Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 26

26
1Fel eira yn yr haf, neu law yn ystod y cynhaeaf,
felly nid yw anrhydedd yn gweddu i'r ffôl.
2Fel aderyn y to yn hedfan, neu wennol yn gwibio,
felly ni chyflawnir melltith ddiachos.
3Chwip i geffyl, ffrwyn i asyn,
a gwialen i gefn ffyliaid!
4Paid ag ateb y ffŵl yn ôl ei ffolineb,
rhag i ti fynd yn debyg iddo.
5Ateb y ffŵl yn ôl ei ffolineb,
rhag iddo fynd yn ddoeth yn ei olwg ei hun.
6Y mae'r sawl sy'n anfon neges yn llaw ffŵl
yn torri ymaith ei draed ei hun ac yn profi trais.
7Fel coesau'r cloff yn honcian,
felly y mae dihareb yng ngenau ffyliaid.
8Fel gosod carreg mewn ffon dafl,
felly y mae rhoi anrhydedd i ffŵl.
9Fel draenen yn mynd i law meddwyn,
felly y mae dihareb yng ngenau ffyliaid.
10Fel saethwr yn clwyfo pawb sy'n mynd heibio,
felly y mae'r un sy'n cyflogi ffŵl neu feddwyn.
11Fel ci yn troi'n ôl at ei gyfog,
felly y mae'r ffŵl sy'n ailadrodd ei ffolineb.
12Fe welaist un sy'n ddoeth yn ei olwg ei hun;
y mae mwy o obaith i ffŵl nag iddo ef.
13Dywed y diog, “Y mae llew ar y ffordd,
llew yn rhydd yn y strydoedd!”
14Fel y mae drws yn troi ar ei golyn,
felly y mae'r diog yn ei wely.
15Y mae'r diog yn gwthio'i law i'r ddysgl,
ond yn rhy ddiog i'w chodi i'w geg.
16Y mae'r diog yn ddoethach yn ei olwg ei hun
na saith o rai sy'n ateb yn synhwyrol.
17Fel cydio yng nghlustiau ci sy'n mynd heibio,
felly y mae ymyrryd yng nghweryl rhywun arall.
18Fel rhywun gwallgof yn saethu
pentewynion â saethau marwol,
19felly y mae'r un sy'n twyllo'i gymydog,
ac yn dweud, “Dim ond cellwair yr oeddwn.”
20Heb goed fe ddiffydd tân,
a heb y straegar fe dderfydd am gynnen.
21Fel glo i farwor, a choed i dân,
felly y mae'r cwerylgar yn creu cynnen.
22Y mae geiriau'r straegar fel danteithion
sy'n mynd i lawr i'r cylla.
23Fel golchiad arian ar lestr pridd,
felly y mae geiriau esmwyth#26:23 Felly Groeg. Hebraeg, tanllyd. a chalon ddrygionus.
24Y mae gelyn yn rhagrithio â'i eiriau,
ac yn cynllunio twyll yn ei galon;
25pan yw'n llefaru'n deg, paid ag ymddiried ynddo,
oherwydd y mae saith peth ffiaidd yn ei feddwl;
26er iddo guddio'i gasineb â rhagrith,
datguddir ei ddrygioni yn y gynulleidfa.
27Y mae'r un sy'n cloddio pwll yn syrthio iddo,
a daw carreg yn ôl ar yr un sy'n ei threiglo.
28Y mae tafod celwyddog yn casáu purdeb,
a genau gwenieithus yn dwyn dinistr.

Dewis Presennol:

Diarhebion 26: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda