Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 22

22
1Mwy dymunol yw enw da na chyfoeth lawer; a gwell yw ffafr dda nag arian, ac nag aur. 2Y tlawd a’r cyfoethog a gydgyfarfyddant: yr Arglwydd yw gwneuthurwr y rhai hyn oll. 3Y call a genfydd y drwg, ac a ymgûdd: ond y ffyliaid a ânt rhagddynt, ac a gosbir. 4Gwobr gostyngeiddrwydd ac ofn yr Arglwydd, yw cyfoeth, ac anrhydedd, a bywyd. 5Drain a maglau sydd yn ffordd y cyndyn: y neb a gadwo ei enaid, a fydd bell oddi wrthynt hwy. 6Hyfforddia blentyn ym mhen ei ffordd; a phan heneiddio nid ymedy â hi. 7Y cyfoethog a arglwyddiaetha ar y tlawd; a gwas fydd yr hwn a gaffo fenthyg i’r gŵr a roddo fenthyg. 8Y neb a heuo anwiredd a fed flinder; a gwialen ei ddigofaint ef a balla. 9Yr hael ei lygad a fendithir: canys efe a rydd o’i fara i’r tlawd. 10Bwrw allan y gwatwarwr, a’r gynnen a â allan; ie, yr ymryson a’r gwarth a dderfydd. 11Y neb a garo lendid calon, am ras ei wefusau a gaiff y brenin yn garedig iddo. 12Llygaid yr Arglwydd a gadwant wybodaeth; ac efe a ddinistria eiriau y troseddwr. 13Medd y diog, Y mae llew allan; fo’m lleddir yng nghanol yr heolydd. 14Ffos ddofn yw genau gwragedd dieithr: y neb y byddo yr Arglwydd yn ddig wrtho, a syrth yno. 15Ffolineb sydd yn rhwym yng nghalon plentyn; ond gwialen cerydd a’i gyr ymhell oddi wrtho. 16Y neb a orthrymo y tlawd er ychwanegu ei gyfoeth, a’r neb a roddo i’r cyfoethog, a ddaw i dlodi yn ddiamau. 17Gogwydda dy glust, a gwrando eiriau y doethion, a gosod dy galon ar fy ngwybodaeth. 18Canys peth peraidd yw os cedwi hwynt yn dy galon; cymhwysir hwynt hefyd yn dy wefusau. 19Fel y byddo dy obaith yn yr Arglwydd, yr hysbysais i ti heddiw, ie, i ti. 20Oni ysgrifennais i ti eiriau ardderchog o gyngor a gwybodaeth, 21I beri i ti adnabod sicrwydd geiriau gwirionedd, fel y gallit ateb geiriau y gwirionedd i’r neb a anfonant atat? 22Nac ysbeilia mo’r tlawd, oherwydd ei fod yn dlawd: ac na orthryma y cystuddiol yn y porth. 23Canys yr Arglwydd a ddadlau eu dadl hwynt, ac a orthryma enaid y neb a’u gorthrymo hwynt. 24Na fydd gydymaith i’r dicllon; ac na chydgerdda â gŵr llidiog: 25Rhag i ti ddysgu ei lwybrau ef, a chael magl i’th enaid. 26Na fydd un o’r rhai a roddant eu dwylo, o’r rhai a fachnïant am ddyled. 27Oni bydd gennyt i dalu, paham y cymerai efe dy wely oddi tanat? 28Na symud mo’r hen derfyn, yr hwn a osododd dy dadau. 29A welaist ti ŵr diesgeulus yn ei orchwyl? efe a saif gerbron brenhinoedd, ac ni saif gerbron rhai iselradd.

Dewis Presennol:

Diarhebion 22: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda