Ydy, mae’r ARGLWYDD yn fyw! Bendith ar y graig sy’n fy amddiffyn i! Boed i Dduw, wnaeth fy achub i, gael ei anrhydeddu! Fe ydy’r Duw sydd wedi dial ar fy rhan i, a gwneud i bobloedd blygu o’m blaen. Fe ydy’r Duw sydd wedi fy achub i rhag fy ngelynion, a’m cipio o afael y rhai sy’n fy nghasáu. Mae wedi fy achub o ddwylo dynion treisgar. Felly, O ARGLWYDD, bydda i’n dy foli di o flaen y cenhedloedd ac yn canu mawl i dy enw
Darllen Salm 18
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Salm 18:46-49
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos