Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 119:1-40

Salm 119:1-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Gwyn eu byd y rhai perffaith eu ffordd, y rhai sy'n rhodio yng nghyfraith yr ARGLWYDD. Gwyn eu byd y rhai sy'n cadw ei farnedigaethau, ac yn ei geisio ef â'u holl galon, y rhai nad ydynt wedi gwneud unrhyw ddrwg, ond sy'n rhodio yn ei ffyrdd ef. Yr wyt ti wedi gwneud dy ofynion yn ddeddfau i'w cadw'n ddyfal. O na allwn gerdded yn unionsyth a chadw dy ddeddfau! Yna ni'm cywilyddir os cadwaf fy llygaid ar dy holl orchmynion. Fe'th glodforaf di â chalon gywir wrth imi ddysgu am dy farnau cyfiawn. Fe gadwaf dy ddeddfau; paid â'm gadael yn llwyr. Sut y ceidw'r ifanc ei lwybr yn lân? Trwy gadw dy air di. Fe'th geisiais di â'm holl galon; paid â gadael imi wyro oddi wrth dy orchmynion. Trysorais dy eiriau yn fy nghalon rhag imi bechu yn dy erbyn. Bendigedig wyt ti, O ARGLWYDD; dysg i mi dy ddeddfau. Bûm yn ailadrodd â'm gwefusau holl farnau dy enau. Ar hyd ffordd dy farnedigaethau cefais lawenydd sydd uwchlaw pob cyfoeth. Byddaf yn myfyrio ar dy ofynion di, ac yn cadw dy lwybrau o flaen fy llygaid. Byddaf yn ymhyfrydu yn dy ddeddfau, ac nid anghofiaf dy air. Bydd dda wrth dy was; gad imi fyw, ac fe gadwaf dy air. Agor fy llygaid imi weld rhyfeddodau dy gyfraith. Ymdeithydd wyf fi ar y ddaear; paid â chuddio dy orchmynion oddi wrthyf. Y mae fy nghalon yn dihoeni o hiraeth am dy farnau di bob amser. Fe geryddaist y trahaus, y rhai melltigedig sy'n gwyro oddi wrth dy orchmynion. Tyn ymaith oddi wrthyf eu gwaradwydd a'u sarhad, oherwydd bûm ufudd i'th farnedigaethau. Er i dywysogion eistedd mewn cynllwyn yn f'erbyn, bydd dy was yn myfyrio ar dy ddeddfau; y mae dy farnedigaethau'n hyfrydwch i mi, a hefyd yn gynghorwyr imi. Y mae fy enaid yn glynu wrth y llwch; adfywia fi yn ôl dy air. Adroddais am fy hynt ac atebaist fi; dysg i mi dy ddeddfau. Gwna imi ddeall ffordd dy ofynion, ac fe fyfyriaf ar dy ryfeddodau. Y mae fy enaid yn anniddig gan ofid, cryfha fi yn ôl dy air. Gosod ffordd twyll ymhell oddi wrthyf, a rho imi ras dy gyfraith. Dewisais ffordd ffyddlondeb, a gosod dy farnau o'm blaen. Glynais wrth dy farnedigaethau. O ARGLWYDD, paid â'm cywilyddio. Dilynaf ffordd dy orchmynion, oherwydd ehangaist fy neall. O ARGLWYDD, dysg fi yn ffordd dy ddeddfau, ac o'i chadw fe gaf wobr. Rho imi ddeall, er mwyn imi ufuddhau i'th gyfraith a'i chadw â'm holl galon; gwna imi gerdded yn llwybr dy orchmynion, oherwydd yr wyf yn ymhyfrydu ynddo. Tro fy nghalon at dy farnedigaethau yn hytrach nag at elw; tro ymaith fy llygaid rhag gweld gwagedd; adfywia fi â'th air. Cyflawna i'th was yr addewid a roddaist i'r rhai sy'n dy ofni. Tro ymaith y gwaradwydd yr wyf yn ei ofni, oherwydd y mae dy farnau'n dda. Yr wyf yn dyheu am dy ofynion; adfywia fi â'th gyfiawnder.

Salm 119:1-40 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Mae’r rhai sy’n byw yn iawn, ac yn gwneud beth mae cyfraith yr ARGLWYDD yn ei ddweud wedi’u bendithio’n fawr! Mae’r rhai sy’n gwneud beth mae’n ddweud, ac yn rhoi eu hunain yn llwyr iddo wedi’u bendithio’n fawr! Dŷn nhw’n gwneud dim drwg, ond yn ymddwyn fel mae e eisiau. Ti wedi gorchymyn fod dy ofynion i gael eu cadw’n ofalus. O na fyddwn i bob amser yn ymddwyn fel mae dy ddeddfau di’n dweud! Wedyn fyddwn i ddim yn teimlo cywilydd wrth feddwl am dy orchmynion di. Dw i’n diolch i ti o waelod calon wrth ddysgu mor deg ydy dy reolau. Dw i’n mynd i gadw dy ddeddfau; felly paid troi cefn arna i’n llwyr! Sut mae llanc ifanc i ddal ati i fyw bywyd glân? – drwy wneud fel rwyt ti’n dweud. Dw i wedi rhoi fy hun yn llwyr i ti; paid gadael i mi grwydro oddi wrth dy orchmynion di. Dw i’n trysori dy neges di yn fy nghalon, er mwyn peidio pechu yn dy erbyn. Rwyt ti’n fendigedig, O ARGLWYDD! Dysga dy ddeddfau i mi. Dw i’n ailadrodd yn uchel y rheolau rwyt ti wedi’u rhoi. Mae byw fel rwyt ti’n dweud yn rhoi mwy o lawenydd na’r cyfoeth mwya. Dw i am fyfyrio ar dy ofynion, a chadw fy llygaid ar dy ffyrdd. Mae dy ddeddfau di’n rhoi’r pleser mwya i mi! Dw i ddim am anghofio beth rwyt ti’n ddweud. Helpa dy was! Cadw fi’n fyw i mi allu gwneud beth ti’n ei ddweud. Agor fy llygaid, i mi allu deall y pethau rhyfeddol rwyt ti’n eu dysgu. Dw i ddim ond ar y ddaear yma dros dro. Paid cuddio dy orchmynion oddi wrtho i. Dw i’n ysu am gael gwybod beth ydy dy ddyfarniad di. Rwyt ti’n ceryddu pobl falch, ac yn melltithio’r rhai sy’n crwydro oddi wrth dy orchmynion di. Wnei di symud yr holl wawdio a’r cam-drin i ffwrdd? Dw i’n cadw dy reolau di. Er bod arweinwyr yn cynllwynio yn fy erbyn i, mae dy was yn astudio dy ddeddfau. Mae dy ofynion di’n hyfrydwch pur i mi, ac yn rhoi arweiniad cyson i mi. Dw i’n methu codi o’r llwch! Adfywia fi fel rwyt wedi addo! Dyma fi’n dweud beth oedd yn digwydd, a dyma ti’n ateb. Dysga dy ddeddfau i mi. Gad i mi ddeall sut mae byw yn ffyddlon i dy ofynion, a bydda i’n myfyrio ar y pethau rhyfeddol rwyt ti’n eu gwneud. Mae tristwch yn fy lladd i! Cod fi ar fy nhraed fel gwnest ti addo! Symud unrhyw dwyll sydd ynof fi; a rho dy ddysgeidiaeth i mi. Dw i wedi dewis byw’n ffyddlon i ti, a chadw fy llygaid ar dy reolau di. Dw i’n dal gafael yn dy orchmynion; ARGLWYDD, paid siomi fi! Dw i wir eisiau byw’n ffyddlon i dy orchmynion; helpa fi i weld y darlun mawr. O ARGLWYDD, dysga fi i fyw fel mae dy gyfraith di’n dweud; a’i dilyn i’r diwedd. Helpa fi i ddeall, a bydda i’n cadw dy ddysgeidiaeth di; bydda i’n ymroi i wneud popeth mae’n ei ofyn. Arwain fi i ddilyn llwybr dy orchmynion; dyna dw i eisiau’i wneud. Gwna fi’n awyddus i gadw dy amodau di yn lle bod eisiau llwyddo’n faterol. Cadw fi rhag edrych ar bethau diwerth! Gad i mi brofi bywyd wrth ddilyn dy ffyrdd di! Gwna beth wnest ti ei addo i dy was, i ennyn parch ac addoliad ynof fi. Cymer yr holl wawdio ofnadwy i ffwrdd, Mae dy ddedfryd di bob amser yn iawn. Dw i’n dyheu am wneud beth rwyt ti’n ei ofyn; rho fywyd newydd i mi drwy dy ffyddlondeb.

Salm 119:1-40 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Gwyn fyd y rhai perffaith eu ffordd, y rhai a rodiant yng nghyfraith yr ARGLWYDD. Gwyn fyd y rhai a gadwant ei dystiolaethau ef; ac a’i ceisiant ef â’u holl galon. Y rhai hefyd ni wnânt anwiredd, hwy a rodiant yn ei ffyrdd ef. Ti a orchmynnaist gadw dy orchmynion yn ddyfal. O am gyfeirio fy ffyrdd i gadw dy ddeddfau! Yna ni’m gwaradwyddid, pan edrychwn ar dy holl orchmynion. Clodforaf di ag uniondeb calon, pan ddysgwyf farnedigaethau dy gyfiawnder. Cadwaf dy ddeddfau; O na ad fi yn hollol. Pa fodd y glanha llanc ei lwybr? wrth ymgadw yn ôl dy air di. A’m holl galon y’th geisiais: na ad i mi gyfeiliorni oddi wrth dy orchmynion. Cuddiais dy ymadroddion yn fy nghalon, fel na phechwn i’th erbyn. Ti, ARGLWYDD, wyt fendigedig: dysg i mi dy ddeddfau. A’m gwefusau y traethais holl farnedigaethau dy enau. Bu mor llawen gennyf ffordd dy dystiolaethau, â’r holl olud. Yn dy orchmynion y myfyriaf, ac ar dy lwybrau yr edrychaf. Yn dy ddeddfau yr ymddigrifaf: nid anghofiaf dy air. Bydd dda wrth dy was, fel y byddwyf byw, ac y cadwyf dy air. Datguddia fy llygaid, fel y gwelwyf bethau rhyfedd allan o’th gyfraith di. Dieithr ydwyf fi ar y ddaear: na chudd di rhagof dy orchmynion. Drylliwyd fy enaid gan awydd i’th farnedigaethau bob amser. Ceryddaist y beilchion melltigedig, y rhai a gyfeiliornant oddi wrth dy orchmynion. Tro oddi wrthyf gywilydd a dirmyg: oblegid dy dystiolaethau di a gedwais. Tywysogion hefyd a eisteddasant, ac a ddywedasant i’m herbyn: dy was dithau a fyfyriai yn dy ddeddfau. A’th dystiolaethau oeddynt fy hyfrydwch a’m cynghorwyr. Glynodd fy enaid wrth y llwch: bywha fi yn ôl dy air. Fy ffyrdd a fynegais, a gwrandewaist fi: dysg i mi dy ddeddfau. Gwna i mi ddeall ffordd dy orchmynion; a mi a fyfyriaf yn dy ryfeddodau. Diferodd fy enaid gan ofid: nertha fi yn ôl dy air. Cymer oddi wrthyf ffordd y celwydd; ac yn raslon dod i mi dy gyfraith. Dewisais ffordd gwirionedd: gosodais dy farnedigaethau o’m blaen. Glynais wrth dy dystiolaethau: O ARGLWYDD, na’m gwaradwydda. Ffordd dy orchmynion a redaf, pan ehangech fy nghalon. Dysg i mi, O ARGLWYDD, ffordd dy ddeddfau, a chadwaf hi hyd y diwedd. Gwna i mi ddeall, a chadwaf dy gyfraith; ie, cadwaf hi â’m holl galon. Gwna i mi gerdded yn llwybr dy orchmynion: canys ynddo y mae fy ewyllys. Gostwng fy nghalon at dy dystiolaethau, ac nid at gybydd-dra. Tro heibio fy llygaid, rhag edrych ar wagedd; a bywha fi yn dy ffyrdd. Sicrha dy air i’th was, yr hwn sydd yn ymroddi i’th ofn di. Tro heibio fy ngwaradwydd yr wyf yn ei ofni: canys dy farnedigaethau sydd dda. Wele, awyddus ydwyf i’th orchmynion: gwna i mi fyw yn dy gyfiawnder.