Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 5

5
1Fy mab, gwrando ar fy noethineb, a gostwng dy glust at fy neall: 2Fel y gellych ystyried pwyll, a’th wefusau gadw gwybodaeth.
3Canys gwefusau y ddieithr a ddiferant fel y dil mêl, a’i genau sydd lyfnach nag olew: 4Ond ei diwedd hi a fydd chwerw fel y wermod, yn llym fel cleddyf daufiniog. 5Ei thraed hi a ddisgynnant i angau; a’i cherddediad a sang uffern. 6Rhag i ti ystyrio ffordd bywyd, y symud ei chamre hi, heb wybod i ti. 7Yr awr hon gan hynny, O blant, gwrandewch arnaf fi, ac na ymadewch â geiriau fy ngenau. 8Cadw dy ffordd ymhell oddi wrthi hi, ac na nesâ at ddrws ei thŷ hi: 9Rhag i ti roddi dy harddwch i eraill, a’th flynyddoedd i’r creulon: 10Rhag llenwi yr estron â’th gyfoeth di, ac i’th lafur fod yn nhŷ y dieithr; 11Ac o’r diwedd i ti ochain, wedi i’th gnawd a’th gorff gurio, 12A dywedyd, Pa fodd y caseais i addysg! pa fodd y dirmygodd fy nghalon gerydd! 13Ac na wrandewais ar lais fy athrawon, ac na ostyngais fy nghlust i’m dysgawdwyr! 14Bûm o fewn ychydig at bob drwg, yng nghanol y gynulleidfa a’r dyrfa.
15Yf ddwfr o’th bydew dy hun, a ffrydiau allan o’th ffynnon dy hun. 16Tardded dy ffynhonnau allan, a’th ffrydiau dwfr yn yr heolydd. 17Byddant yn eiddot ti dy hun yn unig, ac nid yn eiddo dieithriaid gyda thi. 18Bydded dy ffynnon yn fendigedig: ac ymlawenha gyda gwraig dy ieuenctid. 19Bydded fel ewig gariadus, ac fel iyrches hawddgar: gad i’w bronnau hi dy lenwi bob amser, ac ymfodlona yn ei chariad hi yn wastadol. 20A phaham, fy mab, yr ymddigrifi yn y wraig ddieithr, ac y cofleidi fynwes yr hon nid yw eiddot ti? 21Canys ffyrdd dyn sydd yng ngolwg yr Arglwydd, ac y mae efe yn dal ar ei holl lwybrau ef.
22Ei anwiredd ei hun a ddeil yr annuwiol, ac efe a ddelir â rhaffau ei bechod ei hun. 23Efe a fydd farw o eisiau addysg; a rhag maint ei ffolineb yr â ar gyfeiliorn.

Dewis Presennol:

Diarhebion 5: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda