Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 127

127
SALM 127
Caniad y graddau, i Solomon.
1Os yr Arglwydd nid adeilada y tŷ, ofer y llafuria ei adeiladwyr wrtho: os yr Arglwydd ni cheidw y ddinas, ofer y gwylia y ceidwad.
2Ofer i chwi foregodi, myned yn hwyr i gysgu, bwyta bara gofidiau: felly y rhydd efe hun i’w anwylyd.
3Wele, plant ydynt etifeddiaeth yr Arglwydd: ei wobr ef yw ffrwyth y groth.
4Fel y mae saethau yn llaw y cadarn; felly y mae plant ieuenctid.
5Gwyn ei fyd y gŵr a lanwodd ei gawell saethau â hwynt: nis gwaradwyddir hwy, pan ymddiddanant â’r gelynion yn y porth.

Dewis Presennol:

Y Salmau 127: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda