ac a ddarostwng y bobloedd danaf.
48Efe sydd yn fy ngwared oddi wrth fy ngelynion: ie, ti a’m dyrchefi uwchlaw y rhai a gyfodant i’m herbyn: achubaist fi rhag y gŵr traws.
49Am hynny y moliannaf di, O Arglwydd, ymhlith y cenhedloedd, ac y canaf i’th enw.
50Efe sydd yn gwneuthur mawr ymwared i’w Frenin; ac yn gwneuthur trugaredd i’w eneiniog, i Dafydd, ac i’w had ef byth.

Dewis Presennol:

Y Salmau 18: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda