Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 17

17
SALM 17
Gweddi Dafydd.
1Clyw, Arglwydd, gyfiawnder, ystyria fy lefain, gwrando fy ngweddi o wefusau didwyll.
2Deued fy marn oddi ger dy fron: edryched dy lygaid ar uniondeb.
3Profaist fy nghalon; gofwyaist fi y nos; chwiliaist fi, ac ni chei ddim: bwriedais na throseddai fy ngenau.
4Tuag at am weithredoedd dynion, wrth eiriau dy wefusau yr ymgedwais rhag llwybrau yr ysbeilydd.
5Cynnal fy ngherddediad yn dy lwybrau, fel na lithro fy nhraed.
6Mi a elwais arnat; canys gwrandewi arnaf fi, O Dduw: gostwng dy glust ataf, ac erglyw fy ymadrodd.
7Dangos dy ryfedd drugareddau, O Achubydd y rhai a ymddiriedant ynot, rhag y sawl a ymgyfodant yn erbyn dy ddeheulaw.
8Cadw fi fel cannwyll llygad: cudd fi dan gysgod dy adenydd,
9Rhag yr annuwiolion, y rhai a’m gorthrymant, rhag fy ngelynion marwol, y rhai a’m hamgylchant.
10Caesant gan eu braster: â’u genau y llefarant mewn balchder.
11Ein cyniweirfa ni a glychynasant hwy yr awron: gosodasant eu llygaid i dynnu i lawr i’r ddaear.
12Eu dull sydd fel llew a chwenychai ysglyfaethu, ac megis llew ieuanc yn aros mewn leoedd dirgel.
13Cyfod, Arglwydd, achub ei flaen ef, cwympa ef: gwared fy enaid rhag yr annuwio, yr hwn yw dy gleddyf di;
14Rhag dynion, y rhai yw dy law, O Arglwydd, rhag dynion y byd, y rhai y mae eu rhan yn y bywyd yma, a’r rhai y llenwaist eu boliau â’th guddiedig drysor: llawn ydynt o feibion, a gadawant eu gweddill i’w rhai bychain.
15Myfi a edrychaf ar dy wyneb mewn cyfiawnder: digonir fi, pan ddihunwyf, â’th ddelw di.

Dewis Presennol:

Y Salmau 17: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda