Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 8:1-36

Diarhebion 8:1-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Onid yw doethineb yn galw, a deall yn codi ei lais? Y mae'n sefyll ar y mannau uchel ar fin y ffordd, ac yn ymyl y croesffyrdd; Y mae'n galw gerllaw'r pyrth sy'n arwain i'r dref, wrth y fynedfa at y pyrth: “Arnoch chwi, bobl, yr wyf yn galw, ac atoch chwi, ddynolryw, y daw fy llais. Chwi, y rhai gwirion, dysgwch graffter, a chwithau, ffyliaid, ceisiwch synnwyr. Gwrandewch, oherwydd traethaf bethau gwerthfawr, a daw geiriau gonest o'm genau. Traetha fy nhafod y gwir, ac y mae anwiredd yn ffiaidd gan fy ngenau. Y mae fy holl eiriau yn gywir; nid yw'r un ohonynt yn ŵyr na thraws. Y mae'r cyfan yn eglur i'r deallus, ac yn uniawn i'r un sy'n ceisio gwybodaeth. Derbyniwch fy nghyfarwyddyd yn hytrach nag arian, oherwydd gwell yw nag aur. Yn wir, y mae doethineb yn well na gemau, ac ni all yr holl bethau dymunol gystadlu â hi. Yr wyf fi, doethineb, yn byw gyda chraffter, ac wedi cael gwybodaeth a synnwyr. Ofn yr ARGLWYDD yw casáu drygioni; yr wyf yn ffieiddio balchder ac uchelgais, ffordd drygioni a geiriau traws. Fy eiddo i yw cyngor a chraffter, a chennyf fi y mae deall a gallu. Trwof fi y teyrnasa brenhinoedd, ac y llunia llywodraethwyr ddeddfau cyfiawn. Trwof fi y caiff tywysogion awdurdod, ac y barna penaethiaid yn gyfiawn. Yr wyf yn caru pob un sy'n fy ngharu i, ac y mae'r rhai sy'n fy ngheisio'n ddyfal yn fy nghael. Gennyf fi y mae cyfoeth ac anrhydedd, digonedd o olud a chyfiawnder. Y mae fy ffrwythau'n well nag aur, aur coeth, a'm cynnyrch yn well nag arian pur. Rhodiaf ar hyd ffordd cyfiawnder, ar ganol llwybrau barn, a rhoddaf gyfoeth i'r rhai a'm câr, a llenwi eu trysordai. “Lluniodd yr ARGLWYDD fi ar ddechrau ei waith, yn gyntaf o'i weithredoedd gynt. Fe'm sefydlwyd yn y gorffennol pell, yn y dechrau, cyn bod daear. Ganwyd fi cyn bod dyfnderau, cyn bod ffynhonnau yn llawn dŵr. Cyn gosod sylfeini'r mynyddoedd, cyn bod y bryniau, y ganwyd fi, cyn iddo greu tir a meysydd, ac o flaen pridd y ddaear. Yr oeddwn i yno pan oedd yn gosod y nefoedd yn ei lle ac yn rhoi cylch dros y dyfnder, pan oedd yn cadarnhau'r cymylau uwchben ac yn sicrhau ffynhonnau'r dyfnder, pan oedd yn gosod terfyn i'r môr, rhag i'r dyfroedd anufuddhau i'w air, a phan oedd yn cynllunio sylfeini'r ddaear. Yr oeddwn i wrth ei ochr yn gyson, yn hyfrydwch iddo beunydd, yn ddifyrrwch o'i flaen yn wastad, yn ymddifyrru yn y byd a greodd, ac yn ymhyfrydu mewn pobl. “Yn awr, blant, gwrandewch arnaf; gwyn eu byd y rhai sy'n cadw fy ffyrdd. Gwrandewch ar gyfarwyddyd, a byddwch ddoeth; peidiwch â'i anwybyddu. Gwyn ei fyd y sawl sy'n gwrando arnaf, sy'n disgwyl yn wastad wrth fy nrws, ac yn gwylio wrth fynedfa fy nhŷ. Yn wir, y mae'r un sy'n fy nghael i yn cael bywyd, ac yn ennill ffafr yr ARGLWYDD; ond y mae'r un sy'n methu fy nghael yn ei ddinistrio'i hun, a phawb sy'n fy nghasáu yn caru marwolaeth.”

Diarhebion 8:1-36 beibl.net 2015, 2023 (BNET)

Mae doethineb yn galw, a deall yn codi ei lais. Mae hi’n sefyll ar fannau uchaf y dref, wrth ymyl y croesffyrdd, ac wrth ymyl giatiau’r ddinas. Mae hi’n gweiddi wrth y fynedfa, “Dw i’n galw arnoch chi i gyd, bobl! Dw i’n galw ar y ddynoliaeth gyfan. Chi rai gwirion, dysgwch sut mae bod yn gall; chi bobl ddwl, dysgwch chithau rywbeth. Gwrandwch, achos mae gen i bethau gwych i’w dweud; dw i am ddweud beth sy’n iawn wrthoch chi. Dw i bob amser yn dweud y gwir; mae’n gas gen i gelwydd. Mae pob gair dw i’n ei ddweud yn iawn, does dim twyll, dim celwydd. Mae’r peth yn amlwg i unrhyw un sy’n gall, ac mae unrhyw un craff yn gweld eu bod yn iawn. Cymer beth dw i’n ei ddysgu, mae’n well nag arian; ac mae’r arweiniad dw i’n ei roi yn well na’r aur gorau.” Ydy, mae doethineb yn well na gemau gwerthfawr; does dim byd tebyg iddi. “Dw i, Doethineb, yn byw gyda callineb; fi sy’n dangos y ffordd iawn i bobl. Mae parchu’r ARGLWYDD yn golygu casáu’r drwg. Dw i’n casáu balchder snobyddlyd, pob ymddygiad drwg a thwyll. Fi sy’n rhoi cyngor doeth, fi ydy’r ffordd orau a fi sy’n rhoi cryfder. Fi sy’n rhoi’r gallu i frenhinoedd deyrnasu, ac i lywodraethwyr lunio cyfreithiau cyfiawn. Dw i’n galluogi arweinwyr i reoli, a phobl fawr a barnwyr i wneud y peth iawn. Dw i’n caru’r rhai sy’n fy ngharu i, ac mae’r rhai sy’n chwilio amdana i yn fy nghael. Dw i’n rhoi cyfoeth ac anrhydedd i bobl, cyfoeth sy’n para, a thegwch. Mae fy ffrwyth i’n well nag aur, ie, aur coeth, a’r cynnyrch sydd gen i yn well na’r arian gorau. Dw i’n dangos y ffordd i fyw’n gyfiawn, a gwneud beth sy’n iawn ac yn deg. Dw i’n rhoi etifeddiaeth gyfoethog i’r rhai sy’n fy ngharu, ac yn llenwi eu trysordai nhw. Roedd yr ARGLWYDD wedi fy ngeni i cyn iddo wneud dim byd arall. Ces fy apwyntio yn bell, bell yn ôl, ar y dechrau cyntaf, cyn i’r ddaear fodoli. Doedd y moroedd ddim yno pan gyrhaeddais i, a doedd dim ffynhonnau yn llawn dŵr. Doedd y mynyddoedd ddim wedi’u gosod yn eu lle, a doedd y bryniau ddim yn bodoli. Doedd y ddaear a chefn gwlad ddim yna, na hyd yn oed y talpiau cyntaf o bridd. Rôn i yno pan roddodd Duw y bydysawd yn ei le, a phan farciodd y gorwel ar wyneb y moroedd; pan roddodd y cymylau yn yr awyr, a phan wnaeth i’r ffynhonnau ddechrau tasgu dŵr; pan osododd ffiniau i’r môr, fel bod y dŵr ddim yn anufudd iddo; a phan osododd sylfeini’r ddaear. Rôn i yno fel crefftwr, yn rhoi pleser pur iddo bob dydd wrth ddawnsio a dathlu’n ddi-stop o’i flaen. Rôn i’n dawnsio ar wyneb y ddaear, ac roedd y ddynoliaeth yn rhoi pleser pur i mi. Nawr, blant, gwrandwch arna i; mae’r rhai sy’n gwneud beth dw i’n ddweud mor hapus. Gwrandwch ar beth dw i’n ddweud a byddwch ddoeth; peidiwch troi cefn arno. Mae’r rhai sy’n gwrando arna i yn derbyn y fath fendith, maen nhw’n gwylio amdana i wrth y drws bob dydd, yn disgwyl i mi ddod allan. Mae’r rhai sy’n chwilio amdana i yn cael bywyd; mae’r ARGLWYDD yn dda atyn nhw. Ond mae’r rhai sy’n pasio heibio i mi yn peryglu eu hunain; mae pawb sy’n fy nghasáu i yn caru marwolaeth.”

Diarhebion 8:1-36 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Onid yw doethineb yn gweiddi? a deall yn llefain? Ym mhen lleoedd uchel, gerllaw y ffordd, lle mae llwybrau lawer, y mae hi yn sefyll. Gerllaw y pyrth, ym mhen y dref, yn ymyl y drysau, y mae hi yn llefain: Arnoch chwi, wŷr, yr wyf fi yn galw; ac at feibion dynion y mae fy llais. Ha ynfydion, deellwch gyfrwyster; a chwi wŷr angall, byddwch o galon ddeallus. Gwrandewch: canys myfi a draethaf i chwi bethau ardderchog; ac a agoraf fy ngwefusau ar bethau uniawn. Canys fy ngenau a draetha wirionedd; a ffiaidd gan fy ngwefusau ddrygioni. Holl eiriau fy ngenau ydynt gyfiawn; nid oes ynddynt na gŵyrni na thrawsedd. Y maent hwy oll yn amlwg i’r neb a ddeallo, ac yn uniawn i’r rhai a gafodd wybodaeth. Derbyniwch fy addysg, ac nid arian; a gwybodaeth o flaen aur etholedig. Canys gwell yw doethineb na gemau: nid oes dim dymunol cyffelyb iddi. Myfi doethineb wyf yn trigo gyda challineb: yr ydwyf yn cael allan wybodaeth cyngor. Ofn yr ARGLWYDD yw casáu drygioni: balchder, ac uchder, a ffordd ddrygionus, a’r genau traws, sydd gas gennyf fi. Mi biau cyngor, a gwir ddoethineb: deall ydwyf fi; mi biau nerth. Trwof fi y teyrnasa brenhinoedd, ac y barna’r penaethiaid gyfiawnder. Trwof fi y rheola tywysogion a phendefigion, sef holl farnwyr y ddaear. Y sawl a’m carant i, a garaf finnau; a’r sawl a’m ceisiant yn fore, a’m cânt. Gyda myfi y mae cyfoeth, ac anrhydedd, golud parhaus, a chyfiawnder. Gwell yw fy ffrwyth i nag aur, ie, nag aur coeth; a’m cynnyrch sydd well na’r arian detholedig. Ar hyd ffordd cyfiawnder yr arweiniaf, ar hyd canol llwybrau barn: I beri i’r rhai a’m carant etifeddu sylwedd: a mi a lanwaf eu trysorau. Yr ARGLWYDD a’m meddiannodd i yn nechreuad ei ffordd, cyn ei weithredoedd erioed. Er tragwyddoldeb y’m heneiniwyd, er y dechreuad, cyn bod y ddaear. Pryd nad oedd dyfnder y’m cenhedlwyd, cyn bod ffynhonnau yn llawn o ddyfroedd. Cyn sylfaenu y mynyddoedd, o flaen y bryniau y’m cenhedlwyd: Cyn gwneuthur ohono ef y ddaear, na’r meysydd, nac uchder llwch y byd. Pan baratôdd efe y nefoedd, yr oeddwn i yno: pan osododd efe gylch ar wyneb y dyfnder: Pan gadarnhaodd efe y cymylau uwchben: a phan nerthodd efe ffynhonnau y dyfnder: Pan roddes efe ei ddeddf i’r môr, ac i’r dyfroedd, na thorrent ei orchymyn ef: pan osododd efe sylfeini y ddaear: Yna yr oeddwn i gydag ef megis un wedi ei feithrin gydag ef: ac yr oeddwn yn hyfrydwch iddo beunydd, yn ymlawenhau ger ei fron ef bob amser; Ac yn llawenychu yng nghyfanheddle ei ddaear ef; a’m hyfrydwch oedd gyda meibion dynion. Yr awron gan hynny, O feibion, gwrandewch arnaf; canys gwyn eu byd a gadwant fy ffyrdd i. Gwrandewch addysg, a byddwch ddoethion; nac ymwrthodwch â hi. Gwyn ei fyd y dyn a wrandawo arnaf, ac a wylio yn ddyfal beunydd wrth fy nrysau, gan warchod wrth byst fy mhyrth i. Canys y neb a’m caffo i, a gaiff fywyd, ac a feddianna ewyllys da gan yr ARGLWYDD. Ond y neb a becho yn fy erbyn, a wna gam â’i enaid ei hun: fy holl gaseion a garant angau.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd