Os yr ARGLWYDD nid adeilada y tŷ, ofer y llafuria ei adeiladwyr wrtho: os yr ARGLWYDD ni cheidw y ddinas, ofer y gwylia y ceidwad. Ofer i chwi foregodi, myned yn hwyr i gysgu, bwyta bara gofidiau: felly y rhydd efe hun i’w anwylyd. Wele, plant ydynt etifeddiaeth yr ARGLWYDD: ei wobr ef yw ffrwyth y groth. Fel y mae saethau yn llaw y cadarn; felly y mae plant ieuenctid. Gwyn ei fyd y gŵr a lanwodd ei gawell saethau â hwynt: nis gwaradwyddir hwy, pan ymddiddanant â’r gelynion yn y porth.
Darllen Y Salmau 127
Gwranda ar Y Salmau 127
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 127:1-5
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos