Salm 127:1-5
Salm 127:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Os nad yw'r ARGLWYDD yn adeiladu'r tŷ, y mae ei adeiladwyr yn gweithio'n ofer. Os nad yw'r ARGLWYDD yn gwylio'r ddinas, y mae'r gwylwyr yn effro'n ofer. Yn ofer y codwch yn fore, a mynd yn hwyr i orffwyso, a llafurio am y bwyd a fwytewch; oherwydd mae ef yn rhoi i'w anwylyd pan yw'n cysgu. Wele, etifeddiaeth oddi wrth yr ARGLWYDD yw meibion, a gwobr yw ffrwyth y groth. Fel saethau yn llaw rhyfelwr yw meibion ieuenctid dyn. Gwyn ei fyd y sawl sydd â chawell llawn ohonynt; ni chywilyddir ef pan ddadleua â'i elynion yn y porth.
Salm 127:1-5 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Os ydy’r ARGLWYDD ddim yn adeiladu’r tŷ, mae’r adeiladwyr yn gweithio’n galed i ddim pwrpas. Os ydy’r ARGLWYDD ddim yn amddiffyn dinas, mae’r gwyliwr yn cadw’n effro i ddim byd. Does dim pwynt codi’n fore nac aros ar eich traed yn hwyr i weithio’n galed er mwyn cael bwyd i’w fwyta. Ie, Duw sy’n darparu ar gyfer y rhai mae’n eu caru, a hynny tra maen nhw’n cysgu. Ac ie, yr ARGLWYDD sy’n rhoi meibion i bobl; gwobr ganddo fe ydy ffrwyth y groth. Mae meibion sy’n cael eu geni i ddyn pan mae’n ifanc fel saethau yn llaw’r milwr. Mae’r dyn sy’n llenwi ei gawell gyda nhw wedi’i fendithio’n fawr! Fydd e ddim yn cael ei gywilyddio wrth ddadlau gyda’i elynion wrth giât y ddinas.
Salm 127:1-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Os yr ARGLWYDD nid adeilada y tŷ, ofer y llafuria ei adeiladwyr wrtho: os yr ARGLWYDD ni cheidw y ddinas, ofer y gwylia y ceidwad. Ofer i chwi foregodi, myned yn hwyr i gysgu, bwyta bara gofidiau: felly y rhydd efe hun i’w anwylyd. Wele, plant ydynt etifeddiaeth yr ARGLWYDD: ei wobr ef yw ffrwyth y groth. Fel y mae saethau yn llaw y cadarn; felly y mae plant ieuenctid. Gwyn ei fyd y gŵr a lanwodd ei gawell saethau â hwynt: nis gwaradwyddir hwy, pan ymddiddanant â’r gelynion yn y porth.