Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 8

8
1Onid yw doethineb yn gweiddi? a deall yn llefain? 2Ym mhen lleoedd uchel, gerllaw y ffordd, lle mae llwybrau lawer, y mae hi yn sefyll. 3Gerllaw y pyrth, ym mhen y dref, yn ymyl y drysau, y mae hi yn llefain: 4Arnoch chwi, wŷr, yr wyf fi yn galw; ac at feibion dynion y mae fy llais. 5Ha ynfydion, deellwch gyfrwyster; a chwi wŷr angall, byddwch o galon ddeallus. 6Gwrandewch: canys myfi a draethaf i chwi bethau ardderchog; ac a agoraf fy ngwefusau ar bethau uniawn. 7Canys fy ngenau a draetha wirionedd; a ffiaidd gan fy ngwefusau ddrygioni. 8Holl eiriau fy ngenau ydynt gyfiawn; nid oes ynddynt na gŵyrni na thrawsedd. 9Y maent hwy oll yn amlwg i’r neb a ddeallo, ac yn uniawn i’r rhai a gafodd wybodaeth. 10Derbyniwch fy addysg, ac nid arian; a gwybodaeth o flaen aur etholedig. 11Canys gwell yw doethineb na gemau: nid oes dim dymunol cyffelyb iddi. 12Myfi doethineb wyf yn trigo gyda challineb: yr ydwyf yn cael allan wybodaeth cyngor. 13Ofn yr Arglwydd yw casáu drygioni: balchder, ac uchder, a ffordd ddrygionus, a’r genau traws, sydd gas gennyf fi. 14Mi biau cyngor, a gwir ddoethineb: deall ydwyf fi; mi biau nerth. 15Trwof fi y teyrnasa brenhinoedd, ac y barna’r penaethiaid gyfiawnder. 16Trwof fi y rheola tywysogion a phendefigion, sef holl farnwyr y ddaear. 17Y sawl a’m carant i, a garaf finnau; a’r sawl a’m ceisiant yn fore, a’m cânt. 18Gyda myfi y mae cyfoeth, ac anrhydedd, golud parhaus, a chyfiawnder. 19Gwell yw fy ffrwyth i nag aur, ie, nag aur coeth; a’m cynnyrch sydd well na’r arian detholedig. 20Ar hyd ffordd cyfiawnder yr arweiniaf, ar hyd canol llwybrau barn: 21I beri i’r rhai a’m carant etifeddu sylwedd: a mi a lanwaf eu trysorau. 22Yr Arglwydd a’m meddiannodd i yn nechreuad ei ffordd, cyn ei weithredoedd erioed. 23Er tragwyddoldeb y’m heneiniwyd, er y dechreuad, cyn bod y ddaear. 24Pryd nad oedd dyfnder y’m cenhedlwyd, cyn bod ffynhonnau yn llawn o ddyfroedd. 25Cyn sylfaenu y mynyddoedd, o flaen y bryniau y’m cenhedlwyd: 26Cyn gwneuthur ohono ef y ddaear, na’r meysydd, nac uchder llwch y byd. 27Pan baratôdd efe y nefoedd, yr oeddwn i yno: pan osododd efe gylch ar wyneb y dyfnder: 28Pan gadarnhaodd efe y cymylau uwchben: a phan nerthodd efe ffynhonnau y dyfnder: 29Pan roddes efe ei ddeddf i’r môr, ac i’r dyfroedd, na thorrent ei orchymyn ef: pan osododd efe sylfeini y ddaear: 30Yna yr oeddwn i gydag ef megis un wedi ei feithrin gydag ef: ac yr oeddwn yn hyfrydwch iddo beunydd, yn ymlawenhau ger ei fron ef bob amser; 31Ac yn llawenychu yng nghyfanheddle ei ddaear ef; a’m hyfrydwch oedd gyda meibion dynion. 32Yr awron gan hynny, O feibion, gwrandewch arnaf; canys gwyn eu byd a gadwant fy ffyrdd i. 33Gwrandewch addysg, a byddwch ddoethion; nac ymwrthodwch â hi. 34Gwyn ei fyd y dyn a wrandawo arnaf, ac a wylio yn ddyfal beunydd wrth fy nrysau, gan warchod wrth byst fy mhyrth i. 35Canys y neb a’m caffo i, a gaiff fywyd, ac a feddianna ewyllys da gan yr Arglwydd. 36Ond y neb a becho yn fy erbyn, a wna gam â’i enaid ei hun: fy holl gaseion a garant angau.

Dewis Presennol:

Diarhebion 8: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd