Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 6:1-35

Diarhebion 6:1-35 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Fy mab, dywed dy fod wedi gwarantu benthyciad rhywun, ac wedi cytuno i dalu ei ddyledion. Os wyt mewn picil, wedi dy ddal gan dy eiriau ac wedi dy rwymo gan beth ddwedaist ti, dyma ddylet ti ei wneud i ryddhau dy hun (achos rwyt ti wedi chwarae i ddwylo’r person arall): dos ato i bledio am gael dy ryddhau. Dos, a’i blagio! Paid oedi! – Dim cwsg na gorffwys nes bydd y mater wedi’i setlo. Achub dy hun, fel carw yn dianc rhag yr heliwr, neu aderyn yn dianc o law’r adarwr. Ti’r diogyn, edrych ar y morgrugyn; astudia’i ffyrdd, a dysga sut i fod yn ddoeth. Does ganddo ddim arweinydd, swyddog, na rheolwr, ac eto mae’n mynd ati i gasglu bwyd yn yr haf, a storio’r hyn sydd arno’i angen adeg y cynhaeaf. Am faint wyt ti’n mynd i orweddian yn dy wely, y diogyn? Pryd wyt ti’n mynd i ddeffro a gwneud rhywbeth? “Ychydig bach mwy o gwsg, pum munud arall! Swatio’n gyfforddus yn y gwely am ychydig.” Ond bydd tlodi yn dy daro di fel lleidr creulon; bydd prinder yn ymosod arnat ti fel milwr arfog! Dydy’r un sy’n mynd o gwmpas yn twyllo yn ddim byd ond cnaf drwg! Mae’n wincio ar bobl drwy’r adeg, mae ei draed yn aflonydd, ac mae’n pwyntio bys at bawb. Ei unig fwriad ydy creu helynt! Mae wastad eisiau dechrau ffrae. Bydd trychineb annisgwyl yn ei daro! Yn sydyn bydd yn torri, a fydd dim gwella arno! Dyma chwe peth mae’r ARGLWYDD yn eu casáu; ac un arall sy’n ffiaidd ganddo: llygaid balch, tafod celwyddog, dwylo sy’n tywallt gwaed pobl ddiniwed, calon sy’n cynllwynio drwg, traed sy’n brysio i wneud drwg, tyst sy’n dweud celwydd, a rhywun sy’n dechrau ffrae mewn teulu. Fy mab, gwna beth orchmynnodd dy dad i ti; paid troi dy gefn ar beth ddysgodd dy fam i ti. Cadw nhw ar flaen dy feddwl bob amser; gwisga nhw fel cadwyn am dy wddf. Ble bynnag fyddi di’n mynd, byddan nhw’n dy arwain di; pan fyddi’n gorwedd i orffwys, byddan nhw’n edrych ar dy ôl di; pan fyddi di’n deffro, byddan nhw’n rhoi cyngor i ti. Mae gorchymyn fel lamp, a dysgeidiaeth fel golau, ac mae cerydd a disgyblaeth yn arwain i fywyd. Bydd yn dy gadw rhag y ferch ddrwg, a rhag y wraig anfoesol. Paid gadael i’r awydd i’w chael hi afael ynot ti, na gadael iddi hi dy drapio di drwy fflyrtian â’i llygaid. Mae putain yn dy adael gyda dim ond torth o fara; ond mae gwraig dyn arall yn cymryd popeth – gall gostio dy fywyd! Ydy dyn yn gallu cario marwor poeth yn ei boced heb losgi ei ddillad? Ydy dyn yn gallu cerdded ar farwor heb losgi ei draed? Mae cysgu gyda gwraig dyn arall yr un fath; does neb sy’n gwneud hynny yn osgoi cael ei gosbi. Does neb yn dirmygu lleidr sy’n dwyn am fod eisiau bwyd arno. Ond os ydy e’n cael ei ddal, rhaid iddo dalu’n llawn; bydd yn colli popeth sydd ganddo. Does gan y rhai sy’n godinebu ddim sens o gwbl; dim ond rhywun sydd am ddinistrio’i hun sy’n gwneud peth felly. Bydd yn cael ei guro a’i gam-drin; a fydd y cywilydd byth yn ei adael. Bydd gŵr y wraig yn wyllt gynddeiriog; fydd e’n dangos dim trugaredd pan ddaw’r cyfle i ddial. Fydd e ddim yn fodlon ystyried unrhyw iawndal; bydd yn gwrthod dy arian, faint bynnag wnei di ei gynnig iddo.

Diarhebion 6:1-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Fy mab, os rhoddaist wystl i'th gymydog, neu fynd yn feichiau i ddieithryn, a chael dy rwymo gan dy eiriau dy hun, a'th ddal gan eiriau dy enau, yna gweithreda fel hyn, fy mab, ac achub dy hun: gan dy fod yn llaw dy gymydog, dos ar frys ac ymbil â'th gymydog; paid â rhoi cwsg i'th lygaid na gorffwys i'th amrannau; achub dy hun fel ewig o afael yr heliwr, neu aderyn o law yr adarwr. Ti ddiogyn, dos at y morgrugyn, a sylwa ar ei ffordd a bydd ddoeth. Er nad oes ganddo arweinydd na rheolwr na llywodraethwr, y mae'n darparu ei gynhaliaeth yn yr haf, yn casglu ei fwyd amser cynhaeaf. O ddiogyn, am ba hyd y byddi'n gorweddian? Pa bryd y codi o'th gwsg? Ychydig gwsg, ychydig hepian, ychydig blethu dwylo i orffwys, a daw tlodi arnat fel dieithryn creulon, ac angen fel gŵr arfog. Un dieflig, un drwg, sy'n taenu geiriau dichellgar, yn wincio â'i lygad, yn pwnio â'i droed, ac yn gwneud arwyddion â'i fysedd. Ei fwriad yw gwyrdroi, cynllunio drwg yn wastad, a chreu cynnen. Am hynny daw dinistr arno yn ddisymwth; fe'i dryllir yn sydyn heb fodd i'w arbed. Chwe pheth sy'n gas gan yr ARGLWYDD, saith peth sy'n ffiaidd ganddo: llygaid balch, tafod ffals, dwylo'n tywallt gwaed dieuog, calon yn cynllunio oferedd, traed yn prysuro i wneud drwg, gau dyst yn dweud celwydd, ac un sy'n codi cynnen rhwng perthnasau. Fy mab, cadw orchymyn dy dad; paid ag anwybyddu cyfarwyddyd dy fam; clyma hwy'n wastad yn dy galon, rhwym hwy am dy wddf. Fe'th arweiniant ple bynnag yr ei, a gwylio drosot pan orffwysi, ac ymddiddan â thi pan gyfodi. Oherwydd y mae gorchymyn yn llusern, a chyfarwyddyd yn oleuni, a cherydd disgyblaeth yn arwain i fywyd, ac yn dy gadw rhag gwraig cymydog a rhag gweniaith y ddynes estron. Paid â chwennych ei phrydferthwch, a phaid â gadael i'w chiledrychiad dy ddal; oherwydd gellir cael putain am bris torth, ond y mae gwraig rhywun arall yn chwilio am fywyd brasach. A all dyn gofleidio tân yn ei fynwes heb losgi ei ddillad? A all dyn gerdded ar farwor heb losgi ei draed? Felly y bydd yr un sy'n mynd at wraig ei gymydog; ni all unrhyw un gyffwrdd â hi heb gosb. Oni ddirmygir lleidr pan fo'n dwyn i foddhau ei chwant, er ei fod yn newynog? Pan ddelir ef, rhaid iddo dalu'n ôl seithwaith, a rhoi'r cyfan sydd ganddo. Felly, y mae'r godinebwr yn un disynnwyr, ac yn ei ddifetha'i hun wrth wneud hynny; caiff niwed ac amarch, ac ni ddilëir ei warth. Oherwydd y mae eiddigedd yn cynddeiriogi gŵr priod, ac nid yw'n arbed pan ddaw cyfle i ddial; ni fyn dderbyn iawndal, ac nis bodlonir, er cymaint a roddi.

Diarhebion 6:1-35 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Fy mab, os mechnïaist dros dy gymydog, ac os trewaist dy law yn llaw y dieithr, Ti a faglwyd â geiriau dy enau, ti a ddaliwyd â geiriau dy enau. Gwna hyn yr awr hon, fy mab, a gwared dy hun, gan i ti syrthio i law dy gymydog; cerdda, ac ymostwng iddo, ac ymbil â’th gymydog. Na ddyro gwsg i’th lygaid, na hun i’th amrantau. Gwared dy hun fel yr iwrch o law yr heliwr, ac fel aderyn o law yr adarwr. Cerdda at y morgrugyn, tydi ddiogyn; edrych ar ei ffyrdd ef, a bydd ddoeth: Nid oes ganddo neb i’w arwain, i’w lywodraethu, nac i’w feistroli; Ac er hynny y mae efe yn paratoi ei fwyd yr haf, ac yn casglu ei luniaeth y cynhaeaf. Pa hyd, ddiogyn, y gorweddi? pa bryd y cyfodi o’th gwsg? Eto ychydig gysgu, ychydig hepian, ychydig blethu dwylo i gysgu. Felly y daw tlodi arnat fel ymdeithydd, a’th angen fel gŵr arfog. Dyn i’r fall, a gŵr anwir, a rodia â genau cyndyn. Efe a amneidia â’i lygaid, efe a lefara â’i draed, efe a ddysg â’i fysedd. Y mae pob rhyw gyndynrwydd yn ei galon; y mae yn dychymyg drygioni bob amser, yn peri cynhennau. Am hynny ei ddinistr a ddaw arno yn ddisymwth: yn ddisymwth y dryllir ef, fel na byddo meddyginiaeth. Y chwe pheth hyn sydd gas gan yr ARGLWYDD: ie, saith beth sydd ffiaidd ganddo ef: Llygaid beilchion, tafod celwyddog, a’r dwylo a dywalltant waed gwirion, Y galon a ddychmygo feddyliau drwg, traed yn rhedeg yn fuan i ddrygioni, Tyst celwyddog yn dywedyd celwydd, a’r neb a gyfodo gynnen rhwng brodyr. Fy mab, cadw orchymyn dy dad, ac nac ymado â chyfraith dy fam. Rhwym hwynt ar dy galon yn wastadol; clwm hwynt am dy wddf. Pan rodiech, hi a’th gyfarwydda; pan orweddych, hi a’th wylia; pan ddeffroych, hi a gydymddiddan â thi. Canys cannwyll yw y gorchymyn; a goleuni yw y gyfraith; a ffordd i fywyd yw ceryddon addysg: I’th gadw rhag y fenyw ddrwg, a rhag gweniaith tafod y ddieithr. Na chwennych ei phryd hi yn dy galon; ac na ad iddi dy ddal â’i hamrantau. Oblegid y fenyw buteinig y daw dyn i damaid o fara; a gwraig gŵr arall a hela yr enaid gwerthfawr. A ddichon gŵr ddwyn tân yn ei fynwes, heb losgi ei ddillad? A ddichon gŵr rodio ar hyd marwor, ac heb losgi ei draed? Felly, pwy bynnag a êl at wraig ei gymydog; y neb a gyffyrddo â hi, ni bydd lân. Ni ddirmyga neb leidr a ladratao i ddiwallu ei enaid, pan fyddo arno newyn: Ond os delir ef, efe a dâl yn saith ddyblyg; efe a rydd gymaint oll ag a feddo yn ei dŷ. Ond y neb a wnêl odineb â benyw, sydd heb synnwyr; y neb a’i gwnêl, a ddifetha ei enaid ei hun. Archoll a gwarth a gaiff efe; a’i gywilydd ni ddileir. Canys cynddaredd yw eiddigedd gŵr; am hynny nid erbyd efe yn nydd dial. Ni bydd ganddo bris ar ddim iawn; ac ni fodlonir ef, er rhoi rhoddion lawer.