Diarhebion 19:1-11
Diarhebion 19:1-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae’n well bod yn dlawd ac yn onest nag yn ffŵl sy’n dweud celwydd. Dydy sêl heb ddeall ddim yn beth da; mae’r rhai sydd ar ormod o frys yn colli’r ffordd. Ffolineb pobl sy’n difetha’u bywydau, ond maen nhw’n dal dig yn erbyn yr ARGLWYDD. Mae cyfoeth yn denu llawer o ffrindiau, ond mae ffrind person tlawd yn troi cefn arno. Bydd tyst celwyddog yn cael ei gosbi; fydd rhywun sy’n palu celwyddau ddim yn dianc. Mae llawer yn crafu i ennill ffafr pobl bwysig, ac mae pawb eisiau bod yn ffrindiau gyda rhywun hael. Mae perthnasau rhywun tlawd eisiau cael gwared ag e; does dim syndod fod ei ffrindiau’n ei osgoi! Mae’n gofyn am help, ond does dim ymateb. Mae’r person doeth yn caru ei fywyd, a’r un sy’n gwneud yn siŵr ei fod yn deall yn hapus. Bydd tyst celwyddog yn cael ei gosbi; mae wedi darfod ar rywun sy’n palu celwyddau. Dydy byw’n foethus ddim yn gweddu i ffŵl; llai fyth, caethwas yn rheoli ei feistr. Mae rhywun call yn rheoli ei dymer; mae i’w ganmol am faddau i rywun sy’n pechu yn ei erbyn.
Diarhebion 19:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwell yw'r tlawd sy'n byw'n onest na'r un twyllodrus ei eiriau, ac yntau'n ynfyd. Nid oes gwerth mewn brwdfrydedd heb ddeall; y mae'r chwim ei droed yn colli'r ffordd. Ffolineb rhywun sy'n difetha'i ffordd, ond yn erbyn yr ARGLWYDD y mae'n dal dig. Y mae cyfoeth yn amlhau cyfeillion, ond colli ei gyfaill y mae'r tlawd. Ni chaiff tyst celwyddog osgoi cosb, ac ni ddianc yr un sy'n dweud celwydd. Y mae llawer yn ceisio ffafr pendefig, a phawb yn gyfaill i'r sawl sy'n rhoi. Y mae holl frodyr y tlawd yn ei gasáu; gymaint mwy y pellha'i gyfeillion oddi wrtho! Y mae'n eu dilyn â geiriau, ond nid ydynt yno. Y mae'r synhwyrol yn caru ei fywyd, a'r un sy'n diogelu gwybodaeth yn cael daioni. Ni chaiff tyst celwyddog osgoi cosb, a difethir yr un sy'n dweud celwydd. Nid yw moethusrwydd yn gweddu i'r ynfyd, na rheoli tywysogion i gaethwas. Y mae deall yn gwneud rhywun yn amyneddgar, a'i anrhydedd yw maddau tramgwydd.
Diarhebion 19:1-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gwell yw y tlawd a rodio yn ei uniondeb, na’r traws ei wefusau, ac yntau yn ffôl. Hefyd, bod yr enaid heb wybodaeth, nid yw dda; a’r hwn sydd brysur ei draed a becha. Ffolineb dyn a ŵyra ei ffordd ef: a’i galon a ymddigia yn erbyn yr ARGLWYDD. Cyfoeth a chwanega lawer o gyfeillion: ond y tlawd a ddidolir oddi wrth ei gymydog. Tyst celwyddog ni bydd dieuog: a lluniwr celwyddau ni ddianc. Llawer a ymbiliant o flaen pendefig: a phawb sydd gyfaill i’r hael. Holl frodyr y tlawd a’i casânt ef: pa faint mwy yr ymbellha ei gyfeillion oddi wrtho? er maint a ymnheddo, ni throant ato. A gaffo ddoethineb a gâr ei enaid: a gadwo ddeall a ennill ddaioni. Tyst celwyddog ni bydd dieuog; a thraethwr celwyddau a ddifethir. Nid gweddaidd i ffôl hyfrydwch: anweddeiddiach o lawer i was arglwyddiaethu ar benaethiaid. Synnwyr dyn a oeda ei ddigofaint ef: a harddwch yw iddo fyned dros gamwedd.