Diarhebion 6:9-11
Diarhebion 6:9-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Pa hyd, ddiogyn, y gorweddi? pa bryd y cyfodi o’th gwsg? Eto ychydig gysgu, ychydig hepian, ychydig blethu dwylo i gysgu. Felly y daw tlodi arnat fel ymdeithydd, a’th angen fel gŵr arfog.
Rhanna
Darllen Diarhebion 6Diarhebion 6:9-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Am faint wyt ti’n mynd i orweddian yn dy wely, y diogyn? Pryd wyt ti’n mynd i ddeffro a gwneud rhywbeth? “Ychydig bach mwy o gwsg, pum munud arall! Swatio’n gyfforddus yn y gwely am ychydig.” Ond bydd tlodi yn dy daro di fel lleidr creulon; bydd prinder yn ymosod arnat ti fel milwr arfog!
Rhanna
Darllen Diarhebion 6