Diarhebion 22:17-21
Diarhebion 22:17-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gwranda’n astud ar beth mae’r doethion wedi’i ddweud, a meddylia am y pethau dw i’n eu dysgu i ti. Mae’n beth da i’r rhain wreiddio’n ddwfn ynot ti ac iddyn nhw fod ar flaen dy dafod bob amser. Dw i am eu rhannu nhw hefo ti heddiw – ie, ti – er mwyn i ti drystio’r ARGLWYDD. Dw i wedi’u hysgrifennu nhw i lawr – “Y Tri Deg Cyngor Doeth”, i ti ddysgu’r gwir, a beth sy’n iawn, a mynd â’r atebion iawn i’r rhai wnaeth dy anfon di.
Diarhebion 22:17-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Rho sylw, a gwrando ar eiriau'r doethion, a gosod dy feddwl ar fy neall; oherwydd y mae'n werth iti eu cadw yn dy galon, ac iddynt oll gael eu sicrhau ar dy wefusau. Er mwyn i ti roi dy hyder yn yr ARGLWYDD yr wyf yn eu dysgu iti heddiw—ie, i ti! Onid wyf wedi ysgrifennu iti ddeg ar hugain o ddywediadau, yn llawn cyngor a deall, i ddysgu iti wirionedd geiriau cywir, fel y gelli roi ateb cywir i'r rhai a'th anfonodd?
Diarhebion 22:17-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gogwydda dy glust, a gwrando eiriau y doethion, a gosod dy galon ar fy ngwybodaeth. Canys peth peraidd yw os cedwi hwynt yn dy galon; cymhwysir hwynt hefyd yn dy wefusau. Fel y byddo dy obaith yn yr ARGLWYDD, yr hysbysais i ti heddiw, ie, i ti. Oni ysgrifennais i ti eiriau ardderchog o gyngor a gwybodaeth, I beri i ti adnabod sicrwydd geiriau gwirionedd, fel y gallit ateb geiriau y gwirionedd i’r neb a anfonant atat?