Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 27

27
1Nac ymffrostia o’r dydd yfory: canys ni wyddost beth a ddigwydd mewn diwrnod. 2Canmoled arall dydi, ac nid dy enau dy hun; estron, ac nid dy wefusau dy hunan. 3Trom yw y garreg, a phwysfawr yw y tywod: ond digofaint y ffôl sydd drymach na hwy ill dau. 4Creulon yw llid, fel llifddwfr yw digofaint; a phwy a ddichon sefyll o flaen cenfigen? 5Gwell yw cerydd cyhoedd na chariad cuddiedig. 6Ffyddlon yw archollion y caredig: ond cusanau y digasog ydynt dwyllodrus. 7Y dyn llawn a fathra y dil mêl: ond i’r newynog pob peth chwerw sydd felys. 8Gŵr yn ymdaith o’i le ei hun, sydd debyg i aderyn yn cilio o’i nyth. 9Olew ac arogl-darth a lawenycha y galon; felly y gwna mwynder cyfaill trwy gyngor ffyddlon. 10Nac ymado â’th gydymaith dy hun, a chydymaith dy dad; ac na ddos i dŷ dy frawd yn amser dy orthrymder: canys gwell yw cymydog yn agos na brawd ymhell. 11Bydd ddoeth, fy mab, a llawenycha fy nghalon; fel y gallwyf ateb i’r neb a’m gwaradwyddo. 12Y call a wêl y drwg yn dyfod, ac a ymgûdd: ond yr angall a ânt rhagddynt, ac a gosbir. 13Cymer wisg yr hwn a fachnïo dros y dieithr; a chymer wystl ganddo dros y ddieithr. 14Y neb a fendithio ei gydymaith â llef uchel y bore pan gyfodo, cyfrifir hyn yn felltith iddo. 15Defni parhaus ar ddiwrnod glawog, a gwraig anynad, cyffelyb ydynt. 16Y mae yr hwn a’i cuddio hi, megis yn cuddio y gwynt, ac olew ei ddeheulaw, yr hwn a ymddengys. 17Haearn a hoga haearn: felly gŵr a hoga wyneb ei gyfaill. 18Y neb a gadwo ei ffigysbren, a fwyty o’i ffrwyth ef: a’r neb a wasanaetho ei feistr, a ddaw i anrhydedd. 19Megis mewn dwfr y mae wyneb yn ateb i wyneb: felly y mae calon dyn i ddyn. 20Ni lenwir uffern na distryw: felly ni lenwir llygaid dyn. 21Fel y tawddlestr i’r arian, a’r ffwrnais i’r aur: felly y mae gŵr i’w glod. 22Er i ti bwyo ffôl mewn morter â phestl ymhlith gwenith, eto nid ymedy ei ffolineb ag ef. 23Edrych yn ddyfal ar dy anifeiliaid, a gofala am dy braidd. 24Canys cyfoeth ni phery byth: ac a bery y goron o genhedlaeth i genhedlaeth? 25Y gwair a flaendardda, a’r glaswellt a ymddengys, a llysiau y mynyddoedd a gesglir. 26Yr ŵyn a’th ddillada, ac o’r geifr y cei werth tir. 27Hefyd ti a gei ddigon o laeth geifr yn fwyd i ti, yn fwyd i’th dylwyth, ac yn gynhaliaeth i’th lancesau.

Dewis Presennol:

Diarhebion 27: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd