Diarhebion 26:20-22
Diarhebion 26:20-22 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae tân yn diffodd os nad oes coed i’w llosgi, ac mae ffrae yn tawelu os nad oes rhywun yn hel clecs. Ond mae rhywun sy’n dechrau ffrae fel rhoi glo ar farwor neu goed ar y tân. Mae gwrando ar glecs fel bwyd blasus – mae’r cwbl yn cael ei lyncu.
Rhanna
Darllen Diarhebion 26Diarhebion 26:20-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Heb goed fe ddiffydd tân, a heb y straegar fe dderfydd am gynnen. Fel glo i farwor, a choed i dân, felly y mae'r cwerylgar yn creu cynnen. Y mae geiriau'r straegar fel danteithion sy'n mynd i lawr i'r cylla.
Rhanna
Darllen Diarhebion 26Diarhebion 26:20-22 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Megis pan ddarfyddo y coed, y diffydd y tân: felly pryd na byddo athrodwr, derfydd y gynnen. Fel glo i’r marwor, a choed i’r tân; felly y mae gŵr cynhennus i ennyn cynnen. Geiriau yr athrodwr sydd megis archollion, a hwy a ddisgynnant i gelloedd y bol.
Rhanna
Darllen Diarhebion 26