Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 19

19
1Gwell yw'r tlawd sy'n byw'n onest
na'r un twyllodrus ei eiriau, ac yntau'n ynfyd.
2Nid oes gwerth mewn brwdfrydedd heb ddeall;
y mae'r chwim ei droed yn colli'r ffordd.
3Ffolineb rhywun sy'n difetha'i ffordd,
ond yn erbyn yr ARGLWYDD y mae'n dal dig.
4Y mae cyfoeth yn amlhau cyfeillion,
ond colli ei gyfaill y mae'r tlawd.
5Ni chaiff tyst celwyddog osgoi cosb,
ac ni ddianc yr un sy'n dweud celwydd.
6Y mae llawer yn ceisio ffafr pendefig,
a phawb yn gyfaill i'r sawl sy'n rhoi.
7Y mae holl frodyr y tlawd yn ei gasáu;
gymaint mwy y pellha'i gyfeillion oddi wrtho!
Y mae'n eu dilyn â geiriau, ond nid ydynt yno.
8Y mae'r synhwyrol yn caru ei fywyd,
a'r un sy'n diogelu gwybodaeth yn cael daioni.
9Ni chaiff tyst celwyddog osgoi cosb,
a difethir yr un sy'n dweud celwydd.
10Nid yw moethusrwydd yn gweddu i'r ynfyd,
na rheoli tywysogion i gaethwas.
11Y mae deall yn gwneud rhywun yn amyneddgar,
a'i anrhydedd yw maddau tramgwydd.
12Y mae llid brenin fel rhuad llew ifanc,
ond ei ffafr fel gwlith ar laswellt.
13Y mae mab ynfyd yn ddinistr i'w dad,
a checru gwraig fel diferion parhaus.
14Oddi wrth rieni yr etifeddir tŷ a chyfoeth,
ond gan yr ARGLWYDD y ceir gwraig ddeallus.
15Y mae segurdod yn dwyn trymgwsg,
ac i'r diogyn daw newyn.
16Y mae'r un sy'n cadw gorchymyn yn ei ddiogelu ei hun,
ond bydd y sawl sy'n diystyru ei ffyrdd yn marw.
17Y mae'r un sy'n trugarhau wrth y tlawd yn rhoi benthyg i'r ARGLWYDD,
ac fe dâl ef yn ôl iddo am ei weithred.
18Cerydda dy fab tra bo gobaith iddo,
ond gofala beidio â'i ladd.
19Daw cosb ar y gwyllt ei dymer;
er iti ei helpu, rhaid gwneud hynny eto.
20Gwrando ar gyngor, a derbyn ddisgyblaeth,
er mwyn iti fod yn ddoeth yn y diwedd.
21Niferus yw bwriadau meddwl pobl,
ond cyngor yr ARGLWYDD sy'n sefyll.
22Peth dymunol mewn pobl yw eu teyrngarwch,
a gwell yw tlotyn na rhywun celwyddog.
23Y mae ofn yr ARGLWYDD yn arwain i fywyd,
a'r sawl a'i medd yn gorffwyso heb berygl niwed.
24Er i'r diogyn wthio'i law i'r ddysgl,
eto nid yw'n ei chodi at ei enau.
25Os curi'r gwatwarwr, bydd y gwirion yn dysgu gwers;
os ceryddi'r deallus, ef ei hun sy'n ennill gwybodaeth.
26Y mae'r sawl sy'n cam-drin ei dad ac yn diarddel ei fam
yn fab gwaradwyddus ac amharchus.
27Fy mab, os gwrthodi wrando ar gerydd,
byddi'n troi oddi wrth eiriau gwybodaeth.
28Y mae tyst anonest yn gwatwar barn,
a genau'r drygionus yn parablu#19:28 Tebygol. Cymh. 15:28. Hebraeg, llyncu. camwedd.
29Trefnwyd cosb ar gyfer gwatwarwyr,
a chernodiau i gefn ynfydion.

Dewis Presennol:

Diarhebion 19: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda