1
Diarhebion 22:6
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
Hyfforddia blentyn ym mhen ei ffordd; a phan heneiddio nid ymedy â hi.
Cymharu
Archwiliwch Diarhebion 22:6
2
Diarhebion 22:4
Gwobr gostyngeiddrwydd ac ofn yr ARGLWYDD, yw cyfoeth, ac anrhydedd, a bywyd.
Archwiliwch Diarhebion 22:4
3
Diarhebion 22:1
Mwy dymunol yw enw da na chyfoeth lawer; a gwell yw ffafr dda nag arian, ac nag aur.
Archwiliwch Diarhebion 22:1
4
Diarhebion 22:24
Na fydd gydymaith i’r dicllon; ac na chydgerdda â gŵr llidiog
Archwiliwch Diarhebion 22:24
5
Diarhebion 22:9
Yr hael ei lygad a fendithir: canys efe a rydd o’i fara i’r tlawd.
Archwiliwch Diarhebion 22:9
6
Diarhebion 22:3
Y call a genfydd y drwg, ac a ymgûdd: ond y ffyliaid a ânt rhagddynt, ac a gosbir.
Archwiliwch Diarhebion 22:3
7
Diarhebion 22:7
Y cyfoethog a arglwyddiaetha ar y tlawd; a gwas fydd yr hwn a gaffo fenthyg i’r gŵr a roddo fenthyg.
Archwiliwch Diarhebion 22:7
8
Diarhebion 22:2
Y tlawd a’r cyfoethog a gydgyfarfyddant: yr ARGLWYDD yw gwneuthurwr y rhai hyn oll.
Archwiliwch Diarhebion 22:2
9
Diarhebion 22:22-23
Nac ysbeilia mo’r tlawd, oherwydd ei fod yn dlawd: ac na orthryma y cystuddiol yn y porth. Canys yr ARGLWYDD a ddadlau eu dadl hwynt, ac a orthryma enaid y neb a’u gorthrymo hwynt.
Archwiliwch Diarhebion 22:22-23
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos