Mae’r rhai sy’n byw yn iawn, ac yn gwneud beth mae cyfraith yr ARGLWYDD yn ei ddweud wedi’u bendithio’n fawr! Mae’r rhai sy’n gwneud beth mae’n ddweud, ac yn rhoi eu hunain yn llwyr iddo wedi’u bendithio’n fawr! Dŷn nhw’n gwneud dim drwg, ond yn ymddwyn fel mae e eisiau. Ti wedi gorchymyn fod dy ofynion i gael eu cadw’n ofalus. O na fyddwn i bob amser yn ymddwyn fel mae dy ddeddfau di’n dweud! Wedyn fyddwn i ddim yn teimlo cywilydd wrth feddwl am dy orchmynion di. Dw i’n diolch i ti o waelod calon wrth ddysgu mor deg ydy dy reolau. Dw i’n mynd i gadw dy ddeddfau; felly paid troi cefn arna i’n llwyr! Sut mae llanc ifanc i ddal ati i fyw bywyd glân? – drwy wneud fel rwyt ti’n dweud. Dw i wedi rhoi fy hun yn llwyr i ti; paid gadael i mi grwydro oddi wrth dy orchmynion di. Dw i’n trysori dy neges di yn fy nghalon, er mwyn peidio pechu yn dy erbyn. Rwyt ti’n fendigedig, O ARGLWYDD! Dysga dy ddeddfau i mi. Dw i’n ailadrodd yn uchel y rheolau rwyt ti wedi’u rhoi. Mae byw fel rwyt ti’n dweud yn rhoi mwy o lawenydd na’r cyfoeth mwya. Dw i am fyfyrio ar dy ofynion, a chadw fy llygaid ar dy ffyrdd. Mae dy ddeddfau di’n rhoi’r pleser mwya i mi! Dw i ddim am anghofio beth rwyt ti’n ddweud. Helpa dy was! Cadw fi’n fyw i mi allu gwneud beth ti’n ei ddweud. Agor fy llygaid, i mi allu deall y pethau rhyfeddol rwyt ti’n eu dysgu. Dw i ddim ond ar y ddaear yma dros dro. Paid cuddio dy orchmynion oddi wrtho i. Dw i’n ysu am gael gwybod beth ydy dy ddyfarniad di. Rwyt ti’n ceryddu pobl falch, ac yn melltithio’r rhai sy’n crwydro oddi wrth dy orchmynion di. Wnei di symud yr holl wawdio a’r cam-drin i ffwrdd? Dw i’n cadw dy reolau di. Er bod arweinwyr yn cynllwynio yn fy erbyn i, mae dy was yn astudio dy ddeddfau. Mae dy ofynion di’n hyfrydwch pur i mi, ac yn rhoi arweiniad cyson i mi. Dw i’n methu codi o’r llwch! Adfywia fi fel rwyt wedi addo! Dyma fi’n dweud beth oedd yn digwydd, a dyma ti’n ateb. Dysga dy ddeddfau i mi. Gad i mi ddeall sut mae byw yn ffyddlon i dy ofynion, a bydda i’n myfyrio ar y pethau rhyfeddol rwyt ti’n eu gwneud. Mae tristwch yn fy lladd i! Cod fi ar fy nhraed fel gwnest ti addo! Symud unrhyw dwyll sydd ynof fi; a rho dy ddysgeidiaeth i mi. Dw i wedi dewis byw’n ffyddlon i ti, a chadw fy llygaid ar dy reolau di. Dw i’n dal gafael yn dy orchmynion; ARGLWYDD, paid siomi fi! Dw i wir eisiau byw’n ffyddlon i dy orchmynion; helpa fi i weld y darlun mawr. O ARGLWYDD, dysga fi i fyw fel mae dy gyfraith di’n dweud; a’i dilyn i’r diwedd. Helpa fi i ddeall, a bydda i’n cadw dy ddysgeidiaeth di; bydda i’n ymroi i wneud popeth mae’n ei ofyn. Arwain fi i ddilyn llwybr dy orchmynion; dyna dw i eisiau’i wneud. Gwna fi’n awyddus i gadw dy amodau di yn lle bod eisiau llwyddo’n faterol. Cadw fi rhag edrych ar bethau diwerth! Gad i mi brofi bywyd wrth ddilyn dy ffyrdd di! Gwna beth wnest ti ei addo i dy was, i ennyn parch ac addoliad ynof fi. Cymer yr holl wawdio ofnadwy i ffwrdd, Mae dy ddedfryd di bob amser yn iawn. Dw i’n dyheu am wneud beth rwyt ti’n ei ofyn; rho fywyd newydd i mi drwy dy ffyddlondeb.
Darllen Salm 119
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Salm 119:1-40
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos