Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 104

104
SALM 104
1Fy enaid, bendithia yr Arglwydd. O Arglwydd fy Nuw, tra mawr ydwyt; gwisgaist ogoniant a harddwch.
2Yr hwn wyt yn gwisgo goleuni fel dilledyn: ac yn taenu y nefoedd fel llen.
3Yr hwn sydd yn gosod tulathau ei ystafelloedd yn y dyfroedd; yn gwneuthur y cymylau yn gerbyd iddo; ac yn rhodio ar adenydd y gwynt.
4Yr hwn sydd yn gwneuthur ei genhadon yn ysbrydion; a’i weinidogion yn dân fflamllyd.
5Yr hwn a seiliodd y ddaear ar ei sylfeini, fel na symudo byth yn dragywydd.
6Toaist hi â’r gorddyfnder, megis â gwisg: y dyfroedd a safent goruwch y mynyddoedd.
7Gan dy gerydd di y ffoesant: rhag sŵn dy daran y prysurasant ymaith.
8Gan y mynyddoedd yr ymgodant: ar hyd y dyffrynnoedd y disgynnant, i’r lle a seiliaist iddynt.
9Gosodaist derfyn, fel nad elont drosodd; fel na ddychwelont i orchuddio y ddaear.
10Yr hwn a yrr y ffynhonnau i’r dyffrynnoedd, y rhai a gerddant rhwng y bryniau.
11Diodant holl fwystfilod y maes: yr asynnod gwylltion a dorrant eu syched.
12Adar y nefoedd a drigant gerllaw iddynt, y rhai a leisiant oddi rhwng y cangau.
13Y mae efe yn dyfrhau y bryniau o’i ystafelloedd: y ddaear a ddigonir o ffrwyth dy weithredoedd.
14Y mae yn peri i’r gwellt dyfu i’r anifeiliaid, a llysiau i wasanaeth dyn: fel y dyco fara allan o’r ddaear;
15A gwin, yr hwn a lawenycha galon dyn; ac olew, i beri i’w wyneb ddisgleirio: a bara, yr hwn a gynnal galon dyn.
16Prennau yr Arglwydd sydd lawn sugn: cedrwydd Libanus, y rhai a blannodd efe;
17Lle y nytha yr adar: y ffynidwydd yw tŷ y ciconia.
18Y mynyddoedd uchel sydd noddfa i’r geifr; a’r creigiau i’r cwningod.
19Efe a wnaeth y lleuad i amserau nodedig: yr haul a edwyn ei fachludiad.
20Gwnei dywyllwch, a nos fydd: ynddi yr ymlusga pob bwystfil coed.
21Y cenawon llewod a ruant am ysglyfaeth, ac a geisiant eu bwyd gan Dduw.
22Pan godo haul, ymgasglant, a gorweddant yn eu llochesau.
23Dyn a â allan i’w waith, ac i’w orchwyl hyd yr hwyr.
24Mor lluosog yw dy weithredoedd, O Arglwydd! gwnaethost hwynt oll mewn doethineb: llawn yw y ddaear o’th gyfoeth.
25Felly y mae y môr mawr, llydan: yno y mae ymlusgiaid heb rifedi, bwystfilod bychain a mawrion.
26Yno yr â y llongau: yno y mae y lefiathan, yr hwn a luniaist i chwarae ynddo.
27Y rhai hyn oll a ddisgwyliant wrthyt; am roddi iddynt eu bwyd yn ei bryd.
28A roddech iddynt, a gasglant: agori dy law, a diwellir hwynt â daioni.
29Ti a guddi dy wyneb, hwythau a drallodir: dygi ymaith eu hanadl, a threngant, a dychwelant i’w llwch.
30Pan ollyngych dy ysbryd, y crëir hwynt; ac yr adnewyddi wyneb y ddaear.
31Gogoniant yr Arglwydd fydd yn dragywydd: yr Arglwydd a lawenycha yn ei weithredoedd.
32Efe a edrych ar y ddaear, a hi a gryna: efe a gyffwrdd â’r mynyddoedd, a hwy a fygant.
33Canaf i’r Arglwydd tra fyddwyf fyw: canaf i’m Duw tra fyddwyf.
34Bydd melys fy myfyrdod amdano: mi a lawenychaf yn yr Arglwydd.
35Darfydded y pechaduriaid o’r tir, na fydded yr annuwiolion mwy. Fy enaid, bendithia di yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd.

Dewis Presennol:

Y Salmau 104: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda