Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 6

6
Rhybuddion Pellach
1Fy mab, os rhoddaist wystl i'th gymydog,
neu fynd yn feichiau i ddieithryn,
2a chael dy rwymo gan dy eiriau dy hun,
a'th ddal gan eiriau dy enau,
3yna gweithreda fel hyn, fy mab, ac achub dy hun:
gan dy fod yn llaw dy gymydog,
dos ar frys ac ymbil â'th gymydog;
4paid â rhoi cwsg i'th lygaid
na gorffwys i'th amrannau;
5achub dy hun fel ewig o afael yr heliwr#6:5 Cymh. Groeg. Hebraeg heb yr heliwr.,
neu aderyn o law yr adarwr.
6Ti ddiogyn, dos at y morgrugyn,
a sylwa ar ei ffordd a bydd ddoeth.
7Er nad oes ganddo arweinydd
na rheolwr na llywodraethwr,
8y mae'n darparu ei gynhaliaeth yn yr haf,
yn casglu ei fwyd amser cynhaeaf.
9O ddiogyn, am ba hyd y byddi'n gorweddian?
Pa bryd y codi o'th gwsg?
10Ychydig gwsg, ychydig hepian,
ychydig blethu dwylo i orffwys,
11a daw tlodi arnat fel dieithryn creulon,
ac angen fel gŵr arfog.
12Un dieflig, un drwg,
sy'n taenu geiriau dichellgar,
13yn wincio â'i lygad, yn pwnio â'i droed,
ac yn gwneud arwyddion â'i fysedd.
14Ei fwriad yw gwyrdroi, cynllunio drwg yn wastad,
a chreu cynnen.
15Am hynny daw dinistr arno yn ddisymwth;
fe'i dryllir yn sydyn heb fodd i'w arbed.
16Chwe pheth sy'n gas gan yr ARGLWYDD,
saith peth sy'n ffiaidd ganddo:
17llygaid balch, tafod ffals,
dwylo'n tywallt gwaed dieuog,
18calon yn cynllunio oferedd,
traed yn prysuro i wneud drwg,
19gau dyst yn dweud celwydd,
ac un sy'n codi cynnen rhwng perthnasau.
Rhybudd rhag Godineb
20Fy mab, cadw orchymyn dy dad;
paid ag anwybyddu cyfarwyddyd dy fam;
21clyma hwy'n wastad yn dy galon,
rhwym hwy am dy wddf.
22Fe'th arweiniant ple bynnag yr ei,
a gwylio drosot pan orffwysi,
ac ymddiddan â thi pan gyfodi.
23Oherwydd y mae gorchymyn yn llusern, a chyfarwyddyd yn oleuni,
a cherydd disgyblaeth yn arwain i fywyd,
24ac yn dy gadw rhag gwraig cymydog
a rhag gweniaith y ddynes estron.
25Paid â chwennych ei phrydferthwch,
a phaid â gadael i'w chiledrychiad dy ddal;
26oherwydd gellir cael putain am bris torth,
ond y mae gwraig rhywun arall yn chwilio am fywyd brasach.
27A all dyn gofleidio tân yn ei fynwes
heb losgi ei ddillad?
28A all dyn gerdded ar farwor
heb losgi ei draed?
29Felly y bydd yr un sy'n mynd at wraig ei gymydog;
ni all unrhyw un gyffwrdd â hi heb gosb.
30Oni ddirmygir lleidr pan fo'n dwyn
i foddhau ei chwant, er ei fod yn newynog?
31Pan ddelir ef, rhaid iddo dalu'n ôl seithwaith,
a rhoi'r cyfan sydd ganddo.
32Felly, y mae'r godinebwr yn un disynnwyr,
ac yn ei ddifetha'i hun wrth wneud hynny;
33caiff niwed ac amarch,
ac ni ddilëir ei warth.
34Oherwydd y mae eiddigedd yn cynddeiriogi gŵr priod,
ac nid yw'n arbed pan ddaw cyfle i ddial;
35ni fyn dderbyn iawndal,
ac nis bodlonir, er cymaint a roddi.

Dewis Presennol:

Diarhebion 6: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd