Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 6

6
1Fy mab, os mechnïaist dros dy gymydog, ac os trewaist dy law yn llaw y dieithr, 2Ti a faglwyd â geiriau dy enau, ti a ddaliwyd â geiriau dy enau. 3Gwna hyn yr awr hon, fy mab, a gwared dy hun, gan i ti syrthio i law dy gymydog; cerdda, ac ymostwng iddo, ac ymbil â’th gymydog. 4Na ddyro gwsg i’th lygaid, na hun i’th amrantau. 5Gwared dy hun fel yr iwrch o law yr heliwr, ac fel aderyn o law yr adarwr.
6Cerdda at y morgrugyn, tydi ddiogyn; edrych ar ei ffyrdd ef, a bydd ddoeth: 7Nid oes ganddo neb i’w arwain, i’w lywodraethu, nac i’w feistroli; 8Ac er hynny y mae efe yn paratoi ei fwyd yr haf, ac yn casglu ei luniaeth y cynhaeaf. 9Pa hyd, ddiogyn, y gorweddi? pa bryd y cyfodi o’th gwsg? 10Eto ychydig gysgu, ychydig hepian, ychydig blethu dwylo i gysgu. 11Felly y daw tlodi arnat fel ymdeithydd, a’th angen fel gŵr arfog.
12Dyn i’r fall, a gŵr anwir, a rodia â genau cyndyn. 13Efe a amneidia â’i lygaid, efe a lefara â’i draed, efe a ddysg â’i fysedd. 14Y mae pob rhyw gyndynrwydd yn ei galon; y mae yn dychymyg drygioni bob amser, yn peri cynhennau. 15Am hynny ei ddinistr a ddaw arno yn ddisymwth: yn ddisymwth y dryllir ef, fel na byddo meddyginiaeth.
16Y chwe pheth hyn sydd gas gan yr Arglwydd: ie, saith beth sydd ffiaidd ganddo ef: 17Llygaid beilchion, tafod celwyddog, a’r dwylo a dywalltant waed gwirion, 18Y galon a ddychmygo feddyliau drwg, traed yn rhedeg yn fuan i ddrygioni, 19Tyst celwyddog yn dywedyd celwydd, a’r neb a gyfodo gynnen rhwng brodyr.
20Fy mab, cadw orchymyn dy dad, ac nac ymado â chyfraith dy fam. 21Rhwym hwynt ar dy galon yn wastadol; clwm hwynt am dy wddf. 22Pan rodiech, hi a’th gyfarwydda; pan orweddych, hi a’th wylia; pan ddeffroych, hi a gydymddiddan â thi. 23Canys cannwyll yw y gorchymyn; a goleuni yw y gyfraith; a ffordd i fywyd yw ceryddon addysg: 24I’th gadw rhag y fenyw ddrwg, a rhag gweniaith tafod y ddieithr. 25Na chwennych ei phryd hi yn dy galon; ac na ad iddi dy ddal â’i hamrantau. 26Oblegid y fenyw buteinig y daw dyn i damaid o fara; a gwraig gŵr arall a hela yr enaid gwerthfawr. 27A ddichon gŵr ddwyn tân yn ei fynwes, heb losgi ei ddillad? 28A ddichon gŵr rodio ar hyd marwor, ac heb losgi ei draed? 29Felly, pwy bynnag a êl at wraig ei gymydog; y neb a gyffyrddo â hi, ni bydd lân. 30Ni ddirmyga neb leidr a ladratao i ddiwallu ei enaid, pan fyddo arno newyn: 31Ond os delir ef, efe a dâl yn saith ddyblyg; efe a rydd gymaint oll ag a feddo yn ei dŷ. 32Ond y neb a wnêl odineb â benyw, sydd heb synnwyr; y neb a’i gwnêl, a ddifetha ei enaid ei hun. 33Archoll a gwarth a gaiff efe; a’i gywilydd ni ddileir. 34Canys cynddaredd yw eiddigedd gŵr; am hynny nid erbyd efe yn nydd dial. 35Ni bydd ganddo bris ar ddim iawn; ac ni fodlonir ef, er rhoi rhoddion lawer.

Dewis Presennol:

Diarhebion 6: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda