Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 22

22
1Mwy dymunol yw enw da na chyfoeth lawer,
a gwell yw parch nag arian ac aur.
2Y mae un peth yn gyffredin i gyfoethog a thlawd:
yr ARGLWYDD a'u creodd ill dau.
3Y mae'r craff yn gweld perygl ac yn ei osgoi,
ond y gwirion yn mynd rhagddo ac yn talu am hynny.
4Gwobr gostyngeiddrwydd ac ofn yr ARGLWYDD
yw cyfoeth, anrhydedd a bywyd.
5Y mae drain a maglau ar ffordd y gwrthnysig,
ond y mae'r un gwyliadwrus yn cadw draw oddi wrthynt.
6Hyffordda blentyn ar ddechrau ei daith,
ac ni thry oddi wrthi pan heneiddia.
7Y mae'r cyfoethog yn rheoli'r tlawd,
ac y mae'r benthyciwr yn was i'r echwynnwr.
8Y mae'r un sy'n hau anghyfiawnder yn medi gofid,
a bydd gwialen ei ymffrost yn methu.
9Bendithir yr un hael
am ei fod yn rhannu ei fara i'r tlawd.
10Bwrw allan y gwatwarwr, a cheir terfyn ar ymryson,
a diwedd ar ddadlau a gwawd.
11Yr un sy'n hoffi purdeb meddwl
a geiriau grasol, y mae ef yn gyfaill i frenin.
12Y mae llygaid yr ARGLWYDD yn gwarchod deall,
ond y mae ef yn dymchwel geiriau twyllwr.
13Dywed y diog, “Y mae llew y tu allan;
fe'm lleddir yn y stryd.”
14Y mae genau'r wraig ddieithr fel pwll dwfn;
y mae'r un a ddigiodd yr ARGLWYDD yn syrthio iddo.
15Y mae ffolineb ynghlwm wrth feddwl plentyn,
ond y mae gwialen disgyblaeth yn ei yrru oddi wrtho.
16Y sawl sy'n gorthrymu'r tlawd i geisio elw iddo'i hun,
ac yn rhoi i'r cyfoethog, bydd hwnnw'n diweddu mewn angen.
Geiriau'r Doethion
17Rho sylw, a gwrando ar eiriau'r doethion,
a gosod dy feddwl ar fy neall;
18oherwydd y mae'n werth iti eu cadw yn dy galon,
ac iddynt oll gael eu sicrhau ar dy wefusau.
19Er mwyn i ti roi dy hyder yn yr ARGLWYDD
yr wyf yn eu dysgu iti heddiw—ie, i ti!
20Onid wyf wedi ysgrifennu iti ddeg ar hugain o ddywediadau,
yn llawn cyngor a deall,
21i ddysgu iti wirionedd geiriau cywir,
fel y gelli roi ateb cywir i'r rhai a'th anfonodd?
22Paid ag ysbeilio'r tlawd am ei fod yn dlawd,
a phaid â sathru'r anghenus yn y porth;
23oherwydd bydd yr ARGLWYDD yn dadlau eu hachos,
ac yn difetha'r rhai sy'n eu difetha hwy.
24Paid â chyfeillachu â neb a chanddo dymer ddrwg,
nac aros yng nghwmni'r dicllon,
25rhag iti ddysgu ei ffordd,
a'th gael dy hun mewn magl.
26Paid â rhoi gwystl,
a mynd yn feichiau am ddyledion;
27os na fydd gennyt ddim i dalu,
oni chymerir dy wely oddi arnat?
28Paid â symud yr hen derfynau
a osodwyd gan dy hynafiaid.
29Gwelaist un medrus yn ei waith;
bydd yn gwasanaethu brenhinoedd,
ond ni fydd yn gwasanaethu pobl ddibwys.

Dewis Presennol:

Diarhebion 22: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd