Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 26

26
1Megis ôd yr haf, neu law y cynhaeaf, felly nid cymwys i’r ffôl anrhydedd. 2Fel yr aderyn wrth grwydro, a’r wennol wrth ehedeg, felly y felltith ddiachos ni ddaw. 3Ffrewyll i farch, ffrwyn i asyn, a gwialen i gefn yr ynfyd. 4Na ateb ynfyd yn ôl ei ynfydrwydd; rhag dy fod yn gyffelyb iddo. 5Ateb yr ynfyd yn ôl ei ynfydrwydd; rhag iddo fod yn ddoeth yn ei olwg ei hun. 6Y neb a yrro negesau gydag un angall, a dyr ymaith y traed, ac a yf golled. 7Nid gogyhyd esgeiriau y cloff: felly dameg yng ngenau ffyliaid. 8Fel un yn rhwymo carreg mewn tafl; felly y gwna y neb a anrhydeddo ffôl. 9Fel draen yn myned i law dyn meddw; felly y mae dihareb yng ngenau yr angall. 10Y Duw mawr yr hwn a luniodd bob peth, sydd yn gobrwyo y ffôl ac yn talu i’r troseddwyr. 11Megis y mae y ci yn dychwelyd at ei chwydfa; felly y mae y ffôl yn dychwelyd at ei ffolineb. 12A weli di ŵr doeth yn ei olwg ei hun? gwell yw y gobaith am ffôl nag am hwnnw. 13Y mae llew mawr ar y ffordd, medd y diog, y mae llew yn yr heolydd. 14Fel y drws yn troi ar ei golyn, felly y try y diog yn ei wely. 15Y diog a guddia ei law yn ei fynwes; blin ganddo ei hestyn at ei enau drachefn. 16Doethach yw y diog yn ei olwg ei hun, na seithwyr yn adrodd rheswm. 17Y neb wrth fyned heibio a ymyrro â chynnen ni pherthyn iddo, sydd megis un yn cymryd ci erbyn ei glustiau. 18Fel dyn gwallgofus a daflo bentewynion tân, saethau, ac arfau marwolaeth; 19Felly y mae y gŵr a dwyllo ei gymydog, ac a ddywed, Onid cellwair yr ydwyf? 20Megis pan ddarfyddo y coed, y diffydd y tân: felly pryd na byddo athrodwr, derfydd y gynnen. 21Fel glo i’r marwor, a choed i’r tân; felly y mae gŵr cynhennus i ennyn cynnen. 22Geiriau yr athrodwr sydd megis archollion, a hwy a ddisgynnant i gelloedd y bol. 23Fel sorod arian wedi eu bwrw dros ddryll o lestr pridd; felly y mae gwefusau poeth, a chalon ddrwg. 24Y digasog a ragrithia â’i wefusau, ac yn ei galon yn bwriadu twyll: 25Pan ddywedo efe yn deg, nac ymddiried iddo: canys y mae saith ffieidd-dra yn ei galon ef. 26Trwy gyfrwyster y cuddir digasedd: ond ei ddrygioni a ddatguddir yn y gynulleidfa. 27Y neb a gloddio bydew, a syrth ynddo; a’r neb a dreiglo garreg, ato y dychwel. 28Y tafod celwyddog a gasâ y neb a gystuddio efe; a’r genau gwenieithus a wna ddinistr.

Dewis Presennol:

Diarhebion 26: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd