Salm 104:14-27
Salm 104:14-27 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Ti sy’n rhoi glaswellt i’r gwartheg, planhigion i bobl eu tyfu iddyn nhw gael bwyd o’r tir – gwin i godi calon, olew i roi sglein ar eu hwynebau, a bara i’w cadw nhw’n fyw. Mae’r coed anferth yn cael digon i’w yfed – y cedrwydd blannodd yr ARGLWYDD yn Libanus lle mae’r adar yn nythu, a’r coed pinwydd ble mae’r storc yn cartrefu. Mae’r mynyddoedd uchel yn gynefin i’r geifr gwyllt, a’r clogwyni yn lloches i’r brochod. Ti wnaeth y lleuad i nodi’r tymhorau, a’r haul, sy’n gwybod pryd i fachlud. Ti sy’n dod â’r tywyllwch iddi nosi, pan mae anifeiliaid y goedwig yn dod allan. Mae’r llewod yn rhuo am ysglyfaeth ac yn gofyn i Dduw am eu bwyd. Wedyn, pan mae’r haul yn codi, maen nhw’n mynd i’w ffeuau i orffwys. A dyna pryd mae pobl yn deffro, a mynd allan i weithio nes iddi nosi. O ARGLWYDD, rwyt wedi creu cymaint o wahanol bethau! Rwyt wedi gwneud y cwbl mor ddoeth. Mae’r ddaear yn llawn o dy greaduriaid di! Draw acw mae’r môr mawr sy’n lledu i bob cyfeiriad, a phethau byw na ellid byth eu cyfri ynddo – creaduriaid bach a mawr. Mae’r llongau’n teithio arno, a’r morfil a greaist i chwarae ynddo. Maen nhw i gyd yn dibynnu arnat ti i roi bwyd iddyn nhw pan mae ei angen.
Salm 104:14-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr wyt yn gwneud i'r gwellt dyfu i'r gwartheg, a phlanhigion at wasanaeth pobl, i ddwyn allan fwyd o'r ddaear, a gwin i lonni calonnau pobl, olew i ddisgleirio'u hwynebau, a bara i gynnal eu calonnau. Digonir y coedydd cryfion, y cedrwydd Lebanon a blannwyd, lle mae'r adar yn nythu, a'r ciconia yn cartrefu yn eu brigau. Y mae'r mynyddoedd uchel ar gyfer geifr, ac y mae'r clogwyni yn lloches i'r brochod. Yr wyt yn gwneud i'r lleuad nodi'r tymhorau, ac i'r haul wybod pryd i fachlud. Trefnaist dywyllwch, fel bod nos, a holl anifeiliaid y goedwig yn ymlusgo allan, gyda'r llewod ifanc yn rhuo am ysglyfaeth, ac yn ceisio eu bwyd oddi wrth Dduw. Ond pan gyfyd yr haul, y maent yn mynd ymaith, ac yn gorffwyso yn eu ffeuau. A daw pobl allan i weithio, ac at eu llafur hyd yr hwyrnos. Mor niferus yw dy weithredoedd, O ARGLWYDD! Gwnaethost y cyfan mewn doethineb; y mae'r ddaear yn llawn o'th greaduriaid. Dyma'r môr mawr a llydan, gydag ymlusgiaid dirifedi a chreaduriaid bach a mawr. Arno y mae'r llongau yn tramwyo, a Lefiathan, a greaist i chwarae ynddo. Y mae'r cyfan ohonynt yn dibynnu arnat ti i roi iddynt eu bwyd yn ei bryd.
Salm 104:14-27 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y mae yn peri i’r gwellt dyfu i’r anifeiliaid, a llysiau i wasanaeth dyn: fel y dyco fara allan o’r ddaear; A gwin, yr hwn a lawenycha galon dyn; ac olew, i beri i’w wyneb ddisgleirio: a bara, yr hwn a gynnal galon dyn. Prennau yr ARGLWYDD sydd lawn sugn: cedrwydd Libanus, y rhai a blannodd efe; Lle y nytha yr adar: y ffynidwydd yw tŷ y ciconia. Y mynyddoedd uchel sydd noddfa i’r geifr; a’r creigiau i’r cwningod. Efe a wnaeth y lleuad i amserau nodedig: yr haul a edwyn ei fachludiad. Gwnei dywyllwch, a nos fydd: ynddi yr ymlusga pob bwystfil coed. Y cenawon llewod a ruant am ysglyfaeth, ac a geisiant eu bwyd gan DDUW. Pan godo haul, ymgasglant, a gorweddant yn eu llochesau. Dyn a â allan i’w waith, ac i’w orchwyl hyd yr hwyr. Mor lluosog yw dy weithredoedd, O ARGLWYDD! gwnaethost hwynt oll mewn doethineb: llawn yw y ddaear o’th gyfoeth. Felly y mae y môr mawr, llydan: yno y mae ymlusgiaid heb rifedi, bwystfilod bychain a mawrion. Yno yr â y llongau: yno y mae y lefiathan, yr hwn a luniaist i chwarae ynddo. Y rhai hyn oll a ddisgwyliant wrthyt; am roddi iddynt eu bwyd yn ei bryd.