Diarhebion 6:6-8
Diarhebion 6:6-8 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Ti’r diogyn, edrych ar y morgrugyn; astudia’i ffyrdd, a dysga sut i fod yn ddoeth. Does ganddo ddim arweinydd, swyddog, na rheolwr, ac eto mae’n mynd ati i gasglu bwyd yn yr haf, a storio’r hyn sydd arno’i angen adeg y cynhaeaf.
Diarhebion 6:6-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ti ddiogyn, dos at y morgrugyn, a sylwa ar ei ffordd a bydd ddoeth. Er nad oes ganddo arweinydd na rheolwr na llywodraethwr, y mae'n darparu ei gynhaliaeth yn yr haf, yn casglu ei fwyd amser cynhaeaf.
Diarhebion 6:6-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Cerdda at y morgrugyn, tydi ddiogyn; edrych ar ei ffyrdd ef, a bydd ddoeth: Nid oes ganddo neb i’w arwain, i’w lywodraethu, nac i’w feistroli; Ac er hynny y mae efe yn paratoi ei fwyd yr haf, ac yn casglu ei luniaeth y cynhaeaf.