Diarhebion 6:12-19
Diarhebion 6:12-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Un dieflig, un drwg, sy'n taenu geiriau dichellgar, yn wincio â'i lygad, yn pwnio â'i droed, ac yn gwneud arwyddion â'i fysedd. Ei fwriad yw gwyrdroi, cynllunio drwg yn wastad, a chreu cynnen. Am hynny daw dinistr arno yn ddisymwth; fe'i dryllir yn sydyn heb fodd i'w arbed. Chwe pheth sy'n gas gan yr ARGLWYDD, saith peth sy'n ffiaidd ganddo: llygaid balch, tafod ffals, dwylo'n tywallt gwaed dieuog, calon yn cynllunio oferedd, traed yn prysuro i wneud drwg, gau dyst yn dweud celwydd, ac un sy'n codi cynnen rhwng perthnasau.
Diarhebion 6:12-19 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dydy’r un sy’n mynd o gwmpas yn twyllo yn ddim byd ond cnaf drwg! Mae’n wincio ar bobl drwy’r adeg, mae ei draed yn aflonydd, ac mae’n pwyntio bys at bawb. Ei unig fwriad ydy creu helynt! Mae wastad eisiau dechrau ffrae. Bydd trychineb annisgwyl yn ei daro! Yn sydyn bydd yn torri, a fydd dim gwella arno! Dyma chwe peth mae’r ARGLWYDD yn eu casáu; ac un arall sy’n ffiaidd ganddo: llygaid balch, tafod celwyddog, dwylo sy’n tywallt gwaed pobl ddiniwed, calon sy’n cynllwynio drwg, traed sy’n brysio i wneud drwg, tyst sy’n dweud celwydd, a rhywun sy’n dechrau ffrae mewn teulu.
Diarhebion 6:12-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Dyn i’r fall, a gŵr anwir, a rodia â genau cyndyn. Efe a amneidia â’i lygaid, efe a lefara â’i draed, efe a ddysg â’i fysedd. Y mae pob rhyw gyndynrwydd yn ei galon; y mae yn dychymyg drygioni bob amser, yn peri cynhennau. Am hynny ei ddinistr a ddaw arno yn ddisymwth: yn ddisymwth y dryllir ef, fel na byddo meddyginiaeth. Y chwe pheth hyn sydd gas gan yr ARGLWYDD: ie, saith beth sydd ffiaidd ganddo ef: Llygaid beilchion, tafod celwyddog, a’r dwylo a dywalltant waed gwirion, Y galon a ddychmygo feddyliau drwg, traed yn rhedeg yn fuan i ddrygioni, Tyst celwyddog yn dywedyd celwydd, a’r neb a gyfodo gynnen rhwng brodyr.