Gwyn fyd y rhai perffaith eu ffordd, y rhai a rodiant yng nghyfraith yr ARGLWYDD.
Gwyn fyd y rhai a gadwant ei dystiolaethau ef; ac a’i ceisiant ef â’u holl galon.
Y rhai hefyd ni wnânt anwiredd, hwy a rodiant yn ei ffyrdd ef.
Ti a orchmynnaist gadw dy orchmynion yn ddyfal.
O am gyfeirio fy ffyrdd i gadw dy ddeddfau!
Yna ni’m gwaradwyddid, pan edrychwn ar dy holl orchmynion.
Clodforaf di ag uniondeb calon, pan ddysgwyf farnedigaethau dy gyfiawnder.
Cadwaf dy ddeddfau; O na ad fi yn hollol.
Pa fodd y glanha llanc ei lwybr? wrth ymgadw yn ôl dy air di.
A’m holl galon y’th geisiais: na ad i mi gyfeiliorni oddi wrth dy orchmynion.
Cuddiais dy ymadroddion yn fy nghalon, fel na phechwn i’th erbyn.
Ti, ARGLWYDD, wyt fendigedig: dysg i mi dy ddeddfau.
A’m gwefusau y traethais holl farnedigaethau dy enau.
Bu mor llawen gennyf ffordd dy dystiolaethau, â’r holl olud.
Yn dy orchmynion y myfyriaf, ac ar dy lwybrau yr edrychaf.
Yn dy ddeddfau yr ymddigrifaf: nid anghofiaf dy air.
Bydd dda wrth dy was, fel y byddwyf byw, ac y cadwyf dy air.
Datguddia fy llygaid, fel y gwelwyf bethau rhyfedd allan o’th gyfraith di.
Dieithr ydwyf fi ar y ddaear: na chudd di rhagof dy orchmynion.
Drylliwyd fy enaid gan awydd i’th farnedigaethau bob amser.
Ceryddaist y beilchion melltigedig, y rhai a gyfeiliornant oddi wrth dy orchmynion.
Tro oddi wrthyf gywilydd a dirmyg: oblegid dy dystiolaethau di a gedwais.
Tywysogion hefyd a eisteddasant, ac a ddywedasant i’m herbyn: dy was dithau a fyfyriai yn dy ddeddfau.
A’th dystiolaethau oeddynt fy hyfrydwch a’m cynghorwyr.
Glynodd fy enaid wrth y llwch: bywha fi yn ôl dy air.
Fy ffyrdd a fynegais, a gwrandewaist fi: dysg i mi dy ddeddfau.
Gwna i mi ddeall ffordd dy orchmynion; a mi a fyfyriaf yn dy ryfeddodau.
Diferodd fy enaid gan ofid: nertha fi yn ôl dy air.
Cymer oddi wrthyf ffordd y celwydd; ac yn raslon dod i mi dy gyfraith.
Dewisais ffordd gwirionedd: gosodais dy farnedigaethau o’m blaen.
Glynais wrth dy dystiolaethau: O ARGLWYDD, na’m gwaradwydda.
Ffordd dy orchmynion a redaf, pan ehangech fy nghalon.
Dysg i mi, O ARGLWYDD, ffordd dy ddeddfau, a chadwaf hi hyd y diwedd.
Gwna i mi ddeall, a chadwaf dy gyfraith; ie, cadwaf hi â’m holl galon.
Gwna i mi gerdded yn llwybr dy orchmynion: canys ynddo y mae fy ewyllys.
Gostwng fy nghalon at dy dystiolaethau, ac nid at gybydd-dra.
Tro heibio fy llygaid, rhag edrych ar wagedd; a bywha fi yn dy ffyrdd.
Sicrha dy air i’th was, yr hwn sydd yn ymroddi i’th ofn di.
Tro heibio fy ngwaradwydd yr wyf yn ei ofni: canys dy farnedigaethau sydd dda.
Wele, awyddus ydwyf i’th orchmynion: gwna i mi fyw yn dy gyfiawnder.