Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 128

128
SALM 128
Caniad y graddau.
1Gwyn ei fyd pob un sydd yn ofni yr Arglwydd; yr hwn sydd yn rhodio yn ei ffyrdd ef.
2Canys mwynhei lafur dy ddwylo: gwyn dy fyd, a da fydd i ti.
3Dy wraig fydd fel gwinwydden ffrwythlon ar hyd ystlysau dy dŷ: dy blant fel planhigion olewydd o amgylch dy ford.
4Wele, fel hyn yn ddiau y bendithir y gŵr a ofno yr Arglwydd.
5Yr Arglwydd a’th fendithia allan o Seion; a thi a gei weled daioni Jerwsalem holl ddyddiau dy einioes.
6A thi a gei weled plant dy blant, a thangnefedd ar Israel.

Dewis Presennol:

Y Salmau 128: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda